Mae’r Rhaglen Trawsnewid bellach wedi’i disodli gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol.

Mae Cymru Iachach (2018), sef Strategaeth a ysgrifennwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r Adolygiad Seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn gosod y fframwaith polisi i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar lefel leol a rhanbarthol.
Mae diffyg cyfleoedd ar gael yn y dulliau gweithredu presennol i gymunedau a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, clinigwyr acíwt, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, fferyllwyr ac eraill – i gymryd rôl weithredol yn y gwaith o greu cynlluniau lleol a darparu gwasanaethau, a darparu arweinyddiaeth ar eu cyfer. Mae datblygu ardaloedd lleol integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ffordd o wella hyn a sicrhau arweinyddiaeth gymunedol, glinigol a phroffesiynol gref.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Rhanbarthol Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (2018-23), sy’n gosod allan ei flaenoriaethau ar gyfer gwaith integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwaith hwn, datblygodd y Bwrdd Partneriaeth raglen trawsnewid i ddarparu blaenoriaethau a gytunwyd a dwyn ymlaen yr argymhellion yn ‘Cymru Iachach’.
Mae 6 Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i sefydlu gwasanaethau integredig yn y gymuned. Mae datblygiad cynnar y gwasanaethau hyn wedi’i gefnogi gan ystod o ffrydiau cyllid gan gynnwys Cronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru.
Ariennir y rhaglen trwy Gronfa Drawsnewid Llywodraeth Cymru ac mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn ceisio adeiladu ar lwyddiant gwaith a ariannwyd gan y CGI a defnyddio ffyrdd newydd o weithio sy’n gosod yr hyn sy’n bwysig i bobl gogledd Cymru wrth wraidd popeth a wnawn. Mae’n arloesol ac yn llywio newid go iawn.
Ein bwriad yw dod ag amrywiaeth o wasanaethau iechyd cymunedol, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector ynghyd i ddatblygu ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig o fewn cymunedau.
Mae Timau Adnoddau Cymunedol eisoes yn bodoli ledled gogledd Cymru – caiff y rhain eu gwneud yn fwy er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig i’r holl bobl o fewn unrhyw ardal leol. Bydd y timau lleol hyn yn cael eu grymuso i arloesi a defnyddio dull gweithredu lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau.
Mae dull gweithredu gogledd Cymru yn un sy’n ‘cynllunio’n rhanbarthol, darparu’n lleol’ – caiff y gwaith o ddatblygu gwasanaethau integredig newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ei arwain gan gyfres o Egwyddorion Dylunio. Mae’r egwyddorion hyn yn disgrifio ‘sut’ y dylai gofal integredig gael ei gynllunio a’i ddarparu. Trwy adeiladu ar y blaenoriaethau a amlinellir yn ‘Cymru Iachach’, mae’r Egwyddorion Dylunio hyn yn nodi bod disgwyl parch, parch cydradd ac ymgysylltiad go iawn yn y gwaith o gynllunio a darparu gofal a chymorth integredig sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd ac sydd o safon uchel.
Bwriad yr Egwyddorion Dylunio yw llywio’r newidiadau mewn diwylliant a gwasanaethau sy’n ofynnol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, darparu’r diwygiadau hyn yn llwyddiannus a gwella canlyniadau i ddinasyddion. Maent yn esbonio beth y gall pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, a’u teuluoedd a’u gofalwyr, ei ddisgwyl gan wasanaethau integredig, yn ogystal ag ymddygiad a blaenoriaethau a ddisgwylir gan sefydliadau a phobl sy’n cynllunio a darparu gofal a chymorth.
Arweiniad i Ardaloedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig yng ngogledd Cymru

Dr Chris Stockport
Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Cadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol
“Fel Meddyg Teulu rwy’n teimlo’n angerddol am arloesi ac ail-lunio gofal sylfaenol a chymunedol a chredaf y dylem ddatblygu ein gwasanaethau o amgylch anghenion ein dinasyddion – nid sefydliadau. Un o’n blaenoriaethau yw darparu gwasanaethau gofal gwell yn nes at gartrefi pobl. Trwy annog cydweithio gwell rhwng gofal iechyd, gofal cymdeithasol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol, gallwn wneud mwy i atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth a gwella’r ffordd y maent yn derbyn gofal yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.”

Alwyn Jones
Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyngor Sir Ynys Môn
Is-Gadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol
“Ein ffocws clir ledled gogledd Cymru yw helpu pobl i aros yn y lle sy’n bwysig iddyn nhw, sef eu cartrefi eu hunain. I gyflawni hyn, rydym yn datblygu rhaglen waith gyffrous i sicrhau gwell mynediad at ofal a chefnogaeth o safon uchel yng nghartrefi a chymunedau pobl, gyda mynediad at help arbenigol pan fo’i angen ar bobl.”
Beth yw integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae’r ffordd y caiff Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu darparu ledled gogledd Cymru yn newid.
Bydd integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ardaloedd lleol yn golygu y byddwn yn gallu dod â gwasanaethau ynghyd yng nghymunedau pobl, a sicrhau eu bod yn gydgysylltiedig, yn haws i gael gafael arnynt ac yn gallu darparu’r hyn sy’n bwysig i bobl yn well.
Bydd Cynghorau a gwasanaethau iechyd cymunedol, yn ogystal ag ystod o gefnogaeth a ddarperir gan grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, yn cael eu cydgysylltu a’u darparu o fewn ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- Nyrsio Cymunedol
- Meddygon teulu
- Gwaith Cymdeithasol
- Fferyllwyr
- Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol
Mae pobl gogledd Cymru wedi dangos yn glir eu bod yn dymuno cael gwell mynediad at wasanaethau yn eu cymunedau eu hunain, a’u bod yn dymuno parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n bosibl.
Bydd yr ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd yn gwella’r gefnogaeth sydd ar gael mewn cymunedau, sy’n golygu y gall pobl aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, gyda gwell mynediad at ystod o wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion.
Yng Ngogledd Cymru
Yng ngogledd Cymru mae’r gwaith o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol wedi dechrau. Mae cynrychiolwyr o bob sector gan gynnwys Cynghorau, y GIG a’r Trydydd Sector wedi dod ynghyd i ffurfio Byrddau Gwasanaeth Integredig Ardal.
Mae’r Byrddau hyn yn ymroddedig i wrando ar farn cymunedau lleol a gweithwyr proffesiynol lleol a’u cynnwys yn eu hymdrechion i gynllunio gwasanaethau a chymorth, mewn modd sy’n diwallu anghenion pobl leol.
Mae tri Bwrdd Ardal wedi cael eu sefydlu sy’n cwmpasu’r Gorllewin (Ynys Môn a Gwynedd), y Canol (Conwy a Sir Ddinbych) a’r Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint) er mwyn llywio’r newid hwn.
Mae timau Arweinyddiaeth Ardal yn cael eu sefydlu a byddant yn gyfrifol am gomisiynu a darparu gwasanaethau ym mhob un o’r Ardaloedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig newydd.
Bwriad gwasanaethau cynllunio ar lefel Ardaloedd Lleol yw gwella’r berthynas rhwng gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol statudol a chymunedau. Bydd timau Arweinyddiaeth Ardaloedd Lleol yn darparu cefnogaeth i wasanaethau a gweithgareddau cymunedol presennol yn ogystal â datblygu cyfleoedd newydd lle nad oes rhai’n bodoli eisoes.
Byddwn yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl yng ngogledd Cymru. Bydd pobl yn gallu cael gwell mynediad at ystod gyfan o gefnogaeth yn eu cymunedau eu hunain yn gynharach a byddwn yn ceisio osgoi darparu gwasanaethau arbenigol, megis gwasanaethau dydd traddodiadol, ac yn hytrach yn cysylltu pobl â gweithgareddau bob dydd yn eu cymunedau lleol.
Trwy ddarparu mwy o wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y gymuned, byddwn yn gallu cefnogi mwy o bobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, gan arwain at lai o arosiadau mewn ysbytai a llai o bobl yn gorfod symud i ofal hirdymor.
Beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Byddwch yn dechrau gweld newidiadau go iawn yn y ffordd y caiff eich gofal a’ch cymorth ei ddarparu.
Bydd y newidiadau hyn yn golygu:
- Gofal a chefnogaeth yn y gymuned ac sy’n cael ei ddarparu’n lleol
- Gwasanaethau sy’n darparu’r hyn sy’n bwysig i chi
- Cynnydd yn yr adnoddau sydd ar gael i bobl i’w galluogi i fyw yn dda o fewn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain
- Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell a mwy integredig sy’n cynnig gwasanaeth di-dor
- Peidio â gorfod ailadrodd eich hanes wrth amryw o wahanol weithwyr proffesiynol
- Mwy o ddewis a rheolaeth
- Gallu cael mynediad at wely mewn ysbyty yn hawdd pan fydd ei angen arnoch
- Gwell mynediad at wasanaethau a chymorth cymunedol prif ffrwd
- Mwy o gysylltiad â’r gwaith o ddylunio a datblygu ffyrdd newydd o weithio