• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Engagements / Sgyrsiau Covid: sgyrsiau partneriaid

Sgyrsiau Covid: sgyrsiau partneriaid

LnRiLWZpZWxke21hcmdpbi1ib3R0b206MC43NmVtfS50Yi1maWVsZC0tbGVmdHt0ZXh0LWFsaWduOmxlZnR9LnRiLWZpZWxkLS1jZW50ZXJ7dGV4dC1hbGlnbjpjZW50ZXJ9LnRiLWZpZWxkLS1yaWdodHt0ZXh0LWFsaWduOnJpZ2h0fS50Yi1maWVsZF9fc2t5cGVfcHJldmlld3twYWRkaW5nOjEwcHggMjBweDtib3JkZXItcmFkaXVzOjNweDtjb2xvcjojZmZmO2JhY2tncm91bmQ6IzAwYWZlZTtkaXNwbGF5OmlubGluZS1ibG9ja311bC5nbGlkZV9fc2xpZGVze21hcmdpbjowfQ==
ICAgIC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSI1YWU2YzZiY2E3YjZiNWYwNDk0NDc1MWFiZDVlZmMwZCJdIHsgYmFja2dyb3VuZDpsaW5lYXItZ3JhZGllbnQocmdiYSggMjM5LCAyMzUsIDIzNSwgMCApLHJnYmEoIDIzOSwgMjM1LCAyMzUsIDAgKSksICAgdXJsKCdodHRwczovL25vcnRod2FsZXNjb2xsYWJvcmF0aXZlLndhbGVzL3dwLWNvbnRlbnQvdXBsb2Fkcy8yMDIxLzA2L3NmbF9xb25teTAwLmpwZycpIGNlbnRlciBjZW50ZXIgbm8tcmVwZWF0O2JhY2tncm91bmQtc2l6ZTphdXRvLCBjb3ZlcjtwYWRkaW5nOiAyNXB4IDBweCAwcHggMHB4OyB9IC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJmMDhiMGE0NGIxOGQ1ODFhMWU3YWI1ZjZkYzZjZDliMyJdIHsgcGFkZGluZzogMHB4O2Rpc3BsYXk6bXMtZmxleGJveCAhaW1wb3J0YW50O2Rpc3BsYXk6ZmxleCAhaW1wb3J0YW50Oy1tcy1mbGV4LWRpcmVjdGlvbjpjb2x1bW47ZmxleC1kaXJlY3Rpb246Y29sdW1uOy1tcy1mbGV4LXBhY2s6ZW5kO2p1c3RpZnktY29udGVudDpmbGV4LWVuZDsgfSAudGItZmllbGRzLWFuZC10ZXh0W2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtZmllbGRzLWFuZC10ZXh0PSJlOGNhNjA4ODAyODNmNzA2NmFkOTZjOTA5YjBhMDJhOCJdIHsgYmFja2dyb3VuZC1jb2xvcjogcmdiYSggMjU1LCAyNTUsIDI1NSwgMC43MSApO3BhZGRpbmctdG9wOiAyMHB4O3BhZGRpbmctcmlnaHQ6IDMwcHg7cGFkZGluZy1sZWZ0OiAzMHB4OyB9IC50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdIHsgcGFkZGluZzogMjVweDsgfSAud3AtYmxvY2stdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyLnRiLWNvbnRhaW5lcltkYXRhLXRvb2xzZXQtYmxvY2tzLWNvbnRhaW5lcj0iYmE3MGMxNzlkNTA0MTA2NjQzOGZjOGZkZjk4ODE2ZWIiXSA+IC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXIgeyBtYXgtd2lkdGg6IDgwJTsgfSAudGItZmllbGRbZGF0YS10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1maWVsZD0iZDgyODQ3ZmU1ZWI1MmY1OWJhNzczYWJhNTkzOWI1MzAiXSB7IGZvbnQtc2l6ZTogMjBweDt0ZXh0LWFsaWduOiBjZW50ZXI7YmFja2dyb3VuZC1jb2xvcjogcmdiYSggMjU1LCAyNTUsIDI1NSwgMSApO3BhZGRpbmc6IDEwcHg7Ym9yZGVyOiA0cHggc29saWQgcmdiYSggMCwgMCwgMCwgMSApOyB9ICBAbWVkaWEgb25seSBzY3JlZW4gYW5kIChtYXgtd2lkdGg6IDc4MXB4KSB7ICAgICAudGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99LnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30gIH0gQG1lZGlhIG9ubHkgc2NyZWVuIGFuZCAobWF4LXdpZHRoOiA1OTlweCkgeyAgICAgLnRiLWNvbnRhaW5lciAudGItY29udGFpbmVyLWlubmVye3dpZHRoOjEwMCU7bWFyZ2luOjAgYXV0b30udGItY29udGFpbmVyIC50Yi1jb250YWluZXItaW5uZXJ7d2lkdGg6MTAwJTttYXJnaW46MCBhdXRvfS50Yi1jb250YWluZXIgLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lcnt3aWR0aDoxMDAlO21hcmdpbjowIGF1dG99IC53cC1ibG9jay10b29sc2V0LWJsb2Nrcy1jb250YWluZXIudGItY29udGFpbmVyW2RhdGEtdG9vbHNldC1ibG9ja3MtY29udGFpbmVyPSJiYTcwYzE3OWQ1MDQxMDY2NDM4ZmM4ZmRmOTg4MTZlYiJdID4gLnRiLWNvbnRhaW5lci1pbm5lciB7IG1heC13aWR0aDogNjAlOyB9ICAgfSA=
Adborth gan wasanaethau cyhoeddus, elusennau a grwpiau cymunedol am effaith Covid-19 ar bobl yng ngogledd Cymru

