Gofalwr yw unrhyw un, boed yn blant neu oedolion sy’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen cymorth oherwydd eu salwch, eiddilwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ac na allant ymdopi heb eu cefnogaeth. Mae’r gofal a roddant yn ddi-dâl.
Nid yw llawer o ofalwyr yn gweld eu hunain yn ofalwyr ac mae’n cymryd dwy flynedd ar gyfartaledd iddynt gydnabod eu rôl fel gofalwr.
Gall fod yn anodd i ofalwyr weld eu rôl ofalu fel rhywbeth ar wahân i’r berthynas sydd ganddynt â’r person y maent yn gofalu amdano, boed y berthynas honno fel rhiant, plentyn, brawd neu chwaer, partner, neu ffrind.
Dyma stori Sue yn gofalu am ei gŵr John, a gafodd ddiagnosis o ddementia cymysg (Alzheimer’s a Vascular) tua 6 mlynedd yn ôl. STORI SUE
neu drwy eich Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
