
Beth yw cefndir y prosiect?
Mae’r prosiect yn anelu i ddatblygu model di-dor o wasanaethau anabledd dysgu wedi ei seilio ar yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn. Bydd y prosiect yn cyflawni hyn drwy well integreiddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Bydd hyn yn sicrhau fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu byw yn fwy annibynnol a chael y gofal y maent ei angen yn nes at adref. Bwriad y prosiect yw mewnosod Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru 2018-2023 y cytunwyd arni’n ddiweddar gan y chwe Awdurdod yng Ngogledd Cymru a BIPBC. Bydd cyd gynhyrchu yn greiddiol i’r ffordd y byddwn yn gweithio wrth i ni anelu i gefnogi newid hirdymor cynaliadwy.
Cyfarfod y tîm!
Mae tîm y prosiect i gyd wedi eu recriwtio a bydd holl aelodau’r tîm yn eu lle erbyn canol Mai 2019. Mae’r tîm yn cynnwys pobl gydag ystod amrywiol o gefndiroedd mewn gwasanaethau gweithredol Anableddau Dysgu a chomisiynu yn ogystal â chefndiroedd mewn rheoli prosiect, trydydd sector, iechyd ac AD. Kathryn Whitfield sy’n arwain y tîm fel Rheolwr Rhaglen. Mae cynllunio o amgylch y ffrydiau gwaith wedi dechrau gydag aelodau o’r tîm wedi eu nodi i arwain neu gyd arwain mewn meysydd penodol. Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda phartneriaid statudol i nodi pa faes fydd yn arwain ar brosiectau penodol sy’n gysylltiedig â phob un o’r pum ffrwd waith.
Lle gallwch ddod o hyd i ni?
Mae’r tîm wedi ei leoli yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint yn Ewlo, ond bydd natur y gwaith yn golygu y bydd aelodau’r tîm i’w gweld ar draws Gogledd Cymru, a byddant yn gweithio mewn swyddfeydd ardal lleol ac yn cysylltu gyda budd-ddeiliaid perthnasol e.e. y trydydd sector, iechyd, grwpiau cyfranogi ayb. Rydym yn dîm hynod o hyblyg ac yn hapus i gwrdd â grwpiau sydd â diddordeb lle bynnag sydd orau ganddynt.
Y diweddaraf hyd yma
Fel rhan o wariant cyllideb 18-19, mae £5000 wedi dod ar gael i bob un o Gynghorau Gwirfoddol Ardaloedd yr Awdurdodau Lleol a bydd y swyddogion cyswllt sirol yn gweithio gyda nhw i ddosbarthu’r grantiau yn unol ag amcanion y strategaeth. Roedd £6000 ar gael hefyd i BIPBC i ariannu IPADiau i alluogi gwell cyfathrebu gyda wardiau ysbyty a staff cyswllt er mwyn iddynt gael eu hysbysu ar unwaith pan fo pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu hanfon i’r ysbyty. Bydd gweddill grant BIPBC yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwelliannau i wiriadau iechyd.
Mae’r tîm yn gweithio ar y pecynnau gwaith ac maent yn y broses o ddatblygu cynllun prosiect manwl, a fydd yn cael ei rannu gyda a’i gwblhau gan bartneriaid erbyn dechrau Mehefin.
Mae dau ddiwrnod cynllunio strategol wedi bod oedd wedi eu hannog gan yr ardaloedd lleol ac mae aelodau tîm yn mynychu cynifer o gyfarfodydd ag y gallant er mwyn adnabod blaenoriaethau.
Er mwyn cydymffurfio gyda chyllid trawsnewid Llywodraeth Cymru, bydd angen i’r prosiect gael ei werthuso’n broffesiynol gan ystyried gwelliant i ganlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol a gwell gwerth o ran gofal iechyd a darpariaeth gwasanaeth fforddiadwy. Y sefydliad a benodwyd i gyflawni hyn yw IPC Oxford Brookes ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â nhw yn y dyfodol agos.
Mae’r tîm yn brysur yn cynllunio lansiad y prosiect a fydd yn digwydd ar 14 Mehefin. Bydd hwn yn ddiwrnod cyffrous lle bydd gennym y cyfle i rannu arfer gorau a thrafod sut y byddwn yn mynd ymlaen â’r ffrydiau gwaith. Mae croeso i bob grŵp â diddordeb i fynychu a chymryd rhan mewn nifer o weithdai a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd.
Wrth i ni ddod â’n strategaeth gyfathrebu ynghyd fe fyddwn yn defnyddio gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu cynnydd a rhannu deunyddiau o ddiddordeb yn ogystal â bwletinau rheolaidd.
Cyfarfod y tîm!
Liana Duffy. Ffrwd Gwaith Newid Cymunedol a Diwylliannol.
Ebost Liana.Duffy@flintshire.gov.uk
Rwyf wedi treulio rhan fwyaf o fy ngyrfa ym maes atal digartrefedd, sydd yn faes eithaf amrywiol, cyffrous ac yn rhoi boddhad i weithio ynddo. Dros y 3 blynedd diwethaf rwyf wedi gweithio fel Swyddog Comisiynu ar gyfer Atal Digartrefedd yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae fy swyddi blaenorol wedi cynnwys rheoli atgyfeiriadau cymorth, ymchwil, a chymorth rheng flaen, gan gynnwys gweithio gyda phobl sy’n cysgu allan a mentora cymheiriaid gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cwrdd â llawer o bobl gwych ac ysbrydoledig, ac yn benodol yn y blynyddoedd diweddar, rwyf wedi gallu gweithio’n agos gyda’r pobl hyn i sicrhau bod cyd-gynhyrchiad – gweithio mewn partneriaeth gwirioneddol – yn ganolog i sut mae gwasanaethau cynnal atal digartrefedd yn cael eu datblygu yn Sir Ddinbych.
Rwyf yn hynod brwdfrydig ynghylch galluogi pobl i gael dewis gwirioneddol a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, rwy’n credu’n gryf bod hyn yn rhywbeth y dylai fod yn ganolog yn yr holl bethau yr ydym yn ei wneud mewn gofal a chefnogaeth – naill ai mewn anableddau dysgu, digartrefedd neu unrhyw beth arall. Dyma’r rheswm fy mod yn gyffrous i allu bod yn rhan o’r prosiect gweddnewid hwn, gan weithio ochr yn ochr â phobl yr ydym yn eu cefnogi, eu teuluoedd, gofalwyr a chymunedau, a chydweithwyr ar draws Gogledd Cymru, i sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi’n ystyrlon gan y gymuned o’u cwmpas iddynt allu creu a chyflawni eu dyheadau eu hunain.
Paul Hosker, Arweinydd Iechyd.
Ebost Paul.Hosker@flintshire.gov.uk
Rwyf wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am dros ddeugain o flynyddoedd. Dechreuais fy ngyrfa yn nyrsio cyffredinol a chymhwyso’n ddiweddarach fel nyrs iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Rwyf wedi helpu i ddatblygu a siapio gwasanaethau dan Strategaeth Cymru Gyfan o fewn Gogledd Cymru yn yr 1980au, a dod yn Rheolwr Tîm ar gyfer tîm iechyd anableddau dysgu, Sir Ddinbych yn y 1990au tan 2007. Yna treuliais ychydig o amser fel uwch nyrs glinigol yn adolygu lleoliadau sir ar ran iechyd gan gynnwys dychwelyd unigolion drwy fentrau a gomisiynwyd yn lleol – cydweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol a’r sector annibynnol. Cymrais y rôl arweiniol i weithredu Deddf Iechyd Meddwl 1983 (diwygiwyd 2007) a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cyn fy ymddeoliad ‘byr’ yn 2013, roeddwn yn gweithio i’r Tîm Cyswllt Iechyd yn canolbwyntio ar unigolion gydag anableddau dysgu sydd wedi profi salwch meddyliol difrifol. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Preswyl Cymunedol Gwell.
