Rydym yn falch o gadarnhau bod Kathryn Whitfield wedi cael ei phenodi ar gyfer y rôl hanfodol o Reolwr Rhaglen ar gyfer prosiect Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. Mae Kathryn yn dod a chyfoeth o arbenigedd a gwybodaeth o dros 20 mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau anableddau dysgu.
Gweler isod nodyn cyflwyniadol gan Kathryn o ran ei phenodiad i’r swydd:
Hoffwn gyflwyno fy hun fel Rheolwr Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu. Fel cefndir, rwyf wedi gweithio gyda phobl gydag anableddau dysgu drwy gydol fy ngyrfa, gan ddechrau gyda hyfforddi fel hyfforddwr swyddi gyda phobl gydag anableddau dysgu yn 1991. Enillais gymhwyster Gweithiwr Cymdeithasol yn 1995 ac ymunais â Chyngor Sir Clwyd fel Rheolwr Gofal/Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Anableddau Dysgu. Roeddwn yn rhan o brosiect ailsefydlu Bryn y Neuadd o 2000 hyd at 2006, gan ailsefydlu 13 o unigolion yn ôl i ardal Sir Ddinbych, fe ddois yn Uwch Ymarferydd o fewn tîm anableddau dysgu Sir Ddinbych yn 2006 a Rheolwr Tîm yn 2011 pan dyfodd y tîm i weithio hefyd gydag unigolion gydag Awtistiaeth Gweithredu Lefel Uchel ac Anaf i’r Ymennydd. Treuliais 20 mlynedd yn gweithio fel Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac rwy’n Aseswr Lles Gorau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Mae’r cyfleoedd y mae’r prosiect hwn yn ei gyflwyno yn drawsffurfiadol ar gyfer dinasyddion, teuluoedd a gwasanaethau ar draws Gogledd Cymru. Fy rôl i – ynghyd â thîm o 8 swyddog cynllunio, cymhorthydd cefnogi busnes a chymhorthydd cyfrifyddiaeth, a’r rhai sydd yn rhan o’r fenter yn barod – fydd rheoli’r gweithrediad llwyddiannus o “Drawsffurfio rhaglen gwasanaethau anableddau dysgu” i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus ar draws y rhanbarth. Bydd y trawsnewid yn creu dull, strwythur a phroses sengl ac integredig i ddarparu gwasanaethau di-dor i bobl sydd ag anableddau dysgu ar draws Gogledd Cymru. Nod y Prosiect yw datblygu model gwasanaeth newydd a fydd yn gynaliadwy ar ôl cwblhau’r trawsnewidiad. Dim pwysau felly!!
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i’r rôl hwn, felly edrychaf ymlaen yn fawr i gyfarfod y rhai sydd â rhan i chwarae yn y broses. Rydym yn lwcus o’r weledigaeth sydd mewn lle yn barod i siapio Strategaeth Anabledd Dysgu Ddrafft Gogledd Cymru. Mae Sarah Bartlett wedi gweithio’n ddiddiwedd ar y strategaeth hon, ac wedi fy hysbysu ei fod yn mynd drwy’r broses o gytundeb ffurfiol gan holl bartneriaid ar hyn o bryd. Byddaf yn dechrau ar fy rôl o fewn yr wythnosau nesaf, ond yn y cyfamser croesawn unrhyw gyswllt gan unigolion neu dimoedd a hoffai drafod y prosiect, ac o bosib, bod yn rhan o ddatblygu (neu beilota) rhai o’r camau gweithredu allweddol sydd yn y Strategaeth Ddrafft. Fy nghyfeiriad e-bost yw Kathryn.whitfield@denbighshire.gov.uk os hoffech gysylltu â mi.