Lead Organisation: BIPBC


Siaradodd tîm ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) â dros 40 o sefydliadau partner gwahanol am y newidiadau a ddigwyddodd yn ystod y pandemig drwy sgyrsiau ar-lein a dros y ffôn.

Ymgynghoriadau dros y ffôn a fideo

Soniodd lawer o’r cyfranogwyr am y ffordd y newidiodd ymgynghoriadau cleifion yn ystod y cyfnod hwn. Technolegau digidol a galwadau ffôn oedd y brif ffordd i gyfranogwyr gadw mewn cysylltiad â thrigolion, unigolion diamddiffyn, gofalwyr, teulu a ffrindiau.

Manteision ymgynghoriadau fideo neu dros y ffôn:

  • Cyfleus, dim angen teithio i apwyntiadau, yn enwedig ar gyfer pobl â phroblemau symudedd
  • Ffordd dda o gynnal apwyntiadau arferol a dilynol

Heriau ymgynghoriadau fideo neu dros y ffôn:

  • Amhersonol, rhai pobl yn colli’r cyswllt wyneb yn wyneb
  • Ddim yn addas mewn sefyllfaoedd lle mae angen archwiliad corfforol
  • Gallu methu dangosyddion pwysig
  • Posibilrwydd o gamddehongli symptomau
  • Ddim yn hygyrch i bawb, yn enwedig pobl gyda nam ar y clyw neu’r llygaid neu bobl heb fynediad at dechnoleg ddigidol neu ble mae iaith yn rhwystr

Apwyntiadau iechyd

Roedd yna adborth cadarnhaol am wasanaethau meddyg teulu e.e. roedd rhai meddygfeydd yn cysylltu â chleifion i ofyn iddyn nhw am fonitro eu pwysau gwaed a materion iechyd eraill, ac fe helpodd hyn i ddarparu tawelwch meddwl. Roedd peth anhawster wrth gysylltu â rhai meddygon teulu a derbyn presgripsiynau. Roedd llawer o bobl yn bryderus ynghylch defnyddio gwasanaethau iechyd oherwydd haint a ddim eisiau rhoi pwysau ychwanegol ar feddygon teulu. Roedd cleifion eisiau derbyn sicrwydd o argaeledd cyfarpar diogelu personol digonol i sicrhau diogelwch pawb, yn enwedig pan fydd gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ailddechrau. Mae arnyn nhw hefyd eisiau gwybod y bydd hi’n ddiogel mynd i apwyntiadau.

Iechyd meddwl ac unigedd

Tra bod rhai cyfranogwyr wedi llwyddo i addasu’n gyflym i weithio ar-lein ac wedi gallu cyrraedd mwy o bobl fel hyn, roedd llawer o bryderon ynghylch effaith unigedd ar iechyd meddwl pobl. Roedd hyn yn cynnwys diffyg cyfathrebu ac anawsterau wrth dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd iechyd. Roedd pryderon eraill yn ymwneud â thrafferth talu’r rhent, dyledion a diweithdra yn sgil y pandemig, sydd hefyd yn debygol o effeithio ar iechyd meddwl pobl.

Cyfathrebu a gwybodaeth

Roedd technoleg ddigidol a’r cyfryngau cymdeithasol yn arfau defnyddiol i rannu gwybodaeth am Covid-19 a’r gwasanaethau a oedd ar gael yn ystod y pandemig. Roedd rhai problemau wrth ganfod gwybodaeth gan y bwrdd iechyd am newidiadau i wasanaethau a chysylltu â theulu yn yr ysbyty. Roedd angen gwybodaeth ymhob iaith a siaredir yng ngogledd Cymru, nid Cymraeg a Saesneg yn unig.

Gofalwyr

Cafodd llawer o wasanaethau gofal a chymorth eu lleihau neu eu hatal yn ystod y pandemig. O ganlyniad, bu’n rhaid i fwy o bobl ddechrau darparu gofal i ffrindiau a theulu eu hunain neu ddarparu gofal ychwanegol, a effeithiodd ar eu lles. Roedd cynghorau lleol a chymdeithasau gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi gofalwyr, yn cynnwys:

  • Recriwtio a chydlynu gwirfoddolwyr
  • Darparu blychau bwyd drwy fenter Llywodraeth Cymru ar gyfer trigolion a oedd yn gwarchod eu hunain
  • Gwirfoddolwyr yn darparu gwasanaethau danfon, yn cynnwys siopa a chasglu presgripsiynau
  • Darparu systemau cymorth allweddol (cynlluniau cyfeillio), yn cynnwys galwadau ffôn wythnosol i’r bobl fwyaf diamddiffyn a chynnal grwpiau cymorth ar-lein

Gwelwch hefyd: Sgyrsiau Covid: Arolwg cyhoeddus


Contact

Rob Callow
Robert.callow@wales.nhs.uk

Date completed

Tagged With: Ansawdd Bywyd, ar eich pen eich hun, Ar-lein, boddhad bywyd, cadw ar wahân, coronafeirws, cwarantin, electroneg, electronig, emosiynol, gofal, Gofalwr, hapusrwydd, Lles, meddyliol, mewn cwarantin, rhithiol, SARS, SARS-CoV-2, unig, unigedd, yn cadw ar wahân, yn rhithiol, ynysiad, ynysig, Ynysu

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2026 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi ar ein gwefan.
Gallwch ddysgu mwy am ba gwcis rydym yn eu defnyddio neu eu diffodd yn y .

North Wales Collaborative
Wedi'i bweru gan  GDPR Cookie Compliance
Trosolwg preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn i ni allu rhoi'r profiad defnyddiwr gorau posibl i chi. Mae gwybodaeth cwcis yn cael ei storio yn eich porwr ac yn cyflawni swyddogaethau fel eich adnabod pan fyddwch chi'n dychwelyd i'n gwefan a helpu ein tîm i ddeall pa adrannau o'r wefan rydych chi'n eu cael fwyaf diddorol a defnyddiol.

Strictly Necessary Cookies

Dylai Cwcis Cwbl Angenrheidiol fod wedi'u galluogi bob amser fel y gallwn gadw eich dewisiadau ar gyfer gosodiadau cwcis.

Cwcis Trydydd Parti

Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ddienw fel nifer yr ymwelwyr â'r safle, a'r tudalennau mwyaf poblogaidd.

Mae cadw'r cwci hwn wedi'i alluogi yn ein helpu i wella ein gwefan.