Lead Organisation:
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn i helpu i ddatblygu Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru.
Roedd bron pawb yn cytuno bod y pethau canlynol yn bwysig iddyn nhw:
- Cael rhywbeth ystyrlon i’w wneud
- Cael lle da i fyw
- Derbyn y cymorth cywir i dderbyn yr hyn sydd arnaf eisiau
- Bod yn iach
- Bod yn ddiogel
Maen nhw i gyd yn bwysig i’m gwneud i’n hapus
Dyfyniad gan rywun a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad
Dyma brif negeseuon yr ymgynghoriad:
- Angen dewis iawn a rheolaeth, gan ganolbwyntio ar hawliau a chydraddoldeb i bobl ag anableddau dysgu. Y pwysigrwydd o gymryd dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Cynnwys ac integreiddio pobl ag anableddau dysgu’n fwy i’r gymuned ehangach. Yn cynnwys yr angen i hyfforddi staff am anawsterau dysgu penodol ac ymwybyddiaeth nad yw pob anabledd yn weladwy. Roedd llawer o gefnogaeth i’r syniad y dylem ‘helpu ein gilydd’ ond roedd rhai pryderon hefyd am y pwysau y gallai hyn ei roi ar bobl.
- Mae’r gefnogaeth mae pobl yn ei chael gan deulu a darparwyr yn aml yn gweithio’n dda, a chanmolwyd staff ymroddedig ac ymroddgar. Trafodwyd gwasanaethau penodol a oedd yn gweithio’n dda, fel gwyliau byr i ofalwyr, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, elusennau, y trydydd sector a sefydliadau annibynnol, yn cynnwys gwasanaeth eiriolaeth.
- Tynnwyd sylw at y ffaith bod gweithio ar y cyd rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yn rhywbeth sy’n gweithio’n dda mewn rhai meysydd ac yn rhywbeth sydd angen ei wella mewn eraill, yn cynnwys systemau rhannu gwybodaeth gwell a materion o amgylch cyllid.
- Roedd yna hefyd safbwyntiau cymysg ynghylch pa mor dda roedd taliadau uniongyrchol a chyllidebau cefnogi’n gweithio i bobl. Dywedodd rhai eu bod yn gweithio’n dda iddyn nhw a dywedodd eraill eu bod nhw angen llawer mwy o gefnogaeth i’w defnyddio nhw, gan rannu anawsterau o ddod o hyd i weithiwr taliadau uniongyrchol.
Fe wnaeth yr ymgynghoriad hefyd dynnu sylw at faterion sy’n gallu atal pobl rhag cael canlyniadau da, yn cynnwys:
- Cefnogaeth i ofalwyr: Soniwyd am wyliau byr i ofalwyr gan lawer o bobl yn yr ymgynghoriad. Mae rhai o’r materion penodol yn cynnwys diffyg gwyliau byr i deuluoedd, darparu ar gyfer pobl ag anghenion mwy cymhleth fel ymddygiad heriol ac awtistiaeth, a darpariaeth reolaidd a rhagweladwy sy’n agored drwy gydol y flwyddyn. Fe wnaeth pobl sôn am y pwysigrwydd o ystyried yr effaith ar deuluoedd, yn cynnwys anghenion brodyr a chwiorydd plant ag anableddau dysgu. Hefyd y pwysigrwydd o wrando ar rieni a chefnogi rhieni/gofalwyr i adeiladu cadernid a datblygu dulliau ymdopi. Fe wnaeth pobl hefyd sôn am anghenion gofalwyr hŷn a chynllunio ar gyfer y dyfodol, pan na fyddant yn gallu darparu gofal mwyach o bosibl.
- Cyllid: Roedd pryder am gael digon o gyllid ar gael i wasanaethau. Fe wnaeth ychydig o bobl sôn am yr angen i gydweithio ac ystyried cyfuno cyllidebau i geisio rhoi sylw i’r materion hyn, a’r angen i wneud gwell defnydd o dechnoleg.
- Cludiant: Fe wnaeth pobl sôn am ba mor bwysig oedd cludiant iddyn nhw wrth gael eu cynnwys mewn gweithgareddau, yn cynnwys cael rhywun sy’n gallu eu gyrru nhw, tocynnau bws a chludiant â chymhorthdal. Fe wnaeth pobl hefyd sôn am y system waled oren sy’n helpu pobl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
- Hawl i wybodaeth: Fe wnaeth ychydig o bobl sôn am yr angen am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, manylion ynghylch pwy sy’n gallu cael mynediad at wybodaeth ganddynt ac argaeledd gwasanaethau yn Gymraeg. Fe wnaeth yr ymgynghoriad staff dynnu sylw at y pwysigrwydd o hyrwyddo a datblygu Dewis Cymru fel ffynhonnell wybodaeth am y gwasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael mewn cymunedau lleol.
- Datblygu gweithlu: Fe wnaeth pobl siarad am y pwysigrwydd o hyfforddi a chefnogi staff, yn enwedig gweithwyr cefnogi. Hefyd y pwysigrwydd o hyfforddi’r gweithlu ehangach, fel hyfforddi Meddygon Teulu am anghenion pobl ag anableddau dysgu a sut i gael gafael ar dimau cymunedol.
Mae adroddiad llawn yr ymgynghoriad wedi’i atodi at Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru.