Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl ledled Cymru i weithredu NAWR a gwneud mwy i sicrhau nad yw plant ac oedolion yn cael eu rhoi mewn perygl o wynebu camdriniaeth, esgeulustod neu gam-fanteisio.
I nodi dechrau’r Wythnos Ddiogelu (12 – 16 Tachwedd), dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, eu bod yn parhau i bryderu am nifer y bobl sy’n dioddef o ganlyniad i gamdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae’r ystadegau’n dangos:
- bod tua 3,000 o blant yng Nghymru ar y gofrestr amddiffyn plant o ganlyniad i esgeulustod, cam-drin seicolegol, cam-drin rhywiol neu ffurfiau eraill o gamdriniaeth
- bod dros 19,000 o oedolion wedi’u cofnodi gydag awdurdodau lleol fel rhai sydd mewn perygl o wynebu camdriniaeth neu esgeulustod.
Yn rhan o’r ymdrechion i atal camdriniaeth yn y lle cyntaf ac adnabod arwyddion cam-drin wrth iddo ddigwydd, mae Llywodraeth Cymru yn cyllido ymgyrch i Gymru gyfan, sy’n cael ei lansio yr wythnos hon. Thema’r ymgyrch ‘Stop It Now! Cymru’ yw mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol drwy ddarparu gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr ac i rieni a gofalwyr a rhoi cyfle iddynt ddysgu mwy amdano. Bydd tua 1000 o bobl ledled Cymru yn elwa o ganlyniad i’r sesiynau codi ymwybyddiaeth sy’n rhan o’r ymgyrch. Mae gweithgareddau’r wythnos ddiogelwch hefyd yn cynnwys ymgyrch boster gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am yr angen i ddweud wrth rywun a gofyn am gymorth, ynghyd â gwybodaeth o ran lle i gael y cymorth hwnnw.
Mwy o wybodaeth:
Llywodraeth Cymru: Wythnos Ddiogelu