Canolbwyntiodd Is-grŵp Plant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar geiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc yn eu cyfarfod ar 16 Rhagfyr 2022.
Mae’r wybodaeth gefndir a gawson nhw ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae’n cynnwys pecyn gwybodaeth, cyflwyniad a fideo am ymgyrch gan grŵp o ymgyrchwyr ifanc i wneud yn siŵr bod gan geiswyr lloches ifanc warcheidwad annibynnol i’w helpu nhw drwy’r broses o geisio lloches ac ymgartrefu yn y DU.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein dulliau, gweler ein blog ‘Ffocws ar blant a phobl ifanc’.
Sylwadau o’r cyfarfod
Trafododd y grŵp yr heriau a’r peryglon y mae pobl ifanc yn eu hwynebu pan maen nhw’n ceisio lloches ac yn ymgartrefu mewn gwlad newydd. Mae wedi bod yn anodd i sefydliadau baratoi i groesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn iawn i’r ardal o ganlyniad i’r systemau presennol. Hefyd, yn aml nid oes digon o leoliadau maeth addas yng ngogledd Cymru felly mae’n rhaid i bobl ifanc ar eu pen eu hunain symud i rannau eraill o’r DU.
Wrth sôn am ffyrdd o wella’r cymorth sydd ar gael, roedd y grŵp am wneud yn siŵr bod daliadau ac anghenion ceiswyr lloches ifanc wrth wraidd unrhyw newidiadau a’n bod ni’n gweithio’n agos â sefydliadau gwirfoddol lleol sydd eisoes yn rhoi cymorth. Mae hyn yn ymwneud â chynnwys pobl ifanc o amrywiaeth o wahanol wledydd oherwydd mae’n bosib bod eu profiadau a’u hanghenion nhw’n wahanol iawn. Roedden nhw hefyd yn credu ei bod yn bwysig cynnwys cymunedau cyfan yn y gwaith hwn a deall eu daliadau er mwyn helpu pobl ifanc integreiddio’n dda.
Gwarcheidwaid annibynnol i geiswyr lloches ifanc
Roedd y grŵp eisiau ymchwilio i sut y bydden nhw’n gallu darparu gwarcheidwad annibynnol i roi cymorth i geiswyr lloches ifanc. Roedd cael un person i gefnogi person ifanc drwy’r broses ceisio lloches ac i ymgartrefu yn ei fywyd newydd yn ymddangos yn ffordd dda o fynd i’r afael â rhai o’r heriau a drafodwyd. Gallai rhywun sy’n annibynnol ar sefydliadau sydd eisoes yn darparu cymorth, fel y cynghorau lleol, eirioli’n well dros anghenion y person ifanc. Yn ddelfrydol, byddai hyn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a Lloegr fel bod sefydliadau’n rhoi cymorth yn gallu rhoi gwarcheidwad i geiswyr lloches ifanc sy’n lleol iddyn nhw ac fel bod pob ceisiwr lloches ifanc yn cael yr un cymorth. Mae cynlluniau tebyg eisoes ar gael yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Camau nesaf
Byddwn ni’n:
- Gweithio gyda The Children’s Society a sefydliadau lleol sy’n rhoi cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drafod y syniad o ddarparu gwarcheidwaid annibynnol i roi cymorth i geiswyr lloches ifanc yng ngogledd Cymru.
- Cynllunio sut i baratoi ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifanc mewn dull mwy strategol a gweithio gyda’r Swyddfa Gartref.
- Rhannu ein canfyddiadau â Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru a chydweithio i helpu i gadw ffoaduriaid a cheiswyr lloches ifanc yn ddiogel.
Beth ydych chi’n ei gredu?
Ydych chi’n ffoadur, ceisiwr lloches ifanc neu’n rhywun sy’n rhoi cymorth i bobl ifanc? Ydych chi’n credu bod y rhain yn syniadau da ac a oes unrhyw beth pwysig yr ydym ni wedi’i golli? Oes gennych chi syniadau o ran sut y gallwn ni ddatrys pethau, ac a hoffech chi fod yn rhan o’u datrys nhw?
Cysylltwch â Luned Yaxley os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei rannu â ni.
Gyda diolch i Nick Andrews, o’r prosiect Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) am rannu dull y Gymuned Ymholi y gwnaethom ni ei ddefnyddio i hwyluso’r sesiwn.