• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Anabledd dysgu / Prosiect yn y Gogledd i drawsnewid gofal i bobl ag anableddau dysgu

Prosiect yn y Gogledd i drawsnewid gofal i bobl ag anableddau dysgu

31/10/2018

Mae prosiect yn y Gogledd yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor i bobl ag anableddau dysgu. Dyma’r prosiect diweddaraf i gael cyllid oddi wrth y gronfa werth £100m o eiddo Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyllid ar gyfer trawsnewid sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.

Heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn rhoi £1.69m dros gyfnod o ddwy flynedd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o weithio a allai gael eu defnyddio ledled Cymru yn y pen draw.

Daw’r cyllid o’r Gronfa Trawsnewid sy’n cefnogi camau allweddol cynllun Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Drwy integreiddio’r gwasanaethau iechyd, y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector, yn fwy effeithiol, bydd y prosiect yn helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw’n fwy annibynnol a chael y gofal y mae ei angen arnynt yn nes at eu cartrefi.

Bwriad y prosiect yw cyflawni hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol, gan sicrhau bod llai o ddyblygu mewn systemau cofnodi, fel nad yw bobl yn gorfod dweud rhywbeth fwy nag unwaith;
  • Datblygu’r gweithlu mewn modd sy’n sicrhau bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn ehangach yn ymwybodol o faterion sy’n ymwneud ag anableddau ymysg. O wneud hynny, dylai fod yn bosibl lleihau’r pwysau ar wasanaethau arbenigol ym maes anableddau dysgu yn y dyfodol.
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol i helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw’n fwy annibynnol o ddydd i ddydd.
  • Sicrhau newidiadau mewn cymuned a diwylliant, gan gynyddu nifer y bobl sydd mewn swyddi sy’n talu cyflog, sy’n cael mynediad at hyfforddiant, ac sy’n gwirfoddoli. Mae angen gweithredu dulliau mwy effeithiol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.

Dywedodd Mr Gething: “Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn disgrifio sut y byddwn ni’n trawsnewid ein ffordd o ddarparu gofal mewn modd sy’n ei gwneud yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd angen integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy effeithiol er mwyn dibynnu llai ar ysbytai, gan ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl. Rydyn ni’n defnyddio’r Gronfa Trawsnewid i ariannu nifer bach o brosiectau a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran datblygu a gweithredu modelau gofal newydd sydd â’r potensial i gael eu defnyddio ledled Cymru.

Nod y prosiect hwn ydy sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu er myn eu helpu i fyw’n fwy annibynnol. Y gobaith wedyn fydd cyflwyno’r syniadau newydd hyn ym mhob rhan o Gymru er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion a lleihau’r pwysau ar rannau o’r GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd: “Rydyn ni wrth ein bodd o gael gwybod bod ein cais am gyllid wedi llwyddo. Mae’n uchelgais mawr yma yn y Gogledd ein bod ni’n gwella’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a hynny drwy ganolbwyntio ar roi pobl yn gyntaf a threfnu ein gwasanaethau’n seiliedig ar anghenion y bobl sy’n byw yma.

“Mewn rhanbarth fel hwn, mae’n hanfodol rhannu adnoddau, profiadau, a sgiliau. Rydyn ni i gyd yn gweithio tuag at yr un nod, ac mae pob sefydliad wedi ymrwymo i sicrhau bod y breuddwyd hwn yn cael ei wireddu.

“Cafodd yr angen i drawsnewid gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu ei nodi fel un o’r prif feysydd gwaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyllid hwn i gryfhau a gwella ein gwasanaethau gwerthfawr presennol ymhellach.”

Ffeiliwyd dan: Anabledd dysgu, Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Cynrychiolydd Gofalwyr BPRh

Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym

Arganddosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025

  • Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Gogledd Cymru
  • Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru – pa gymorth sydd ar gael?
  • Gwobrau Cyfranogiad Cymdeithas Alzheimer – Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru 2024

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital