Mae Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru (BGGC) yn ceisio cefnogaeth gan gydweithwyr o Gogledd Cymru i gynorthwyo i asesu’r heriau a wynebir yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol o ran recriwtio a chadw staff gofal.
Pwrpas yr ymarfer yw adnabod atebion posib i gefnogi’r sector i ddenu, recriwtio a chadw staff, yn benodol i adnabod atebion posib i ymdrin â heriau capasiti staffio ar draws y sector yn y tymor byr a’r hirdymor.
I gynorthwyo’r BGGC i ddeall yr heriau a wynebir ar draws y sector byddwn yn croesawu eich cefnogaeth trwy gwblhau holiadur arolwg.
Sylwch y dylid ond cwblhau’r holiadur arolwg gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru gan fod BGGC yn gobeithio ymdrin â heriau a wynebir gan y sector o fewn Gogledd Cymru.
Defnyddir canlyniadau’r arolwg i gynorthwyo’r BGGC i ddatblygu ei strategaeth ymhellach i gefnogi’r sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Gogledd Cymru.
Mae’r arolwg ar gael trwy: https://www.smartsurvey.co.uk/s/JEEYOV/
Wrth gwblhau’r arolwg nodwch fod yr eitemau sydd ag ‘*’ yn orfodol. Pan fo’r ateb yn sero, rhowch ‘0’ yn y bocs a ddarperir.
A wnewch chi gwblhau’r arolwg erbyn diwedd y dydd ar: 28ain Hydref 2020.
Mae croeso i chi gysylltu â mi os ydych angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach.
Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth ac rydym yn ddiolchgar am eich cymorth.