Kim Killow, Ffrwd Gwaith Integreiddiad
Ebost Kim.Killow@flintshire.gov.uk
Gyda bron i 20 mlynedd o brofiad fel Swyddog Datblygu, mae fy ngyrfa wedi canolbwyntio ar wella gwasanaethau i grwpiau sydd yn profi gwaharddiad cymdeithasol ac economaidd. Mae’r mwyafrif o fy mhrofiad wedi bod yn y sector cyflogadwyedd. Mae hyn wedi cynnwys gweithio’n llwyddiannus gyda gweithwyr proffesiynol iechyd a chymdeithasol i greu llwybrau i gymorth cyflogaeth i’w defnyddwyr gwasanaeth. Mae gennyf ystod o sgiliau yr wyf yn dod i’r Prosiect Gogledd Cymru Ynghyd gan gynnwys rheoli prosiectau, gweithio mewn partneriaeth, trafodaethau a dull creadigol a hyblyg o gyd-gynhyrchu dulliau newydd o ddarparu gwasanaeth.
Paul Mazurek, Ffrwd Gwaith Teleofal
Ebost Paul.Mazurek@flintshire.gov.uk
Mae gennyf dros 34 mlynedd o brofiad o weithio o fewn maes Anableddau Dysgu. Dechreuais weithio mewn “sefydliad” mawr, cyn dyddiau Strategaeth Cymru Gyfan. Yn 1990, symudais i weithio i Wasanaethau Cymdeithasol Clwyd/Sir Ddinbych fel gweithiwr prosiect. Yn y swydd hon roeddwn yn cefnogi 2 ddyn i fyw yn eu cartref eu hunain yn y gymuned. Roeddwn yn y swydd hon am dros 14 mlynedd.
Ers y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi bod yn Gyfranogwr Gofal Cymdeithasol fel rhan o Dîm Anableddau Cymhleth, sef yr hen Dîm Anableddau Dysgu.
Rwyf wedi datblygu gwybodaeth ymarferol a phrofiad da o aml-asiantaethau a disgyblaeth sydd yn gysylltiedig ag Anableddau Dysgu, ac wedi cefnogi nifer o feysydd, gan gynnwys Teleofal a Thaliadau Uniongyrchol.
Rwyf yn gyffrous i fod yn rhan o brosiect Gweddnewid Anableddau Dysgu, gan symud strategaeth Anabledd Dysgu ymlaen ar gyfer y dyfodol i hyrwyddo a gwella bywydau pobl sydd ag Anableddau Dysgu.
Jeni Andrews, Rôl Cyswllt Conwy a Sir Ddinbych
Ebost Jeni.Andrews@flintshire.gov.uk
Ymunais â Chyngor Sir Clwyd yn 1994 fel Swyddog Hawliau Lles – gan helpu pobl i hawlio budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl atynt. Yn 2003, cefais waith fel Swyddog Penodai, yn bennaf i bobl sydd ag anableddau dysgu. Ers 2004, rwyf wedi bod yn gweithio yn Sir Ddinbych fel Swyddog Comisiynu a Chynllunio gydag oedolion sydd ag anableddau cymhleth. Rwyf wedi mwynhau’r rôl hwn yn fawr – yn gweithio gyda dinasyddion a’u teuluoedd, gyda staff yn y Cyngor a Darparwyr a sefydliadau eraill ar draws Sir Ddinbych.
Rwy’n credu bod hyn yn amser cyffrous ar gyfer y rhanbarth – mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi helpu i newid y ffordd y mae pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu cefnogi yng Nghymru. Bydd prosiect gweddnewid Gogledd Cymru Ynghyd yn symud pethau ymlaen, ac yn helpu i newid bywydau. Rwy’n edrych ymlaen i fod yn rhan o’r gwaith hwn.
Steve Brown, Comisiynu a Chaffael
Ebost Steve.brown@flintshire.gov.uk
Rwyf wedi bod yn adfocad a chefnogwr brwdfrydig i bobl o fewn Gwasanaethau Anabledd Dysgu ers dros 25 mlynedd, dechreuais fy ngyrfa yn sector Gofal yn y 90au cynnar, gan weithio ar draws gwasanaethau cymhleth yng ngogledd orllewin Lloegr, ac ers un mlynedd ar bymtheg diwethaf rwyf wedi bod yn Rheolwr Cymorth i Gyngor Sir y Fflint. Rwy’n ymarferwr awyddus o gymorth ymddygiad cadarnhaol ac wedi arbenigo mewn hyfforddiant a chynnwys modelau Cymorth Gweithredol o fewn Sir y Fflint, lle’r wyf hefyd yn darparu hyfforddiant a chymorth i awtistiaeth. Rwyf yn hapus o gael ymuno â prosiect Gweddnewid Gwasanaethau Anabledd Dysgu Gogledd Cymru, a byddaf yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr a chymunedau ar draws y rhanbarth i gyd-gynhyrchu gwasanaethau a gwneud argymhellion i wella bywydau pob unigolyn gydag Anableddau Dysgu.
