Mae’r Rhaglen Trawsnewid bellach wedi’i disodli gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol.
Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod pobl yng ngogledd Cymru yn cael gofal sy’n cael ei ddarparu yn nes at adref. I’n helpu i gyflawni hyn byddwn yn cryfhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cymunedau. Byddwn yn dod ag amryw o wasanaethau gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, gofal cymdeithasol a gwasanaethau’r trydydd sector ynghyd i ddatblygu ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn seiliedig ar ddaearyddiaeth clystyrau gofal sylfaenol <<mewnosod hyperddolen>>. Byddwn yn cryfhau’r cysylltiad rhwng yr ardaloedd hyn a’n Timau Adnoddau Cymunedol yn ogystal â darparu mynediad di-dor ac amserol at ofal acíwt mewn ysbytai yn ôl yr angen.
Bydd y model hwn yn seiliedig ar leoedd a bydd yn:
- Gwrando ar brofiadau pobl gogledd Cymru ac yn eu defnyddio
- Cydnabod cryfderau cymunedau yn ogystal â gwaith cymunedau i feithrin eu cadernid
- Grymuso cymunedau i siapio a dylunio gofal a chefnogaeth
- Goresgyn rhwystrau i wasanaethau yn ogystal â lleihau dyblygu rhwng asiantaethau a phroffesiynau
- Cynyddu’r adnoddau sy’n cael eu gwerthfawrogi ac ail-ddylunio’r rheiny nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi
Beth yw integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?
Bydd iechyd a gofal cymdeithasol integredig mewn ardaloedd lleol yn golygu y byddwn yn gallu dod â gwasanaethau ynghyd yng nghymunedau pobl, a sicrhau eu bod yn gydgysylltiedig, yn haws i gael gafael arnynt ac yn gallu darparu’r hyn sy’n bwysig i bobl.
Bydd gwasanaethau Cynghorau ac iechyd cymunedol, yn ogystal ag ystod o gefnogaeth a ddarperir gan grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol, yn cael eu cydgysylltu a’u darparu o fewn ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd. Bydd y gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- Nyrsio Cymunedol
- Meddygon teulu
- Gwaith Cymdeithasol
- Fferyllwyr
- Ffisiotherapi
- Therapi Galwedigaethol
Mae pobl gogledd Cymru wedi dangos yn glir eu bod yn dymuno cael gwell mynediad at wasanaethau yn eu cymunedau eu hunain, a’u bod yn dymuno parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n bosibl.
Bydd yr ardaloedd iechyd a gofal cymdeithasol integredig newydd yn gwella’r gefnogaeth sydd ar gael mewn cymunedau, sy’n golygu y gall pobl aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, gyda gwell mynediad at ystod o wasanaethau i ddiwallu eu hanghenion.
Beth sy’n digwydd yng ngogledd Cymru?
Yng ngogledd Cymru mae’r gwaith o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol wedi dechrau. Mae cynrychiolwyr o bob sector gan gynnwys Cynghorau, y GIG a’r Trydydd Sector wedi dod ynghyd i ffurfio Byrddau Gwasanaeth Integredig Ardal.
Mae’r Byrddau yn ymroddedig i wrando ar farn cymunedau lleol a gweithwyr proffesiynol lleol a’u cynnwys yn eu hymdrechion i gynllunio gwasanaethau a chymorth, mewn modd sy’n diwallu anghenion pobl leol.
Mae tri Bwrdd Gwasanaeth Integredig Ardal wedi cael eu sefydlu sy’n cwmpasu’r Gorllewin (Ynys Môn a Gwynedd), y Canol (Conwy a Sir Ddinbych) a’r Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint) er mwyn llywio’r newid hwn.
Mae timau Arweinyddiaeth Ardal yn cael eu sefydlu a byddant yn gyfrifol am gomisiynu a darparu gwasanaethau ym mhob un o’r Ardaloedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig newydd.
Bwriad gwasanaethau cynllunio ar lefel Ardaloedd Lleol yw gwella’r berthynas rhwng gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol statudol a chymunedau. Bydd timau Arweinyddiaeth Ardaloedd Lleol yn darparu cefnogaeth i wasanaethau a gweithgareddau cymunedol presennol yn ogystal â datblygu cyfleoedd newydd lle nad oes rhai’n bodoli eisoes.
Byddwn yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl yng ngogledd Cymru. Bydd pobl yn gallu cael gwell mynediad at ystod gyfan o gefnogaeth yn eu cymunedau eu hunain yn gynharach a byddwn yn ceisio osgoi darparu gwasanaethau arbenigol, megis gwasanaethau dydd traddodiadol, ac yn hytrach yn cysylltu pobl â gweithgareddau bob dydd yn eu cymunedau lleol.
Trwy ddarparu Gofal yn Nes at y Cartref << mewnosod hyperddolen>>, byddwn yn gallu cefnogi mwy o bobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach, gan arwain at lai o arosiadau mewn ysbytai a llai o bobl yn gorfod symud i ofal hirdymor.
Galluogwyr Integreiddio:
Cymunedau cryf, cadarn a chysylltiedig
Elfen allweddol o fewn ein model gwasanaeth integredig yw cyfraniad y trydydd sector i gefnogi’r gwasanaethau lles, hyrwyddo cynhwysiant a chyfranogiad a chydlynu presgripsiynau cymdeithasol.
Yn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd i ddatblygu ein Cynllun Ardal o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, nodwyd bod lleihau unigedd ac arwahanrwydd yn un o’r prif heriau i nifer o bobl. Gall cyfranogi mewn gweithgareddau ystyrlon gynorthwyo i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mae pwysigrwydd hyblygrwydd i barhau gyda rhaglenni a bennir yn lleol ar gyfer gwasanaethau lles, yn hytrach na mecanwaith unedig “un maint i bawb”, yn allweddol. Ein nod yw sicrhau bod pob ardal iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Ngogledd Cymru yn datblygu ei dull ei hun yn seiliedig ar asedau cymunedol, gan sicrhau bod y rhaglenni yn cael eu teilwra i anghenion unigolion a chymunedau. Mae’r dull hwn yn datblygu y gwaith ymyrraeth gynnar sydd eisoes wedi’i sefydlu mewn ardaloedd awdurdod lleol o fewn Gogledd Cymru a llwyddiant y mentrau lles presennol, gan ddatblygu hyn a chysylltu â’r dull integredig yr ydym yn ei ddatblygu.
Gweithlu medrus a sefydlog
Mae’n bosibl mai’r dasg fwyaf heriol sy’n ein hwynebu yw datblygu gweithlu cynaliadwy.
Ym mis Mawrth 2018, datblygwyd Strategaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru. Roedd y strategaeth hon yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael â materion cynaliadwyedd y sector a’r gweithlu ar draws y farchnad; a’r rolau, tasgau, cyfrifoldebau, sgiliau a gwybodaeth newidiol sy’n ofynnol i gefnogi hyn. Nododd y strategaeth flaenoriaeth o symud tuag at rolau sy’n fwy cyffredinol a’r angen i ddarparu dull system traws sector.
Rydym yn datblygu ystod o brosiectau gweithlu i fod yn sylfaen i ddatblygiad ein model gweithlu newydd. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar ddatblygu sgiliau ar draws y system gymunedol iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, gan archwilio cymysgeddau sgiliau a’r rolau newydd sy’n ofynnol i ddarparu’r model hwn. Fframweithiau hyfforddi ar y cyd a strwythurau / cyfleoedd i wneud cynnydd gyrfaol, a chynllunio’r gweithlu ar y cyd, mapio asedau, recriwtio a gweithgareddau hyrwyddo.
Yn allweddol, byddwn yn gweithio gyda’r sector annibynnol a’r trydydd sector i ddatblygu sgiliau’r gweithlu gofal a datblygu rolau partneriaeth a chyfleoedd gyrfaol yn well o fewn ac ar draws sefydliadau.
Gofal a alluogir yn ddigidol
Mae technoleg yn alluogwr sylweddol i’n model, o ran galluogi cyfathrebu a rhannu data ar draws sector gofal cymdeithasol ac iechyd. Yng Ngogledd Cymru, mae’r angen i ddatblygu datrysiadau dwyieithog i gefnogi a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn hanfodol bwysig. Rydym yn cydnabod fel rhanbarth y bydd angen gwella ein defnydd o deleofal, teleiechyd, apiau a datrysiadau digidol eraill er mwyn gallu defnyddio’r rhain i alluogi unigolion i aros yn eu cartrefi. Byddai hyn hefyd yn cynorthwyo i sicrhau y gellir darparu cyngor arbenigol heb fod angen ymweld â safleoedd ysbyty acíwt. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig y dylid sefydlu capasiti dynodedig i weithio ochr yn ochr â’r rhaglen datblygu ardal integredig cyffredinol. Y dull darparu allweddol fyddai nodi model ar gyfer gofal, cefnogaeth a lles y gellir ei alluogi’n ddigidol, ei ddatblygu ar draws Gogledd Cymru a’i addasu i ddiwallu anghenion lleol.