Eisiau chwarae rhan allweddol wrth wneud penderfyniadau am Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
A ydych yn darparu gwasanaethau sy’m ymwneud â iechyd a / neu gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru gyda persbectif cenedlaethol?
Os felly, gallai hyn fod i chi.
Er mwyn darparu cyfleoedd i gynrychiolwyr trydydd sector o’r rhanbarth cyfan ni ddylai cynrychiolwyr blaenorol ailymgeisio nes bod cyfnod o 3 blynedd wedi mynd heibio o ddiwedd y tymor blaenorol ar y bwrdd.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei sefydlu gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles newydd (2014) a’i nod yw gwella iechyd a lles holl bobl Gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd yn gwahodd Mynegiadau o Ddiddordeb i gymeryd 1 sedd sydd ar gael i’r trydydd sector i ddechrau ym mis Ebrill 2023 am gyfnod o 2 flynedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Catrin Roberts, Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol (Catrin.Roberts@sirddinbych.gov.uk) 01824 712521
Mynegiadau o ddiddordeb i’w hanfon at: Catrin.Roberts@denbighshire.gov.uk erbyn 31.03.2023
Caiff cyfarfod dethol cyfoedion ei drefnu mor fuan a phosib.
