Dangosyddion cynnar llwyddiant:
Ffrwd waith 1: Ymyrraeth gynnar ac atal
- Cyflawni’r gwaith cychwynnol i adeiladu dull gweithredu gydweithredol ar draws asiantaethau partner. Roedd hyn yn golygu ymgynghori gyda budd-ddeiliaid allweddol o wasanaethau i rannu’r cynllun a gwrando ar eu barn. Bu’r ymarfer hwn yn llwyddiant a chyfrannodd at siapio’r prosiect a nododd ymrwymiad clir i’r broses o gydgynhyrchu.
- Adeiladu dealltwriaeth aeddfed, dryloyw a cholegaidd o pam nad yw’r system i gefnogi iechyd a lles emosiynol plant yn gweithio’n effeithiol ar hyn o bryd a pham fod angen y prosiect hwn.
- Grŵp Llywio gyda phresenoldeb gan uwch arweinyddion ar draws y bartneriaeth gan gynnwys yr holl awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd, a’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol.
- Sefydlu’r lefel iawn o arweinyddiaeth ar y Grŵp Llywio, gyda’r meddylfryd cywir.
- Ennill ymrwymiad i fabwysiadu un dull cydlynol ar draws sefydliadau i helpu i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd wella eu iechyd emosiynol, eu lles, a’u gwytnwch ar draws y bartneriaeth.
- Archwilio cyfleoedd cydweithredol fel Gyda’n Gilydd i Blant a Phobl Ifanc (2) (T4CYP2). Mae egwyddorion y fframwaith Cymorth Cynnar a Chefnogaeth Uwch NYTH yn ategu’r llif gwaith hwn.
Ffrwd Gwaith 2: Ymyraethau ffiniau gofal
- Ymchwil a datblygiadau manwl i lywio’r dewis o fodelau gofal.
- Cynlluniau gweithredu manwl wedi eu llunio gan bob ardal i amlinellu model ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys gofynion staffio a manylion costau.
- Cyfnod dwys o weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth, gweledigaeth a iaith gyffredin fel sail ar gyfer sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn hwyluso newid yn y system ac yn sicrhau fod teuluoedd yn cael y cymorth gorau posib i newid ymddygiad a gwella canlyniadau.
- Gweithredu gwasanaethau newydd a ddarperir gan dimau amlddisgyblaethol; mae hyn yn cynnwys model gwasanaeth Therapi Aml-systemig yn un o’r ardaloedd is ranbarthol sydd yn weithredol, y cyntaf i sefydlu Therapi Aml-Systemig yng Nghymru.
Ffrwd Gwaith 3: Amddiffyn Plant yn Effeithiol
- Creu rôl mentor bwrpasol i ddarparu mentora i staff yn unigol ac mewn grŵp.
- Datblygu a darparu modelau newydd ar gyfer ymyraethau mentora i unigolion a grwpiau o staff, a’u gwerthuso
- Sefydlu dwy wefan, ar gyfer Effective Child Protection a Gwynedd Risk Model a safle mewnrwyd i staff.
- Darparu digwyddiadau briffio aml-asiantaeth
- Ad-drefnu mentora unigol a grwpiau i lwyfan ar-lein
