• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Y bobl rydyn ni’n eu cefnogi >
      • Pobl gydag anableddau dysgu
      • Gofalwyr di-dâl
      • Pobl sy’n byw gyda dementia
      • Plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
      • Pobl gydag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl
    • Sut rydyn ni’n gweithio >
      • Comisiynu
      • Gweithlu
      • Diogelu
      • Fforwm gwerth cymdeithasol
      • Digidol, data a thechnoleg
      • Mwy na geiriau
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Blog / Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl

28/03/2023

Cynhaliwyd ymchwiliad i archwilio’r pwnc gofalwyr ifanc sy’n gofalu am rywun â phroblemau iechyd meddwl.  Mae’r ymchwiliad yn edrych ar; yr effaith ar y gofalwyr ifanc hyn, rhai o’u profiadau, eu hanghenion penodol ac enghreifftiau o gymorth penodol ar gyfer y grŵp hwn o ofalwyr ifanc. 

Mae adroddiad llawn yr ymchwiliad ar gael i’w lawrlwytho isod.

Yr effaith ar y gofalwyr ifanc hyn

Gall gofalwyr ifanc sy’n gofalu am rywun â phroblemau iechyd meddwl brofi llawer o’r un problemau â gofalwyr ifanc eraill ond gallant hefyd wynebu problemau ychwanegol a mwy dwys yn cynnwys:

  • Risg uwch o gael anawsterau iechyd meddwl
  • Diffyg cefnogaeth/ sylw gan rieni 
  • Stigma/ teimlo’n wahanol
  • Risg uwch o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
  • Beio eu hunain
  • Cefnogaeth gymdeithasol wael/ problemau gyda ffrindiau
  • Ofn mynd yn sâl eu hunain
  • Gall ymddygiad y rhiant fod yn ddryslyd, ofnus, llethol, pryderus neu’n drallodus
  • Gwrthdroi rolau/cyfrifoldeb
  • Problemau emosiynol ac ymddygiadol
  • Natur anrhagweladwy ac ansefydlogrwydd
  • Colled a thristwch
  • Rhwystrau i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol

Profiadau’r gofalwyr ifanc hyn

Roedd rhai o’r themâu a oedd yn codi o’r profiadau yn cynnwys:

  • Teimlo’n ofnus/pryderus
  • Angen gwybodaeth am y salwch meddwl
  • Teimlo fel petaent wedi cael eu hanghofio gan weithwyr proffesiynol

Anghenion penodol y gofalwyr ifanc hyn

Mae rhai o’r anghenion allweddol a nodwyd yn cynnwys:

  • Cefnogaeth (ysgol, cymheiriaid, gweithiwr allweddol, arall)
  • Gwybodaeth
  • Sgrinio ar gyfer profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
  • Gwasanaethau pwrpasol
  • Eiriolaeth
  • Ymwybyddiaeth/cael eu cynnwys gan weithwyr proffesiynol
  • Dull sy’n canolbwyntio ar y teulu
  • Diogelwch
  • Cynllun os yw’r rhiant yn yr ysbyty
  • Cael bod yn blentyn

Enghreifftiau o gefnogaeth benodol

Roedd y sawl enghraifft o arfer da yn tueddu i ddefnyddio un neu fwy o’r dulliau canlynol:

  • Cymorth gan gymheiriaid
  • Canolbwyntio ar deuluoedd
  • Codi ymwybyddiaeth/hyfforddiant
  • Gwybodaeth sydd wedi’i deilwra
  • Therapïau
Plant syn gofalu am rywun a phroblemau iechyd meddwl – Adroddiad llawn yr ymchwiliad 22.03.2023 PDF

Sylwer nad yw’r canlyniadau hyn yn gynhwysfawr ond maent yn darparu trosolwg o destunau.

Tudalennau cysylltiedig

Chwiliadau am lenyddiaeth a chrynodebau o dystiolaeth

Ffeiliwyd dan: Blog Tagged With: glasoed, Gofalwr ifanc, Gofalwyr Ifanc, ieuanc, ieuenctid, llanc, meddyliol, oed ysgol, oedolion ifanc, oedolyn ifanc, person ifanc, person ifanc sy’n rhoi gofal, person yn ei arddegau, plant, plentyn, pobl ifanc, Salwch

Gofalwn Cymru WeCare Wales

Primary Sidebar

Negeseuon Diweddar

Gogledd Cymru yn Dathlu Wythnos Anableddau Dysgu gyda Her Heicio a Beicio

Mae ymarfer gwell yn dechrau yma ac mae’n haws nag yr ydych chi’n meddwl

Wythnos Gofalwyr 2025

  • Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Digwyddiadau cerdded a beicio i ddathlu’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu
  • Ymweliad y Tîm Cyfalaf ag Ynys Môn
  • Gwasanaethau yng Ngogledd Cymru yn uno i lansio adnodd cymorth dementia newydd

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni

Bluesky: @hcargc.bsky.social


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Copyright © 2025 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital