Lead Organisation:
Cefndir
Yn 2015, fe lansiodd Age Cymru rhaglen cARTrefu. Prosiect ar draws Cymru Gyfan ydyw sy’n comisiynu artistiaid proffesiynol i weithio mewn cartrefi gofal i gyflwyno sesiynau creadigol i breswylwyr a staff trwy artistiaid preswyl a hyfforddiant. Yn dilyn Cam 1, cynhaliodd Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor werthusiad o’r rhaglen gan ddod i’r casgliad bod cARTrefu yn cael effeithiau arwyddocaol ar les pobl hŷn yn ogystal ag agweddau staff tuag at breswylwyr sy’n byw gyda dementia. Yn dilyn y gwerthusiad, cafodd cARTrefu ei ariannu am ddau gam arall (Cam 2 -2017-19; Cam 3- 2019-2021).
Mae’r cyllid craidd ar gyfer Cam 3 yn dod i ben felly ar ran Age Cymru, mae gradd meistr trwy brosiect ymchwil wedi cael ei gynnal gan Penny Alexander sydd yn edrych sut i sefydlu a chynnal rhaglen cARTrefu mewn cartrefi gofal. Mae’r ymchwil yn golygu edrych ar agweddau eraill tuag at ddarpariaeth creadigol mewn cyd-destunau gofal cymdeithasol.
Yr hyn rydym wedi’i wneud
Yn dilyn adolygiad cyflym o’r dystiolaeth, cafodd themâu allweddol eu tynnu o’r data a’u defnyddio i lunio strwythur tri Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol. Gwahoddwyd Budd-ddeiliaid allweddol i fynychu, ac roedd y mynychwyr yn cynnwys amrywiaeth o artistiaid, staff gofal, rheolwyr a chomisiynwyr awdurdod lleol. Ymchwiliodd pob labordy y rhwystrau mwyaf sylweddol ac fe gysylltodd yr hwyluswyr â phrosiectau sy’n ceisio sefydlu neu gynnal darpariaeth celf mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Fe edrychodd y labordai ar feysydd o ddiamddiffynrwydd a chryfder o fewn cARTrefu, er mwyn gweld sut y gellir cynnal y rhaglen orau ar gyfer y dyfodol.
Yr hyn rydym ni wedi’i ddarganfod
Fe nodwyd y rhwystrau a’r hwyluswyr canlynol i gynnal darpariaeth sy’n seiliedig ar gelfyddydau mewn lleoliadau gofal cymdeithasol:
Labordy 1: Celfyddydau mewn hyfforddiant iechyd, ymwybyddiaeth lles, heriau a chyfleoedd y mae cartrefi gofal yn eu hwynebu
- Mae yna faterion sy’n ymwneud â staffio a goblygiadau ariannol sy’n ymwneud â rhyddhau amser aelodau’r tîm i gael mynediad at fentrau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau. Fe adroddwyd hefyd mai anaml y mae cyfleoedd hyfforddi celfyddydau yn codi.
- Mae’r iaith sydd yn ymwneud â’r celfyddydau’n cael ei gamddeall yn aml, ac mae’n rhwystr. O ganlyniad, mae’r rhai sydd â mynediad cyfyngedig neu ymwybyddiaeth o aml ddoniau a sgôp y celfyddydau yng nghyd-destun maes gofal cymdeithasol yn aml yn cael trafferth ymgysylltu. Nid yw hyn wedi’i gyfyngu i staff gofal ond mae’n cynnwys rheolwyr.
- Mae sawl lleoliad wedi dweud eu bod angen mynd i’r afael â materion strwythuro er mwyn cynnwys darpariaeth greadigol yn eu gofal, ond mae anghenion gofal personol yn aml yn atal hyn rhag cael sylw gan bod yna densiwn rhwng bodloni anghenion gofal personol ac anghenion lles, ac mae lles yn cael ei ystyried yn opsiwn dewisol ychwanegol.
Labordy 2: Hyder staff ac achrediad
- Mae cARTrefu yn unigryw gan ei fod yn addysgu dulliau creadigol tuag at ofal. Mae’r dulliau yma’n cryfhau perthnasoedd o fewn cymunedau cartrefi gofal. Maent hefyd yn gwella hyder staff ac yn cynnig teclynnau eraill i staff allai fod o fantais. Mae’r sgiliau posibl yn gwneud rolau gofalu yn fwy pleserus ond maent hefyd yn cyflawni gwerthoedd gofal sy’n canolbwyntio ar y person, gan wella safonau a chysylltiadau rhwng unigolion o fewn yr amgylchedd gofalu.
