Mae nifer o weithdai wedi eu sefydlu ar draws y rhanbarth i edrych ar gydgynhyrchu set o werthoedd i’r gweithlu. Rydym yn croesawu cyfranogwyr gydag anableddau dysgu, rhieni, gofalwyr, darparwyr gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un arall i ddod draw i gydgynhyrchu set o werthoedd i’r gweithlu gofal cymdeithasol. Unwaith y datblygir, gallwn edrych ar sut mae’r gwerthoedd hyn yn cael eu sefydlu ar draws y gweithle drwy recriwtio yn seiliedig ar werthoedd, ymsefydlu, hyfforddi a datblygu a gwerthuso.
Ar hyn o bryd mae gennym bedwar gweithdy wedi eu trefnu ar draws Gogledd Cymru ar y dyddiadau canlynol.
Dydd Mawrth 10 Medi 11am tan 3pm: Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Gwynedd, LL55 1SQ
Dydd Iau 12 Medi 9.00am tan 12.00 canol dydd: Canolfan Fusnes Conwy, Junction Way, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9XX
Dydd Mawrth 17 Medi 9.30am tan 12.00 canol dydd: Hwb Cyfle, Chester Road West, Queensferry, CH5 1SA
Wrecsam: dyddiad Medi i’w drefnu.
Os ydych eisiau cyfrannu at ddatblygu gwerth y gweithlu, gallwch anfon e-bost at Sian.croston@flintshire.gov.uk i archebu lle. Croeso i bawb.