A oes gennych digwyddiad, ymgynghoriad neu brosiect newydd rydych eisiau ei hyrwyddo yng Ngogledd Cymru?
Gall y Tîm Cydweithio Rhanbarthol eich helpu i hyrwyddo eich gwaith trwy ein:
- Rhwydwaith darparwyr rhanbarthol, sy’n cynnwys cartrefi gofal ac asiantau gofal cartref
- Tudalen Facebook ‘Gofalwn’ Gogledd Cymru sy’n hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
- Cyfrif Twitter
- Gwefan a blog
- Newyddlen a rhestr bostio Hwb Ymchwil, Arloesi a Gwelliant
- Mae rhwydweithiau rhanbarthol yn cynnwys y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Penaethiaid Gwasanaethau Plant Gogledd Cymru, Gwasanaethau Plant Partneriaeth, Rhwydweithiau Gofalwyr a grwpiau rhanbarthol eraill rydym yn eu cefnogi.
Gall darparwyr gofal lleol sydd eisiau hysbysebu swyddi ddefnyddio’r porth swyddi Gofalwn cenedlaethol.
Ar gyfer pob rhwydwaith, rydym yn rheoli ceisiadau am hyrwyddo fel bod grwpiau ond yn cael gwybodaeth berthnasol ac nid yn cael eu llethu gyda cheisiadau.
Gan ein bod yn cael llawer o geisiadau, mae wir o gymorth os gallwch ddarparu’r wybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn fformat y gallwn ei ddefnyddio yn syth. Gallai hyn gynnwys:
- Manylion eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni ail-drydar eich cyfrif Twitter a rhannu eich negeseuon Facebook
- Teitl ac ychydig o baragraffau yn y Gymraeg a’r Saesneg y gallwn eu defnyddio mewn neges flog neu newyddlen
- e-bost yn y Gymraeg a’r Saesneg a ellir ei anfon i’n rhestrau postio
- Dolen i dudalen gwe ble gall pobl gael mwy o wybodaeth. Nid ydym eisiau anfon negeseuon e-bost sydd â llawer o atodiadau gan fod hyn yn llenwi ein rhwydweithiau TG.