Mae’r Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu wedi neilltuo swm o arian i annog a chefnogi prosiectau arloesol newydd sy’n:
- Cefnogi’r agenda Trawsnewid yng Ngogledd Cymru
- Canolbwyntio ar flaenoriaethau ffrwd waith y Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu
- Cyd-fynd â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), a Chymru iachach.
- Hyrwyddo ffyrdd arloesol o weithio i gefnogi pobl ag anableddau dysgu, gan eu galluogi i gael bywydau gwych