Eisiau chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau am Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Ydych chi’n darparu gofal i rywun sydd gyda / neu angen gwasanaethau gofal a chymorth?
Os felly, gall hwn fod i CHI!
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn recriwtio cynrychiolaeth Gofalwyr i’r Bwrdd.
Rydym yn bwriadu recriwtio cynrychiolaeth o Ofalwyr i ymuno â’r Bwrdd o fis Mehefin 2023 am gyfnod o 2 flynedd. Gall hwn fod yn un person yn ymgymryd â’r rôl gyfan neu ddau berson yn gwneud cais ar y cyd os ydynt yn dymuno rhannu’r rôl.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei sefydlu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles newydd (2014) a’i nod yw gwella iechyd a lles holl bobl Gogledd Cymru. Mae’r rôl hon yn wirfoddol, fodd bynnag, telir costau teithio a chynhaliaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn cysylltwch â Catrin Roberts, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol: Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk 01824 712521
Mynegiant o ddiddordeb i’w cyflwyno i: Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk erbyn 19eg o Fai, 2023.
