Nod y digwyddiad ydi cyflwyno Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru i holl ddarparwyr cymorth ar draws y rhanbarth.
Gobeithio y gallwn annog cyfranogwyr i edrych ar y broses o gyflwyno’r strategaeth dros y 5 mlynedd nesaf. Cynhelir nifer o weithdai a fydd yn canolbwyntio ar feysydd gwahanol, yn ogystal â chyflwyniadau cyflym ar arfer orau.
Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gyfranogwyr gyfrannu at gynllun gwaith prosiect gweddnewid Anableddau Dysgu, ac yn benodol y pum maes pecyn gwaith. Mae hefyd yn gyfle i ddarparwyr siarad am faterion neu bryderon mewn cysylltiad â phob ffrwd gwaith a thrafod sut gall y tîm gweddnewid eu helpu yn y dyfodol, ac edrych ar gyfleoedd i fod yn bartner treialu a chlywed am gyllid unigryw ar gyfer dulliau archwilio/amgen o gefnogaeth.
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at unrhyw berson neu sefydliad sydd yn darparu cymorth i unigolion neu grwpiau o unigolion yn ddi-dâl neu’n derbyn cyflog. Rydym hefyd yn croesawu gweithwyr cefnogi i fynychu gyda’r bobl y maent yn eu cefnogi.