Lleoliad:I gytuno opsiynau ar draws y rhanbarth
Cyflog: £25,801 – £28,785
Oriau: 37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol tan 31ain Mawrth 2022
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru. Bydd ar Gymru angen miloedd yn fwy o bobl i weithio mewn swyddi gofalu gydag oedolion a phlant erbyn 2030, os ydym am ateb y galw cynyddol am wasanaethau gofal a darparu cymorth i gymunedau ledled y wlad.
Mewn ymdrech i ddenu mwy o bobl i weithio ym maes gofal, mae ymgyrch o’r enw ‘Gofalwn Cymru’ wedi’i lansio. Bydd yr ymgyrch yn amlygu’r amrywiaeth helaeth o yrfaoedd y gellir eu dilyn ym maes gofal, gan gynnwys bod yn warchodwr plant neu’n ymarferydd meithrinfa, yn gydlynydd gofal cartref neu’n rheolwr cartref gofal.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu ar y sgiliau a’r profiad hanfodol i fedru hyrwyddo’r gwerthoedd sydd eu hangen i weithio yn y sector a’r cyfleoedd sydd ar gael, gan feithrin partneriaethau ag amrywiaeth helaeth o randdeiliaid a chydlynu gweithgarwch er mwyn cyflawni amcanion yr ymgyrch yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Ai chi yw’r unigolyn hwnnw?