North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Rhaglen drawsnewid
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
      • Gwasanaethau Cymunedol
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Casglu straeon gofalwyr a mapio gwasanaethau – gwaith yn symud ymlaen

Casglu straeon gofalwyr a mapio gwasanaethau – gwaith yn symud ymlaen

25/05/2017

Mae’r gwaith mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei wneud i wella gwasanaethau ar gyfer gofalwyr wedi dechrau cyflymu.  Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Hawis Jones sy’n arwain ar ran y partneriaid ar ddatblygu, rheoli a chydlynu’r rhaglen waith wedi bod yn treulio amser yn dod i nabod pobl sy’n gweithio yn y maes e.e. darparwyr gwasanaethau cefnogol, swyddogion arweiniol yn y cynghorau a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ogystal â chynrychiolwyr o fudiadau cenedlaethol e.e. Carers Trust a Carers Wales.  Yn ystod y cyfnod yma hefyd, mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Rhanbarthol wedi cytuno ar y cyfeiriad i’r gwaith:  rydym eisiau edrych ar wasanaethau i ofalwyr yng Ngogledd Cymru drwy lygaid gofalwyr er mwyn deall beth sy’n bwysig iddyn nhw.  Rydym eisiau dangos ein bod yn cydnabod ac yn gwir gwerthfawrogi beth maent yn ei wneud wrth ofalu ac eisiau gwrando arnynt er mwyn gwella gwasanaethau a deall beth fydd yn eu helpu i barhau gyda’u cyfrifoldebau gofalu ac i’w cynorthwyo i fyw eu bywydau fel y maent ei eisiau.

Am y cyfnod nesaf, bydd y partneriaid yn canolbwyntio ar wneud dau ddarn o waith, sef:

1) Casglu straeon a phrofiadau gofalwyr.  Byddwn yn galluogi gofalwyr i rannu mewn tair ffordd wahanol, sef yn ysgrifenedig, drwy eu recordio neu drwy gyfweliadau.  Bydd hyn hefyd yn ychwanegu at y gwaith Asesiad Anghenion Poblogaeth sydd eisoes wedi ei wneud gan y Bartneriaeth.

2) Byddwn yn mapio y buddsoddiad a’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd i ofalwyr.  Bydd y gwaith yma yn ein helpu i weld a yw ein gwasanaethau yn cyd-fynd gyda’r hyn mae gofalwyr yn ei ddweud sydd yn bwysig iddynt, ac yn gwneud yn siwr ein bod yn cael y budd mwyaf o’r adnoddau sydd gennym.

Os oes gan unrhywun syniadau eraill a fyddai’n ddefnyddiol gyda’r gwaith yma, yna cofiwch eich bod yn cysylltu gyda ni.

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Gadael sylw Cancel reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd a nodwyd * yn ofynnol

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Pwy sy’n cael eu ystyried yn ofalwr?

Wythnos Gofalwyr 6 – 12 Mehefin 2022

Dros 55? SBARC yn edrych am gyfranogwyr.

  • Gogledd Cymru gyda’n Gilydd – Mai 2022
  • DIAGNOSIS O DDEMENTIA
  • Diagnosis o Dementia?

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2022 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital