Mae Dinbych wedi cael ei dewis fel y gymuned gyntaf yng Ngogledd Cymru i helpu i lunio dyfodol gofal dementia.
Nod yr ‘Ymgyrch Gwrando Cymunedol Dinbych’ newydd, arloesol yw dod â’r grwpiau dementia rhanbarthol ynghyd â thrigolion lleol, i rannu straeon am y gymuned a’r hyn sy’n bwysig i helpu i siapio sut y gofelir am bobl leol â dementia.
Gan roi pobl leol yng nghanol y drafodaeth am ofal dementia, ynghyd â chymorth gan Gwelliant Cymru a Citizens UK, nod Ymgyrch Gwrando yn y Gymuned Dinbych yw i bobl leol gyd-gynhyrchu cynllun ar gyfer sut y dylid teilwra cymorth i drigolion Dinbych, i sicrhau bod pobl â dementia yn cael y profiad gorau posibl o fyw yn eu cartref eu hunain a chymryd rhan ym mywyd y gymuned.
O gynghorwyr lleol, gwirfoddolwyr cymunedol ac arweinwyr grwpiau gweithgaredd i berchnogion siopau a chynrychiolwyr y trydydd sector, bydd arweinwyr cymunedol yn chwarae rhan flaenllaw wrth gychwyn y sgwrs ar draws Dinbych.
Trwy siarad a gwrando ar bobl yn Ninbych, byddwn yn casglu straeon am sut beth yw byw yn yr ardal a’r cymorth dementia presennol, er mwyn sefydlu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy’n cynrychioli safbwynt y gymuned gyfan.
Rydym yn trefnu diwrnod o weithgareddau yn Eirianfa, Dinbych ar ddydd Mawrth 28ain Mawrth o 9.30am – 2.30pm lle bydd y rhai sy’n byw gyda Dementia yn rhannu eu profiadau, bydd Hamdden Sir Ddinbych yn darparu sesiwn ar ymarferion cadair; Cydweithfa Gerddoriaeth Sir Ddinbych wrth law gyda therapi cerdd ac ati.
I archebu eich lle yn Eirianfa, cysylltwch ag Adele.Baguley@denbighshire.gov.uk neu 01824 706054
Gall trigolion Dinbych hefyd gymryd rhan trwy ddod yn Wirfoddolwyr Gwrando Egnïol a thrwy gwblhau holiadur byr, a bydd y canlyniadau’n cael eu bwydo’n ôl i Gwelliant Cymru. Gellir llenwi’r holiaduron YMA