Mark John Williams, Swyddog Cyswllt Wrecsam/Sir y Fflint
Ebost Mark.John-Williams@flintshire.gov.uk
Hoffwn gyflwyno fy hun fel y Swyddog Datblygu a Chynllunio newydd ar gyfer Wrecsam a Sir Y Fflint (Rhannu swydd gyda Bev Futia). Rwyf wedi gweithio gyda phobl gydag anableddau dysgu ers 33 mlynedd, ar ôl dechrau fel rhan o’r Rhaglen Strategaeth Cymru Gyfan yn 1986, felly mae cael y swydd hon yn teimlo fel cylch llawn! Mae gennyf frawd sydd ag anableddau dysgu sydd wedi budd gan nifer o ddulliau yr wyf wedi dysgu amdanynt. Mae wedi bod yn gweithio fel gosodwr teiar ers 1990, ac mae ganddo fywyd cymdeithasol amrywiol, ac wedi ein helpu’n rhannol drwy weithio gyda’n gilydd i greu ‘cylch cymorth’ yn 1994. Rwyf wedi defnyddio Cynllunio Sy’n Canolbwyntio Ar Yr Unigolyn ar gyfer fy ngyrfa gyfan, wedi arwain Tîm Cyfranogi, rheoli prosiect Gweddnewid llwyddiannus, cyd-arwain rhaglen Arweinyddiaeth i bobl gydag anableddau dysgu, ac yn fwy diweddar roeddwn yn Gyfarwyddwr Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru. Gan bod gennyf frwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ac yn ein cymunedau, bu i mi gyd-sefydlu Cwmni Buddiannau Cymunedol a Chyd-weithrediad, a enwyd yn Flintshire DO-IT (Developing Opportunities & Interests Together). Ymysg nifer o brosiectau cynhwysol yr ydym wedi’u creu, mae fy ffefryn yn cynnwys dau Fand Cymunedol. Mae hyn yn fy ngalluogi i fwynhau fy niddordeb – cerddoriaeth – rwy’n chwaraewr gitâr gwael, ond rwyf wrth fy modd yn ‘rocio’ gyda fy ffrindiau!
Sioned Williams, Swyddog Cyswllt Ynys Môn/Gwynedd
Ebost Sioned.Williams@flintshire.gov.uk
Helo, fy enw yw Sioned Williams ac rwyf yn byw ym Mhen Llŷn. Mae gennyf brofiad eang o weithio â unigiolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd, fel Swyddog Adfocatiaeth gyda Gwasanaeth Cynghori ac Adfocatiaeth Gogledd Cymru i gychwyn ac yna i Gyngor Gwynedd yn datblygu gwasanaethau yn ymwneud a Chynllunio Person Ganolog. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i weithio a chefnogi gofalwyr yng Ngwynedd fel Swyddog Maes gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr. Rwyf wedi gweithio fel Swyddog Datblygu gyda Hosbis Dewi Sant yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael cychwyn fy swydd newydd fel Swyddog Datblygu a Chynllunio yng Ngwynedd a Môn. Edrychaf ymlaen at eich cwrdd yn y dyfodol agos.
Sian Croston, Datblygu Gweithlu
Ebost Sian.Croston@flintshire.gov.uk
Rwyf yn gyffrous iawn i ymuno â’r tîm Gweddnewid fel Swyddog Cynllunio a Datblygu, gan arwain ar ffrwd gwaith Datblygu Gweithlu. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Lancaster yn 2001 gyda gradd mewn Rheoli ac Adnoddau Dyno, dechreuodd fy ngyrfa mewn AD. Mae fy mhrofiad cynnar yn cynnwys gweithio mewn swyddi AD gweithredol a strategaethol o fewn y diwydiant Adeiladu. Deng mlynedd yn ôl penderfynais ymuno â’r sector cyhoeddus a gweithio i Gyngor Sir Y Fflint. Ers hynny rwyf wedi cyflawni nifer o swyddi o fewn Partneriaethau Busnes AD, Datblygiad Sefydliadol a Dysgu a Datblygu, ar ôl cael cyfle i gyfrannu’n llwyddiannus i nifer o brosiectau strategol, ac mae rhai wedi bod yn rheolaidd. Rwyf yn gyffrous iawn i ymuno â Prosiect Gogledd Cymru Ynghyd, gyda gweledigaeth glir i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen
Ebost Kathryn.whitfield@flintshire.gov.uk
Rwyf wedi gweithio gyda phobl gydag anableddau dysgu drwy gydol fy ngyrfa, gan ddechrau gyda hyfforddi fel hyfforddwr swyddi gyda phobl gydag anableddau dysgu yn 1991. Rwyf dal yn gweld fy hun yn dysgu tasgau newydd hyd heddiw! Enillais gymhwyster Gweithiwr Cymdeithasol yn 1995 ac ymunais â Chyngor Sir Clwyd fel Rheolwr Gofal/Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Anableddau Dysgu. Roeddwn yn rhan o brosiect ailsefydlu Bryn y Neuadd rhwng 2000 a 2006, gan ailsefydlu 12 o unigolion yn ôl i ardal Sir Ddinbych, fe ddois yn Uwch Ymarferydd o fewn tîm anableddau dysgu Sir Ddinbych yn 2006 a Rheolwr Tîm yn 2011 pan dyfodd y tîm i weithio hefyd gydag unigolion gydag Awtistiaeth Gweithredu Lefel Uchel ac Anaf i’r Ymennydd. Treuliais 20 mlynedd yn gweithio fel Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac rwy’n Aseswr Lles Gorau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Mae’r cyfleoedd y mae’r prosiect hwn yn ei gyflwyno yn drawsffurfiadol ar gyfer Dinasyddion, teuluoedd a gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru. Fy rôl i – ynghyd â thîm o 10 swyddog cynllunio, cymhorthydd cefnogi busnes a chymhorthydd cyfrifyddiaeth, a’r rhai sydd yn rhan o’r fenter yn barod – fydd rheoli’r gweithrediad llwyddiannus o “Drawsffurfio rhaglen gwasanaethau anableddau dysgu” i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus ar draws y rhanbarth. Bydd y trawsnewid yn creu dull, strwythur a phroses sengl ac integredig i ddarparu gwasanaethau di-dor i bobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru. Nod y Prosiect yw datblygu model gwasanaeth newydd a fydd yn gynaliadwy ar ôl cwblhau’r trawsnewidiad. Dim pwysau felly!!
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i’r rôl hwn, felly edrychaf ymlaen yn fawr i gyfarfod y rhai sydd â rhan i chwarae yn y broses. Rydym yn lwcus o’r weledigaeth sydd mewn lle yn barod i siapio Strategaeth Anabledd Dysgu Ddrafft Gogledd Cymru. Rwy’n croesau unrhyw gyswllt gan unigolion neu dimoedd a hoffai drafod y prosiect, ac o bosib, bod yn rhan o ddatblygu (neu beilota) rhai o’r camau gweithredu allweddol sydd yn y Strategaeth Ddrafft.
Beverley Futia, Swyddog Cyswllt Wrecsam/Sir y Fflint
Ebost Beverley.Futia@flintshire.gov.uk
Rwyf wedi gweithio fel Rheolwr Prosiect a chyfrifydd gyda phrofiad eang o weithio gyda’r sector gyhoeddus am dros 10 mlynedd, am y 4 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol yn cefnogi gwasanaethau i ailgynllunio prosiectau mewn ymateb i gyfarwyddiadau llywodraethol a phwysau ariannol.
Mae gennyf brofiad o weithio fel hyfforddwr perfformiad, ymarferydd rhaglenni niwro ieithyddol ac ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar, ac rwyf wedi cefnogi nifer o dimau trwy newidiadau.
Mae gennyf ugain mlynedd o brofiad o wasanaethau anableddau dysgu drwy gefnogi fy nai, sydd ar hyn o bryd yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Rwyf yn byw yn Cei Connah gyda fy ngwr a’r ddau gi, ac rwyf yn mwynhau gwylio rasio ceir ar y penwythnosau.