• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Technoleg ddigidol i gefnogi gofal yn y cartref

Technoleg ddigidol i gefnogi gofal yn y cartref

15/04/2021

Crynodeb o’r cyfarfod

Cynhaliwyd y cyfarfod ar 16eg Mawrth 2021 a’r nod oedd:

  • Rhannu ymchwil, ymarfer a datblygiadau polisi diweddar, yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi gofal yn y cartref.
  • Archwilio sut y gall datblygiadau digidol ac ymchwil diweddar fod yn sail i ymarfer.
  • Nodi cwestiynau / problemau allweddol ynglŷn â defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi pobl yn y cartref

Mynychodd 33 o bobl oedd yn cynrychioli sefydliadau academaidd, ymarferol, polisi ac aelodau’r cyhoedd oedd â diddordeb.

Cyflwyniadau

  • Paul Mazurek a Cher Lewney: Gogledd Cymru gyda’i gilydd: strategaeth technoleg anabledd dysgu
  • Dr Alison Orrell: Ar eich marciau, barod, digidol: cefnogi pobl yn y cartref
  • Karen Warner: Gwersi gan gymuned ymarfer technoleg bersonol Cymru gyfan
  • Gareth Hopkin: Technoleg Iechyd Cymru: cefnogi technoleg ddigidol mewn gofal

Cwestiynau allweddol

Dyma grynodeb o’r trafodaethau a gawsom am gwestiynau allweddol ynglŷn â defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi gofal yn y cartref.

Beth yw’r ffordd orau o uwch-sgilio’r gweithlu gofaler mwyn cefnogi defnyddio technolegau digidol?

  • Mae angen i weithwyr gofal fod wedi eu cyffroi gan bosibiliadau technoleg ddigidol a bod yn gyfforddus i ofyn am help gyda dyfeisiadau.
  • Efallai y bydd angen i weithwyr gofal ddatblygu eu hyder digidol eu hunain.
  • Efallai y bydd rhai gweithwyr yn bryderus am ddefnyddio dyfeisiadau digidol.
  • Mae angen chwalu’r hud a lledrith ynglŷn â thechnoleg ddigidol.
  • Nid yw cefnogi pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol yn rhan o swyddi ar hyn o bryd.

Sut allwn ni sicrhau fod y gefnogaeth gywir ar gael i unigolion ddefnyddio dyfeisiadau digidol i wella eu bywyd yn y cartref?

  • Efallai y bydd teulu a ffrindiau angen cefnogaeth ddigidol eu hunain cyn y gallan nhw helpu perthynas/ffrind i ddefnyddio dyfais ddigidol.
  • Mae cefnogaeth wrth gyflwyno’r ddyfais yn y lle cyntaf yn hanfodol ond mae angen cefnogaeth barhaus hefyd.
  • Rhannwyd enghraifft o gynllun benthyca oedd wedi gweithio’n dda.
  • Nid yw’n hawdd dysgu rhywun sut i ddefnyddio dyfais ddigidol!

Beth yw canlyniadau anfwriadol a chost cyfleoedd technoleg ddigidol a ddefnyddir i gefnogi gofal yn y cartref?

  • Efallai y bydd cyflwyno mwy o ddyfeisiadau digidol yn ymestyn y bwlch digidol, cynyddu anghydraddoldeb, a gwaethygu unigrwydd?
  • Mae gan rai ardaloedd staff sydd a sgiliau technoleg ddigidol, ond nid yw’r adnodau gan eraill.
  • Yn yr un modd, mae gan rai ardaloedd gysylltiad digidol da, tra mae cysylltiad ardaloedd eraill yn wael. Sut mae modd atal mantais annheg?
  • Sut all gwasanaethau gofal gefnogi pobl i fod â chysylltiad mewn ardaloedd gwledig?
  • Allai gwasanaethau gofal helpu i hwyluso’r broses hon?
  • Allai defnyddio dyfeisiadau digidol ei gwneud yn fwy anodd i bobl dderbyn cymorth yn eu dewis iaith?

Pa ddyfeisiadau digidol sydd eu hangen a pha anghenion mae pobl yn ceisio eu hateb?

  • Dyma’r man cychwyn gydag unrhyw unigolyn: lle bo modd dylid personoli dyfeisiadau
  • Dylech ddarganfod pa ddyfeisiadau sydd gan unigolyn yn barod a beth maen nhw’n gall ei ddefnyddio’n barod cyn cyflwyno pethau newydd.
  • Bydd cynnwys cwestiynau am anghenion digidol i’r broses gaffael yn ddefnyddiol.
  • Nid yw rhai yn dymuno defnyddio gwasanaethau digidol. Sut allwn ni sicrhau nad ydynt o dan anfantais?
  • Ni all dyfeisiadau digidol gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb.
  • Mae’r dewis mawr o ddyfeisiadau digidol i ddewis ohonynt yn ormod bron. Pa ddyfeisiadau sydd bwysicaf?

Beth yw’r costau cychwynnol a’r costau parhaus gyda thechnoleg ddigidol?

  • Dylai hyn roi ystyriaeth i bwy sy’n talu’r gost a phroblemau ynglŷn â fforddiadwyedd i’r gwahanol ‘dalwyr’.
  • Sut fydd arian yn cael ei ddarparu ar gyfer datblygiadau digidol fel y gall gwasanaethau fod yn gyfredol?

Pa mor gynaliadwy yw defnyddio dyfeisiadau digidol i gefnogi gofal yn y cartref?

  • Sut all sefydliadau addasu i’r dyfeisiadau/dechnoleg newydd sy’n ymddangos a bod yn gyfredol?
  • Mae hwn yn faes sy’n newid yn gyflym.
  • Sut all sefydliadau roi strategaethau a chynlluniau mewn lle fydd ag oes hir iddynt? h.y. sut fydd cynlluniau’n lliniaru os bydd dyfais yn mynd yn ddiwerth neu sut fydd yn caniatáu ar gyfer yr angen am fwy o hyfforddiant TG wrth i ddyfeisiadau a thechnoleg ddatblygu?

Sut gellir rhannu datblygiadau newydd yn effeithiol?

  • Sut all gwasanaethau ac unigolion wybod y diweddaraf am y datblygiadau mwyaf newydd?
  • Mae nifer o ddewisiadau digidol, ond nid yw pawb yn gwybod am y dewis sydd ar gael.
  • Sut gellir rhannu’r hyn a ddysgir o ymarfer, ar draws sefydliadau?

Rhagor o wybodaeth

  • Mae’r ap Insight yn rhannu gwybodaeth am lawer o weithgareddau ar-lein sydd ar gael i bobl gydag anableddau dysgu. Mae’n cael ei hyrwyddo ar draws gogledd Cymru a chafodd ei argymell gan y cyflwynwyr yn y digwyddiad. I dderbyn mwy o wybodaeth fe allwch chi: wylio fideo yn dangos sut mae’n gweithio, darllen erthygl sy’n cynnwys fideo YouTube neu gysylltu â Paul.Mazurek@flintshire.gov.uk
  • Cymuned Ymarfer Technoleg Bersonol Cymru Gyfan. Anfonwch neges at karen.warner@ldw.org.uk os hoffech chi ymuno.
  • Mae Lorna Tursley yn ymchwilydd sy’n edrych ar ddefnydd gwasanaethau cadeiriau olwyn o dechnoleg ddigidol, gyda llawer o’r defnyddwyr gydag anableddau dysgu. Os ydych chi’n fodlon siarad am eich profiadau neu’ch barn am y dechnegol ddigidol a ddefnyddir anfonwch neges ati. Hefyd, os oes gennych chi brofiad o ddatblygu dulliau i lenwi ffurflenni ar-lein yn defnyddio ffonau clyfar.
  • Cafodd y digwyddiad ei drydaru’n fyw gan Beccy Roylance, dilynwch @NW_RIICH i ddysgu mwy.

Os oes gennych syniadau sut i ateb / fodloni rhai o’r problemau a’r cwestiynau ymchwil a nodwyd, cysylltwch:

d.seddon@bangor.ac.uk
g.toms@bangor.ac.uk
Sarah.Bartlett@denbighshire.gov.uk

Ffeiliwyd dan: Blog, Casgliad o syniadau da, CSD Cymorth Cymunedol, CSD digidol Tagged With: alzheimers, Ansawdd Bywyd, artistig, boddhad bywyd, byw â chymorth, cartref gorffwys, cartrefi gofal, celf, creadigrwydd, emosiynol, geriatrig, hapus, hapusrwydd, henoed, hŷn, Lles, meddyliol, nyrsio, pensiynwr, person hŷn, preswyl, wedi ymddeol, ymadfer, ymddeol

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital