Mae ein Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yn seiliedig ar amcan cyffredinol i gyflawni gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae tair haen i’r rhaglen:
- Ymgyrch aml-asiantaethol i wella iechyd emosiynol plant a phobl ifanc, eu lles a’u gwytnwch, drwy ymyrryd yn gynnar ac atal mewn ffordd integredig
- Ymchwilio a datblygu ymyriadau ‘ymateb cyflym’ (allgymorth argyfwng) yn seiliedig ar dystiolaeth i blant a theuluoedd ar ffiniau gofal
- Datblygu gwasanaethau preswyl tymor byr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf bu datblygiadau arwyddocaol yn y rhaglen; ffurfiwyd dau dîm amlddisgyblaethol is-ranbarthol newydd sydd wedi darparu gwasanaethau i 36 o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Crëwyd rhaglen hyfforddiant strategol i gefnogi trydydd tîm amlddisgyblaethol is-ranbarthol a darparwyd 341 o sesiynau hyfforddi.
Sefydlwyd dwy wahanol ddarpariaeth breswyl tymor byr i gefnogi’r timau amlddisgyblaethol. Mae’r ddau brosiect yn anelu at ddarparu’r gwasanaethau yn y flwyddyn a hanner nesaf.
Mae’r ffrwd waith Iechyd Emosiynol, Lles a Gwytnwch wedi creu fframwaith prototeip rhanbarthol i blant 8-11 oed, gan lunio egwyddorion arweiniol ar gyfer cynnal datblygiad iach o ran iechyd emosiynol plant a phobl ifanc, eu lles a’u gwytnwch, gan gwmpasu’r pum ffordd at lesiant. Mae ffrwd waith arall wedi sefydlu tîm ymyrraeth gynnar i ganolbwyntio ar roi cymorth yn gynnar i blant a phobl ifanc ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol, a mabwysiadu dull ‘Dim Drws Anghywir’ yn hynny o beth.
Wrth ymateb yn uniongyrchol i’r pandemig llwyddodd y rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc i gefnogi prosiectau gwytnwch cymunedol a fu’n gymorth i blant a phobl ifanc yn y cyfnod anodd hwn, yn ogystal â chyflawni’r amcanion a bennwyd ar gyfer y rhaglen.
Mwy o wybodaeth
Gogledd-Ddwyrain Cymru: Therapi Aml-Systemig – MST
Am y diweddariadau diweddaraf gwelwch ein blog.
Cysylltwch â ni
E-bost: sharon.hinchcliffe@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 706216