- Mae timau cartrefi gofal yn cynnwys staff creadigol medrus ond weithiau nid oes ganddynt y sgiliau, na’r gyllideb na’r gefnogaeth i geisio cynnal sesiynau creadigol.
- Gall ffurfioldeb yr hyfforddiant fod yn rhwystr, yn enwedig o ystyried bod nifer o staff cartrefi gofal eisoes yn teimlo wedi’u gorlethu. Disgrifiodd casgliadau o’r labordy angen am hyfforddiant nad oedd yn orfodol. Cafwyd rhybuddion yn erbyn hyfforddiant sydd yn cynnwys llawer o ysgrifennu a gwaith papur i’w llenwi, er y byddai darparu achrediad am fynychu yn apelio. Petai gan yr hyfforddiant gysylltiadau ag Age Cymru a Phrifysgol Bangor, byddai’n cynnig hygrededd. Byddai hyn yn apelio mwy i reolwyr a fyddai angen trefnu staff yn absenoldeb y staff sy’n mynychu’r hyfforddiant. Byddai ymrwymiad gan reolwyr yn rhoi hwb sylweddol i statws y celfyddydau mewn lleoliadau cartrefi gofal – gan alluogi staff a phreswylwyr i elwa o ddefnyddio’r hyfforddiant.
Labordy 3: Cynaliadwyedd
- Cytunodd pob cyfranogwr bod angen i gartrefi gofal gael mynediad at gyllid, er mwyn defnyddio creadigrwydd i fodloni anghenion lles preswylwyr, fodd bynnag ni awgrymwyd datrysiadau cyllid gan gyfranogwyr y labordy.
- Lluniwyd cysylltiadau rhwng gweithgareddau sydd â ffocws ar ddiwylliant a’r cyfle ar gyfer cynaliadwyedd. Gall ymrwymiad gan breswylwyr a staff sydd yn credu bod gweithgareddau diwylliannol yn fwy hygyrch trwy gartrefi gofal wella cynaliadwyedd. Tynnwyd sylw hefyd at gyfleoedd ariannu diwylliannol yn hytrach na chyfleoedd ariannu creadigol fel maes ar gyfer cymhorthdal posibl, gan bod ymgysylltiad diwylliannol yn rhannu’r un gwerthoedd.
- Er mwyn cynnal darpariaeth celfyddydau mewn lleoliadau cartrefi gofal, cafodd y labordy drafodaeth am yr angen i ddeall rolau a swyddogaethau agweddau gwahanol o anghenion gofal. Cafodd cydlyniaeth rhwng rolau staff ac ymwybyddiaeth o’r celfyddydau/artist eu nodi yn sylweddol o ran sefydlu a chynnal darpariaeth celfyddydau cynaliadawy mewn lleoliad. Cafwyd disgrifiad y byddai hyn yn cael ei gyflawni orau drwy hyfforddiant a chyfathrebu/ cysylltiadau cryf gyda cARTrefu.
- O ganlyniad i bandemig Covid-19 mae yna gynnydd yn yr ymwybyddiaeth am anghenion lles staff. Cafodd yr angen i gynnal cARTrefu drwy hyfforddi lles i staff ei nodi fel maes lle gellir rhoi polisi lles ar waith. Gallai’r gefnogaeth polisi yma gynnig cARTrefu fel troedle mewn sector sydd yn wynebu toriadau cynyddol.
Y Camau Nesaf:
Mae data ansoddol pellach yn cael ei gasglu mewn cyfweliadau un wrth un. Fe fydd y data’n cael ei gyflwyno mewn traethawd a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2021. Mae Cam 3 cARTrefu yn dod i ben yng ngwanwyn 2022 a bydd canfyddiadau o’r traethawd yn cael eu hychwanegu at Gam 4 posibl o’r rhaglen.
Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt:
Ymchwil wedi’i wneud gan Penny Alexander, i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: Pnl20rln@bangor.ac.uk
Prif oruchwyliwr: Diane Seddon d.seddon@bangor.ac.uk
I ddysgu mwy am raglen cARTrefu: https://cartrefu.org.uk/
I ddysgu mwy am waith Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru: http://dsdc.bangor.ac.uk/
Dyma brosiect sydd yn bartneriaeth rhwng Age Cymru ac Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth 2 (KESS) ym Mhrifysgol Bangor. Mae KESS 2 yn weithrediad Cymru gyfan sy’n cael ei gefnogi gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (CGE) drwy Lywodraeth Cymru.

