Mae CartrefiGofal.Cymru yn wefan newydd lle gwelwch chi wybodaeth am bob gartref gofal i oedolion yng Nghymru.
Mae CartrefiGofal.Cymru yn defnyddio gwybodaeth oddi wrth reoleiddiwr y sector gofal, Arolygiaeth Gofal Cymru, ynghyd â gwybodaeth sy’n cael ei darparu’n uniongyrchol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’ch helpu i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu’ch anghenion chi.
Os ydych chi’n chwilio am gartref gofal ar wefan CartrefiGofal.Cymru gallwch chi:
- Chwilio am gartrefi gofal yn eich ardal
- Chwilio am gartrefi gofal sy’n cynnig gofal nyrsio, anableddau dysgu, iechyd meddwl,
- seibiant neu wasanaethau dydd
- Dod o hyd i gartrefi gofal sy’n cyflenwi eu gwasanaeth yn y Gymraeg neu ieithoedd eraill
- Chwilio am gartref gofal sydd â’r cyfleusterau a’r gwasanaethau mae arnoch chi eu hangen
- Gweld pa gyfleusterau a gwasanaethau sydd gan gartref gofal i’w cynnig
- Deall a oes gan gartref gofal leoedd gwag ar y pryd
- Darllen adroddiadau arolygu diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru
- Gweld gwybodaeth am gostau wythnosol nodweddiadol.
Os ydych chi’n ddarparwr Cartref Gofal mae gwefan CartrefiGofal.Cymru yn caniatáu i chi:
- Farchnata’ch cartref gofal i’r cyhoedd ac i weithwyr gofal proffesiynol ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae’n ddi-dâl, ac mae eich gwybodaeth sylfaenol yn cael ei diweddaru’n awtomatig gan ddefnyddio gwybodaeth o’ch cofrestriad AGC
- Gwella’ch cofnod gyda ffotograffau, fideos a manylion y gwasanaethau rydych chi’n eu darparu.
Eisiau gwybod mwy?
Cymerwch gip ar CartrefiGofal.Cymru drwy fynd i www.cartrefigofal.cymru. Neu gallwch chi gysylltu â thîm prosiect CartrefiGofal. Cymru drwy: ffonio 029 2090 9500 neu e-bostio cymorth@cartrefigofal.cymru