• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol Gwynedd a Môn

Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol Gwynedd a Môn

31/03/2021

Datrys Rhwystrau

Yn y rhifyn hwn byddwn yn canolbwyntio ar y camau sy’n cael eu cymryd ar draws Gwynedd a Môn i ddatrys rhai o’r rhwystrau sydd wedi codi wrth ddatblygu’r gwaith integreiddio.

Gyda’r pandemig ar ei anterth ers dechrau’r flwyddyn mae staff cymunedol a chydweithwyr yn yr ysbytai yn teimlo’i effaith fwy nag erioed.

Mae’r rhaglen frechu uchelgeisiol yn cynnig gobaith, ond hefyd yn rhoi pwysau ar wasanaethau rheng flaen, tra bod ceisio sicrhau capasiti yn yr ysbytai yn diogelu gwasanaethau iechyd, ond yn cynnig her ychwanegol i wasanaethau yn y gymuned.

Mae’n gwbl ddealladwy fod hyn yn cael effaith ar allu partneriaid i ymrwymo i’r rhaglen drawsffurfio. Ond er gwaethaf yr heriau, mae camau breision wedi eu cymryd ar draws y ddwy sir, gydag ymdrechion cynnar yn dechrau dwyn ffrwyth, a threfn bendant i gasglu a thaclo rhwystrau.

Mae’r Timau Adnoddau Cymunedol yng Ngwynedd yn cadw cofnod o’r rhwystrau sydd yn eu hwynebu yn lleol ar ffurf Bwrdd Rhwystrau electroneg. Mae hyn ar fin cael ei gyflwyno ym Môn hefyd.

Y prif rwystrau sy’n wynebu’r timau lleol

  • Technoleg Gwybodaeth: Diffyg ffonau clyfar a/neu gliniaduron ar gyfer staff iechyd cymunedol
  • Pwynt mynediad: Diffyg un pwynt mynediad (drws ffrynt) i’r TAC
  • Rhannu gwybodaeth: Diffyg systemau addas i rannu gwybodaeth am gleifion/ cleientau
  • Capasiti staff: Diffyg capasiti neu amser gan aelodau’r tîm i ymrwymo’n llawn i ddatblygiadau’r TAC
  • Biwrocratiaeth: Gormod o fiwrocratiaeth a gwaith papur beichus
  • Covid19: Heriau i staff wrth ymateb i Covid19, yn cynnwys gofynion y rhaglen frechu, yn cyfyngu ar allu staff i ymwneud a’r rhaglen trawsffurfio Gofal Cartref: Diffyg gofal cartref mewn rhai ardaloedd

Mae pob TAC yn adrodd yn fisol i’r uwch arweinyddion ar y rhwystrau ac ar y cynnydd yn eu hardal, a hwythau yn eu tro yn gweithio i ddatrys y rhwystrau mwyaf cymhleth.

Darlun o’r datrysiadau

Cyfeirio cleifion o’r ysbyty yn ôl i’r gymuned

Sefydlwyd prosiect i sicrhau bod pobl yn medru cael eu rhyddhau o’r ysbyty mor fuan a diogel â phosib, â threfniadau mewn lle i gydlynu unrhyw ofal pellach yn y gymuned.

Ers dechrau mis Chwefror mae trefn newydd mewn lle ar gyfer cleifion oedd yn derbyn gofal cartref cyn mynd i’r ysbyty. Erbyn hyn mae pob darparwr gofal wedi cytuno i gydlynu trefniadau i ryddhau eu cleientau presennol o’r ysbyty i’w cartref eu hunain heb orfod derbyn cyfeiriad gan weithiwr cymdeithasol.

Dywedodd Emma Jones o gwmni gofal Plas Garnedd bod y berthynas efo’r ysbyty yn llawer gwell rŵan, a bod modd cael cleifion adre’n llawer cynt.

Yn ogystal mae dau beilot ar fin cychwyn i hwyluso trefniadau i’r TAC lleol ryddhau cleifion sydd angen gofal cartref o’r newydd yn ôl i’r gymuned.

Mae’r prosiect hefyd wedi sicrhau arian ICF ar gyfer helpu cleifion i dderbyn gwybodaeth a chefnogaeth yn yr ysbyty. Bellach mae swyddogion o Age Cymru Gwynedd a Môn yn cynnig gwasanaeth amserol ac ymarferol i’w helpu i fynd adre’n gynt heb orfod tynnu gwasanaethau statudol i mewn.

