• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Ymdopi â gofalu yn ystod pandemig Covid-19

Ymdopi â gofalu yn ystod pandemig Covid-19

11/06/2021

Mae gofalwr di-dâl yn aelod o’r teulu neu’n ffrind sy’n cefnogi rhywun annwyl neu gymydog neu aelod o’r teulu nad yw’n gallu byw yn y gymuned yn annibynnol.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) yw’r darparwr mwyaf o wasanaethau gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn cynnal asesiadau gofalwyr ar ran awdurdodau lleol a gofal iechyd yn ardaloedd Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant cymorth un i un, cwnsela a grwpiau cymorth cymheiriaid ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae gennym gysylltiad â 15500 o ofalwyr.

Pan ddigwyddodd y cyfnod clo cyntaf y llynedd, i lawer o ofalwyr diflannodd eu rhwydweithiau cymorth o deulu neu ffrindiau, mewn rhai achosion nid oedd awdurdod lleol yn gallu darparu gwasanaethau i’w cartrefi. Caeodd canolfannau seibiant ac efallai na fyddai gofalwyr wedi gallu gadael eu hanwylyd i fynd i’r siopau. Yn sydyn iawn roeddent wedi’u hynysu ac ar eu pennau eu hunain. Yr hyn yr ydym yn ei glywed gan ein gofalwyr yw bod yr ynysu wedi bod yn anodd.

Pan fydd ein Swyddogion Lles yn cynnal asesiadau gofalwyr (Sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’) rydym fel arfer yn cynnig llawer o bethau hyfryd fel seibiannau byr. Rydym yn rhedeg prosiect o’r enw Pontio’r Bwlch, sy’n rhoi seibiant hyblyg i ofalwyr di-dâl o’u rôl ofalu. Er enghraifft cwpl o oriau bob pythefnos i gael coffi gyda ffrindiau, torri gwallt, i fynd i nofio neu hyd yn oed ychydig ddyddiau i ffwrdd i ymweld â ffrindiau neu deulu.

Cadw’n Brysur  

Yn ystod Covid-19 un o’r pethau a wnaethom oedd darparu blychau Cadw’n Brysur, i gynnig seibiant amgen gartref. Roedd ein siopau elusennol ar gau, felly gwnaethom ddefnyddio’r stoc a theilwra’r blychau yn seiliedig ar ddiddordebau’r gofalwyr neu’r rhai sy’n derbyn gofal.

Os yw rhywun yn gofalu am rywun 24/7, nid ydyn nhw wedi cysgu ac nid oes ganddyn nhw unrhyw un i helpu. Gallai blwch cadw’n brysur roi seibiant o’u rôl ofalu gartref. I gwpl a oedd yn arfer chwarae drafftiau gyda’i gilydd – y newid mwyaf sylweddol iddynt oedd gêm o ddrafftiau Yn eu blwch cadw’n brysur roeddent yn gallu mwynhau treulio amser gyda’i gilydd bob prynhawn

Nid oeddwn yn cael amser i ffwrdd oddi wrth fy ngŵr, ond roeddwn i wrth fy modd yn treulio amser gydag o”

Enghraifft arall oedd rhywun yn derbyn gofal a oedd yn beiriannydd wedi ymddeol, cafodd gloc i’w ddatgymalu ac roedd ei ofalwr yn gallu mynd i ystafell arall am gwpl o oriau. Rydyn ni wedi anfon llyfrau, jig-so, pethau syml iawn y mae ein gofalwyr yn dweud wrthym sydd wedi meithrin ail-ffurfio perthnasoedd.

Cadw’n Dda  

Yn aml nid yw gofalwyr sy’n gofalu gartref yn gallu gweithio neu efallai eu bod wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ac felly wedi cael trafferthion ariannol yn ystod y pandemig. Roedd rhai yn cael eu hunain gartref 24/7 ac yn gorfod bwydo’r teulu. Roedd cyflenwi bwyd i’r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig gyda llai o drafnidiaeth gyhoeddus a dim mynediad i’r rhyngrwyd hefyd yn broblem fawr.

Rhwng Ebrill ac Awst 2020 gwnaethom ddosbarthu 2,400 o flychau bwyd ffres ‘cadw’n Dda’ gyda bara, wyau, llefrith a ffrwythau a llysiau. Roeddem am wella cynnig presennol llywodraeth leol a oedd yn bennaf yn eitemau mewn tuniau a phecynnau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am NEWCIS drwy fynd i’w gwefan.

Ffeiliwyd dan: Blog, Gofalwyr, covid-19-cy Tagged With: ar eich pen eich hun, cadw ar wahân, cwarantin, gofal, gofalu, Gofalwr, Gofalwyr, mewn cwarantin, unig, unigedd, yn cadw ar wahân, yn ynysu, ynysiad, ynysig, Ynysu

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol

Cynhwysiant Digidol

  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL
  • Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!
  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital