Ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru rydym yn gofyn am farn y budd-ddeiliaid allweddol perthnasol ac yn arbennig yr Unigolion Cyfrifol ar Adnodd Dysgu Unigolion Cyfrifol Drafft mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sydd ar gael i wneud sylwadau (gweler ynghlwm). Bydd y sylwadau yn cael eu defnyddio i helpu llunio’r fersiwn terfynol a bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gobeithio y bydd y fersiwn hynny ar gael cyn diwedd y flwyddyn.
Rydym yn cynnal 2 ddigwyddiad ar 12 Hydref 2017 ac os ydych yn dymuno mynychu un o’r digwyddiadau yng Ngogledd Cymru dilynwch y ddolen amgaeedig.
12 Hydref 2017 9.30am – 12.30pm, Optic, Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy
12 Hydref 2017 2.00pm – 5pm Canolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr – Wrecsam
Fel arall, gallwch chi gwblhau’r holiadur isod. Dyddiad diwedd ymgysylltiad: 13 Hydref 2017.
Lawrlwythiadau
Holiadur Ymgynghori Gogledd Cymru
Lawrlwythwch, cadwch ac e-bostiwch at: alison.atkinson@sirddinbych.gov.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â mi, alison.atkinson@sirddinbych.gov.uk. Edrychaf ymlaen at eich ymateb.
Gadael sylw