Rydan ni mewn cysylltiad rheolaidd rwan efo nyrsys, clercod wardiau a hyd yn oed ymgynghorwyr trwy e-bost, ac mae gennym berthynas dda iawn efo’r ysbyty. ‘Da ni gyd yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm, fel y TAC. ‘Da ni’n gwybod gyda phwy i siarad rŵan.

Emma Jones, Rheolwr cwmni Gofal Catref Plas Garnedd

Tuag at un pwynt mynediad      

Yn ôl y timau mae cael cyfeiriadau o bob cwr, yn hytrach na drwy un lle, yn un o’r prif rwystrau fedru datblygu’r gwaith integreiddio ymhellach. Mae’r ddwy sir yn mynd i’r afael a hynny mewn ffyrdd gwahanol, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Integredig ym mis Mawrth ar y cynigion o’r ddwy sir.

Yn y cyfamser mae tîm o nyrsus cymunedol wedi derbyn arian i ddatblygu syniadau ar gyfer ‘un pwynt cyswllt’, gan dynnu cefnogaeth o broffesiynau eraill. Byddwn yn rhannu’r dysgu o’r prosiect yma, ac yn cydweithio i gyplysu’r trefniadau wrth symud mlaen.

Helpa fi i fyw fy mywyd fel dwi’n dymuno

Staff iechyd cymunedol yn derbyn offer TG

Yn hanesyddol mae gweithwyr iechyd cymunedol wedi gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith ar sail ffeiliau papur, ac wedi gorfod dibynnu ar ddychwelyd i’r swyddfa i fewnbynnu gwybodaeth electroneg.

Bellach gall staff iechyd cymunedol yn ardal Caergybi a Llŷn wneud defnydd o liniaduron newydd sbon ar gyfer cofnodi, e-bostio, cyfathrebu drwy gyfarfodydd rhithiol ac yn y blaen.

Trefnwyd hyn fel rhan o brosiect i wirio sut y gall system WCCIS fod o gymorth i integreiddio a rhannu gwybodaeth ar draws meysydd iechyd a gofal yn y ddwy ardal.

Mae cynlluniau pellach i gael ffonau clyfar ar y gweill ar eu cyfer hefyd, yn ogystal â chanfod ffyrdd o daclo problemau wi-fi mewn ardaloedd gwledig, ac mewn syrjeris.

Gwella’r ddarpariaeth gofal cartref

Mae’r diffyg darpariaeth gofal cartref yn fater sydd wedi codi i’r wyneb ar draws Gwynedd a Môn yn ddiweddar, gydag ymgyrchoedd recriwtio wedi eu trefnu yn ddwy sir.

Tra bo gan Môn eisoes drefniadau i gomisiynu fesul tair ardal, mae’r cynlluniau i ail-ddylunio gofal cartref yng Ngwynedd yn parhau. Disgwylir cadarnhâd y gall y broses dendro ar gyfer pennu contractau fesul is-ardal gychwyn yn ystod mis Mai/Mehefin.

Yn y cyfamser, rhwng Mawrth eleni a phennu’r contractau newydd, bydd Cyngor Gwynedd yn gwarantu nifer penodol o oriau fesul darparwr ar sail eu cyfran o’r farchnad bresennol. Bydd disgwyl iddynt weithio’n agos gyda’r Timau Adnoddau Cymunedol ymhob ardal, gan y bydd y drefn broceriaeth ganolog yn dod i ben ddiwedd Mawrth eleni.

Disgwylir i ddarparwyr annibynnol a gwasanaeth mewnol y cyngor gydweithio, a thrafod gyda’r swyddogion eraill o fewn pob ardal TAC i reoli a diwallu’r galw yn lleol.

Mae datblygu rhwydweithiau lleol cryf yn holl bwysig, a bydd cydweithio gyda grwpiau lleol a mentrau o’r 3ydd sector a’r sector annibynnol yn allweddol er mwyn plethu cefnogaeth broffesiynol â chymunedol.

Datblygu systemau rhannu gwybodaeth

Mae diffyg systemau a chanllawiau addas i rannu gwybodaeth am gleifion neu gleientiaid yn rhwystr amlwg i’r gwaith integreiddio a chydweithio.

I fynd i’r afael a hyn mae’r Tîm Trawsffurfio wedi bod yn sicrhau bod cytundebau rhannu gwybodaeth addas yn eu lle i hwyluso’r datblygiadau. Mae nifer o brosiectau yn cael eu datblygu i dreialu ffyrdd o rannu data’n effeithiol:

  • Gadael yr Ysbyty: Cynllun i rannu gwybodaeth rhwng systemau presennol y cynghorau a’r gyfundrefn iechyd, er mwyn hwyluso’r drefn ymadael o’r ysbyty.
  • Storfa Gwybodaeth TAC: Safleoedd diogel ar gyfer cadw a rhannu gwybodaeth y Timau Adnoddau Cymunedol, er mwyn osgoi dyblygu a hwyluso cydweithio.
  • Hwb Ysbyty: Portal i integreiddio gwybodaeth clieifion sy’n cael eu cyfeirio i’r Hwb gadael yr ysbyty.
  • Hwb Iechyd a Gofal: Portal gwybodaeth iechyd a Gofal Gwynedd a Môn. Bydd yn cyflwyno llwyfan i rannu gwybodaeth y Rhaglen Drawsffurfio gydag aelodau pob TAC, yn fodd i dimau TAC gadw gwybodaeth lleol (ar wahân i fanylion unigolion), ac yn borth ar gyfer creu lincs i’r safleoedd eraill a enwir uchod.

Cefnogaeth i Ryddhau Capasiti

Mae heriau Covid19 yn sicr yn peri rhwystr i aelodau’r Timau Adnoddau Cymunedol fedru ymrwymo’n llawn yn y rhaglen drawsffurfio, ac mae gwaith wedi cychwyn i gynnig cefnogaeth i reoli capasiti yn y timau lleol.

Cynhaliwyd nifer o sesiynau gyda Thîm Arweinyddion Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd yn ddiweddar. Bu’r Tim Trawsffurfio yn cefnogi uwch reolwr y gwasanaeth, Mari Wynne Jones i gyd-drafod a blaenoriaethu’r gofynion ar ei thîm.

Dywedodd Mari bod y sesiynau hyd yma wedi bod yn fuddiol iawn, ac yn ffordd o gymryd stoc o’r holl ofynion sy’n cyrraedd y gwasanaeth. “Mae’r Tim Arweinyddion wedi cychwyn mynd i’r afael â’u rhaglenni gwaith a’u gofynion dydd i ddydd,” meddai Mari, “gyda’r nod o ryddhau capasiti a chynllunio ymlaen yn strategol.”

Blaenoriaethau Nesaf

Yn ogystal a pharhau i ddatblygu’r ffrydiau gwaith yn y bwletin hwn bydd y Rhaglen yn canolbwyntio y canlynol yn ystod y cyfnod nesaf hyd at Ebrill 2021:

  • Ymgorffori’r Model Gweithredu ymhob TAC fel ffordd o gyflawni be sy’n bwysig drwy drafod a thaclo mesurau, rhwystrau, arbenigedd a bylchau mewn gwasanaeth.
  • Lansio’r safle Sharepoint Hwb Iechyd a Gofal ym mhob ardal TAC
  • Sefydlu cynlluniau ac adnoddau i ddatblygu’r gwaith o amgylch therapïau / offer, gofynion Cymraeg, modelau drws ffrynt a chymorth gweinyddol
  • Mabwysiadu mesurau priodol i ddangos perfformiad y TAC yn erbyn ei bwrpas Rhannu cytundeb WASPI i gynyddu hyder i rannu gwybodaeth
  • Gweithredu’r dull ‘agile’ ar ynys Môn i ddatblygu atebolrwydd lleol, cryfhau llinellau cyfathrebu ac adborth rhwng y timau ac uwch arweinyddion, a pharhau i ddatblygu’r dull yng Ngwynedd
  • Cymryd camau i sicrhau fod pob darparwyr gofal cartref yn aelodau gweithredol o’r TAC yng Ngwynedd
  • Cyflwyno cynnig i’r ISB ynghylch prosiect i adolygu gwaith papur/prosesau busnes

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital