Lead Organisation: Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Her / Problem
Mae gofalwyr yn cael sylw hanfodol yng ngogledd Cymru yn sgil gweithredu’r Strategaeth Gofalwyr Ranbarthol, ac wrth i’r boblogaeth heneiddio mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y gofalwyr yn y Gogledd. Rydym felly’n ymrwymo ledled y rhanbarth i weithio dros sicrhau cefnogaeth i ofalwyr yn ein cymunedau a gwneud hynny mewn ffyrdd newydd a blaengar, yn ogystal â sicrhau y caiff anghenion gofalwyr eu hystyried ar bob cam o’r daith iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae gofalwyr sy’n cefnogi ffrindiau a pherthnasau’n ddi-dâl yn rhan allweddol bwysig o’r drefn iechyd a gofal cymdeithasol, a’r nod i bob un o’r chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol ledled gogledd Cymru yw sicrhau y caiff eu cyfraniad ei gydnabod a’i werthfawrogi. Mae gofalwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi’r bobl y maent yn gofalu amdanynt i gyflawni eu nodau ac aros yn eu cartrefi eu hunain.
Yn ôl data cenedlaethol gall presenoldeb gofalwr olygu gostyngiad mawr mewn derbyniadau i’r ysbyty, gofal preswyl hirdymor neu ofal nyrsio. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi gofalwyr i fyw eu bywydau yn y ffordd y dymunant a dal ati i ofalu. Drwy wneud hynny rydym hefyd yn cyflawni ein dyletswydd o dan y fframwaith canlyniadau cenedlaethol i hyrwyddo llesiant gofalwyr sydd angen cefnogaeth yng Nghymru, sicrhau y caiff gofalwyr gefnogaeth i arfer eu hawliau a hawlio budd-daliadau ac ati, a chynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u lles emosiynol.
Mae pwysigrwydd cefnogi gofalwyr yn rhywbeth sydd hefyd wedi’i ymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n pennu hawliau ychwanegol i ofalwyr o bob oed ac sy’n symleiddio a chyfuno’r gyfraith, gan roi iddynt am y tro cyntaf hawliau cyfartal â’r sawl y maent yn gofalu amdanynt. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r hawl i ofalwyr i ddewis p’un a ydynt yn ofalwyr neu’n dal i fod yn ofalwyr, ac i ba raddau.
Ymyrraeth
Mae Gwasanaeth Buddsoddi mewn Gofalwyr Gogledd Cymru wedi’i lansio, gan efelychu cynllun llwyddiannus Bwrdd Iechyd Hywel Dda er mwyn sicrhau y caiff anghenion gofalwyr eu hystyried ym maes Gofal Sylfaenol ac Eilaidd. Mae’r cynllun yn creu cysylltiad allweddol rhwng pob canolfan ofal a gwasanaethau cynnal gofalwyr sirol. Un agwedd allweddol yw annog gofalwyr i roi gwybod i’w meddygon teulu mai gofalwyr ydynt.
Mae hwn yn wasanaeth estyn allan unigryw a ddarperir mewn meddygfeydd ac ysbytai ledled gogledd Cymru. Comisiynir Hwyluswyr Gofalwyr mewn Meddygfeydd ac Ysbytai i weithio gyda darparwyr gwasanaethau cynnal lleol a fydd yn cynorthwyo gofalwyr, codi llais dros ofalwyr ac eirioli o blaid newid, a hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol Gofal Sylfaenol ac Eilaidd i wella eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o ofalwyr di-dâl a’r gwasanaethau sydd ar gael ledled y rhanbarth.
Bydd Hwyluswyr Gofalwyr mewn Meddygfeydd yn cynnig cefnogaeth i feddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol drwy rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â hwy ynglŷn â deddfwriaeth, hyfforddiant ac addysg er mwyn eu galluogi i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr yn y meddygfeydd a’r fferyllfeydd dan sylw. Bydd yr hwylusydd hefyd yn cynorthwyo meddygfeydd i sefydlu systemau ar gyfer adnabod gofalwyr mor gynnar â phosib, a chanfod asiantaethau y gall meddygfeydd weithio â hwy wrth gefnogi gofalwyr. Bydd yr Hwylusydd Gofalwyr yn cefnogi gofalwyr i drefnu apwyntiadau hyblyg sy’n cydnabod eu swyddogaeth ofalu, ac yn darparu gwasanaeth eiriolaeth sylfaenol i’r gofalwr os oes angen.
Bydd yr Hwyluswyr Gofalwyr mewn Ysbytai’n cynorthwyo gofalwyr di-dâl drwy ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth a hwyluso’r broses ryddhau mewn ffordd sy’n galluogi’r gofalwr i ymdopi’n well gyda’u swyddogaeth ofalu. Bydd yr hwylusydd yn gweithio’n agos â thimau amlddisgyblaethol yr ysbytai ac yn meithrin cyswllt ag asiantaethau eraill ac awdurdodau lleol; yn darparu gwybodaeth hygyrch a gwasanaethau cynnal i ofalwyr cleifion a gofalwyr sy’n gleifion eu hunain yn y tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth a’r ysbytai cymunedol, gyda’r nod o roi gwell profiad i ofalwyr a’u galluogi i ymdopi’n well â’u swyddogaethau gofalu.
Canlyniad
Bydd yr Hwyluswyr yn y Meddygfeydd a’r Ysbytai’n cynorthwyo canolfannau Gofal Sylfaenol ac Eilaidd ledled gogledd Cymru i gyflawni’r achrediad Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Lluniwyd y cynllun er mwyn annog canolfannau i ganolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o ofalwyr a’i gwella, gan gynnwys y cymorth a chefnogaeth a gynigiant i ofalwyr, yn ogystal â hyrwyddo arfer orau.
Rydym wedi comisiynu darparwyr sy’n gweithio â meddygfeydd ymhob ardal gan adnabod y rhai hynny sydd eisoes wedi cyflawni’r lefel efydd, a chefnogi eraill i gyflawni’r lefel ofynnol honno. Unwaith y caiff meddygfeydd gydnabyddiaeth eu bod yn symud ymlaen drwy’r cynllun, adolygir yr hyn y maent wedi’i gyflawni yn ôl y safonau, a bydd panel sy’n cynnwys gofalwyr di-dâl yn ystyried a fu’r ganolfan yn llwyddiannus a phenderfynu a ddylid dyfarnu’r achrediad nesaf ar sail hynny.
I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffai’ch sefydliad gymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch â:
Kimberley Mason, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol