• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Anableddau dysgu
    • Iechyd meddwl
    • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Cynhwysiant Digidol

Cynhwysiant Digidol

28/03/2023

Cynhaliwyd ymchwiliad i archwilio’r testun cynhwysiant digidol.  Roedd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar; rwystrau cynhwysiant digidol, pwy sydd yn wynebu’r perygl mwyaf o gael eu rhwystro, argymhellion i leihau allgau a bod yn fwy cynhwysol; a rhestr o astudiaethau achos enghreifftiol o brosiectau i gefnogi cynhwysiant digidol.

Mae adroddiad llawn yr ymchwiliad ar gael i’w lawrlwytho isod.

Rhwystrau sy’n atal cynhwysiant digidol

  • Mynediad – rhyngrwyd, offer, fforddiadwyedd
  • Hyder – gallu, diogelwch 
  • Sgiliau ar-lein – sgiliau gwael
  • Ysgogiad – ddim yn gweld perthnasedd / angen
  • Dyluniad – hygyrchedd, defnyddioldeb, cymhlethdod
  • Ymwybyddiaeth – gwasanaethau, cynnyrch a chefnogaeth
  • Iaith – ddim yn Gymraeg / iaith gyntaf 

Perygl o allgau digidol

Mae rhai carfannau o’r boblogaeth yn fwy tebygol o gael eu hallgau’n ddigidol nag eraill, sef:

  • Pobl hŷn
  • Rhai sydd ar incwm is/ yn ddi-waith / yn derbyn budd-daliadau
  • Tai cymdeithasol
  • Pobl ag anableddau
  • Llai o gymwysterau addysgol
  • Byw mewn ardal wledig
  • Digartrefedd
  • Rhai lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Dim plant ar yr aelwyd
  • Hyder mewn llythrennedd cyffredinol

Argymhellion i wella cynhwysiant a lleihau allgau

  • Angen dulliau amgen (dros y ffôn, wyneb yn wyneb, cymorth)
  • Hyfforddiant sgiliau digidol (cefnogwyr, cefnogaeth rhyng-genhedlaeth, cefnogaeth cyfoedion, gweithlu)
  • Technoleg gynorthwyol, hygyrchedd yn rhan ohono
  • Darparu mynediad (cysylltiad di-wifr, dyfeisiau)
  • Codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth
  • Cyd-ddylunio
  • Cydweithio gyda sefydliadau eraill (ymgorffori mewn gwasanaethau lleol / cefnogaeth)
  • Annog pobl i ddefnyddio technoleg yn arloesol.
  • Nodi a thargedu’r rhai â’r angen/diddordeb mwyaf
  • Canolbwyntio ar unigolion, nodau bach a chefnogaeth barhaus (deall rhwystrau)
  • Cynhyrchu diddordeb / canfod diben a hyfforddi i wneud hyn
  • Cynnwys teulu / gofalwyr rhai gydag anableddau dysgu
  • Magu hyder ac ymddiriedaeth
  • Cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant digidol
  • Hawdd ei ddefnyddio, dyluniad hygyrch
  • Cysylltedd mewn ardaloedd gwledig
  • Cefnogaeth wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sy’n anodd eu cyrraedd; siaradwyr Cymraeg, grwpiau ethnig lleiafrifol, LHDTC+
  • Cludiant i dderbyn cefnogaeth
  • Efallai y byddai’n well gan bobl hŷn dderbyn sesiynau dynodedig

Astudiaethau achos cynhwysiant digidol

Cefnogaeth benodol ar gyfer y rhai gydag anableddau:

  • Anableddau Dysgu Cymru – wedi datblygu cwrs newydd ar gyfer y rhai gydag anableddau dysgu
  • Opening the door to possibilities – cyfuno cysylltiad cymdeithasol gyda sgiliau digidol ar gyfer pobl gydag anableddau deallusol 
  • Cronfa Digital Lifeline – dyfeisiau am ddim, cefnogaeth data a digidol ar gyfer rhai gydag anableddau dysgu
  • ORBIT – cynllun byw â chymorth yn cynnwys hyfforddiant / cefnogaeth sgiliau digidol 
  • Mencap Connected Living – technoleg i wella annibyniaeth ar gyfer pobl gydag Anableddau Dysgu
  • Clevercogs – wedi’i ddylunio i gynyddu cyfranogiad digidol ar gyfer oedolion sy’n derbyn pecynnau gofal

Cefnogaeth benodol ar gyfer pobl hŷn:

  • Llysgenhadon Cynhwysiant Digidol – cefnogi pobl hŷn i ddatblygu sgiliau
  • Digital Buddies Salford – gwirfoddolwyr iau yn hyfforddi pobl hŷn 
  • Sunderland Age UK – rhaglen sgiliau digidol yn seiliedig ar anghenion ar gyfer pobl hŷn
  • One Digital Age UK – cefnogwyr digidol sy’n cefnogi sgiliau digidol pobl hŷn
  • Ageing Better Isle of Wight – gwella sgiliau’r rhai dros 50 oed i ddefnyddio dyfeisiau a chael mynediad at y rhyngrwyd

Cefnogaeth benodol ar gyfer y gweithlu:

  • Digital Boomers – gwella sgiliau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Cefnogaeth benodol mewn iechyd meddwl:

  • Community Connector – Mind Salford yn ymgorffori elfennau digidol i sesiynau iechyd meddwl.
  • NAViGO – asesiad o anghenion cynhwysiant digidol a dangosfwrdd (iechyd meddwl a gofal cymdeithasol)
  • Community Connector – yn gysylltiedig â Mind Aberystwyth i dderbyn diddordeb; Side by Side Cymru, menter cefnogi cyfoedion, a My Generation, rhaglen gwydnwch a lles rhai dros 50 oed.

Enghreifftiau o astudiaethau achos eraill:

  • Cael y Fro Ar-lein – cydweithrediad rhwng sefydliadau lleol
  • 100% Digital Leeds – gwaith traws-sector i ddarparu rhaglenni cyllid a chefnogaeth
  • Creu Menter – Rhaglen cefnogwyr digidol yn croesawu amrywiaeth
  • TechMates Wigan – cefnogaeth sylfaenol un i un dros y ffôn, mewn galwad fideo neu wyneb yn wyneb
  • Gwasanaeth Cymorth Digidol – sesiynau unigol neu mewn grŵp yng nghartrefi pobl neu mewn lleoliadau cyhoeddus
  • Canolfannau Iechyd Digidol  – llythrennedd digidol ac iechyd yn y gymuned, a lles hefyd; ASHA (ceiswyr lloches / ffoaduriaid), Seaview (digartref ac iechyd meddwl), a Gwasanaeth Llyfrgell Leeds (dementia). 
  • Gaunless Gateway Big Local – wedi nodi bod dynion sengl sydd mewn llety a rennir yn aml yn mynd heb gysylltiad rhyngrwyd, felly wedi canolbwyntio ar gefnogi lleoliadau di-wifr lleol.
  • Big Local Central Jarrow – yn darparu dyfeisiau / rhyngrwyd ond problemau gyda chostau a’r gallu i dyfu

Sylwer nad yw’r canlyniadau hyn yn gynhwysfawr ond maent yn darparu trosolwg o destunau.

Adroddiad-ymchwiliad-llawn–-Cynhwysiant-Digidol

Ffeiliwyd dan: Blog

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Canolbwynt ar anabledd a salwch

YN EISIAU: Cynrychiolwyr Gofalwyr

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

  • Plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
  • Cynhwysiant Digidol
  • YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital