• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Adroddiad blynyddol 2020-21

Adroddiad blynyddol 2020-21

Contents

Crynodeb

Lansiwyd Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant Gogledd Cymru fis Mawrth 2020 pan oedd popeth yn newid. Cyrhaeddodd ein staff newydd swyddfeydd gwag gan fachu eu cyfarpar TG a dechrau ar eu cyflwyniad gan gadw pellter cymdeithasol. Bu’n rhaid newid cynlluniau’r Hwb yn gyflym i gydymffurfio â’r byd newydd. Ein blaenoriaeth gyntaf oedd cefnogi’r ymateb i bandemig Covid-19, felly helpodd y tîm i adeiladu ysbytai Enfys, i ddylunio cyfrifianellau cyfarpar diogelu personol ac i gefnogi pobl ddiamddiffyn yn uniongyrchol.

Yna, edrychom ar sut y gallwn ni gydlynu gweithgareddau ymchwil ac arloesi i gefnogi’r ymateb brys. Darllenodd ein Llyfrgellydd Arbenigol yr ymchwil a’r canllawiau diweddaraf gan gyhoeddi rhestr o ffynonellau gwybodaeth defnyddiol. Dechreuom hefyd edrych ar yr arloesi a welwyd o ganlyniad i Covid-19 yng ngogledd Cymru. Mae newidiadau mawr wedi’u gwneud i’r ffordd rydym ni’n defnyddio technoleg ddigidol, o alluogi pobl i weithio gartref a chynnal cyfarfodydd ar-lein i roi Attend Anywhere ar waith i ddarparu gofal i gleifion dros gyswllt fideo diogel.

Darparodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol iPads i breswylwyr cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai ar draws y rhanbarth er mwyn iddyn nhw gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu tra bod cyfyngiad ar ymweliadau yn ystod argyfwng y coronafeirws. Tyfodd y syniad o brosiect i ddarparu iPads i gefnogi pobl yn y gymuned i helpu i reoli eu cyflyrau iechyd ac i leihau arwahanrwydd cymdeithasol. Roedd hyn yn enghraifft wych o addasu’n gyflym ac ail-ddylunio un o brosiectau Rhaglen Drawsnewid Gwasanaethau Cymunedol a chydweithio gydag awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd, Macmillan a Chanolfan Cydweithredol Cymru. Roedd newidiadau eraill yn cynnwys ymestyn oriau agor, gwella cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth a darparu ystod eang o gymorth cymunedol creadigol ac arloesol.

Yn ystod y cam nesaf byddwn yn dysgu mwy am sut a pham y digwyddodd y newidiadau yma a defnyddio’r profiad i adeiladu system iechyd a gofal cymdeithasol well a chryfach ar gyfer y dyfodol.

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cefnogi prosiectau trawsnewid i ddefnyddio tystiolaeth drwy gynnal chwiliadau llenyddiaeth, megis i adnoddau i gefnogi lles plant, a darparu cyngor a chymorth i greu arolygon ar-lein, dadansoddi data dulliau ymchwil adrodd stori.

Buom yn gweithio gyda phrosiectau’r Gronfa Gofal Integredig i ystyried themâu graddfa, arferion da ac arloesi. Buom hefyd yn cefnogi cydlynu gwell drwy nodi prosiectau tebyg mewn sectorau/asiantaethau gwahanol a’u cysylltu â’i gilydd. Buom yn gweithio gyda phrosiectau cenedlaethol i osgoi dyblygu lleol, gan ddatblygu rhwydweithiau cryf gyda hybiau rhanbarthol eraill. Er enghraifft, gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i edrych ar y defnydd o dystiolaeth o fewn gofal cymdeithasol, rhannu ein chwiliadau llenyddiaeth Covid-19 gyda rhanbarthau eraill a defnyddio ein gwefan i amlygu’r dulliau gwahanol a geir i hyrwyddo arloesi (Labordai Byw, Haciau Iechyd, Labordai Arloesi) o fewn sectorau gwahanol.

Bu i ni drefnu Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol gyda Phrifysgol Bangor gan ganolbwyntio ar dechnoleg ddigidol. Buom yn gweithio hefyd gyda’r Asiantaeth Arloesi i ddatblygu cysyniad o Labordy Byw a dod ag ymarferwyr ac ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gael gwell dealltwriaeth o’r tirlun ymchwil, arloesi a gwelliant yng ngogledd Cymru.

Bu i ni barhau i hyrwyddo digwyddiadau, cyfleoedd ariannu a gwaith y tîm drwy’r wefan, y cyfrif Twitter a thrwy newyddlenni e-bost rheolaidd. Roedd hyn yn cynnwys trydaru’n fyw o ddigwyddiadau rhanbarthol allweddol. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd gennym ni 170 o ddilynwyr ar Twitter a 130 yn rhan o restr bostio’r Hwb.

I dderbyn mwy o wybodaeth, dilynwch ni ar Twitter @NW_RIICH_ a/neu cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen.

Y flwyddyn mewn ffigyrau

Ymgysylltiad: 9 newyddlen, 935 ymweliad unigryw â’n gwefan,170 o ddilynwyr ar Twitter, 23,000 o argraffiadau trydar, 130 wedi tanysgrifio â’n rhestr bostio 
Gweithdai: 7 gweithdy, 65 cyfranogwr. Cymorth prosiectau:	31 o brosiectau wedi’u cefnogi,	43 o chwiliadau llenyddiaeth.
Cymorth Covid-19:	25 o gyfweliadau Covid-19,	152 o wefannau Covid-19 wedi’u hadolygu.

Cefnogi’r ymateb i Covid-19

Ar ddechrau’r flwyddyn cafodd aelodau o’r tîm eu hadleoli i helpu gyda’r argyfwng. Dyma rai o’r prosiectau a gefnogwyd:

  • Gwneud galwadau rheolaidd i bobl ddiamddiffyn yn Sir Ddinbych i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r gefnogaeth yr oedd arnyn nhw ei hangen
  • Troi Venue Cymru yn Ysbyty’r Enfys
  • Datblygu cyfrifiannell Cyfarpar Diogelu Personol i gefnogi’r sector gofal
  • Coladu ffynonellau gwybodaeth o ansawdd am Covid-19
  • Creu canllaw i ganfod gwybodaeth o ansawdd am iechyd ar-lein

Cofnodi Arloesi

Cafodd pob mathau o ddulliau gweithio newydd ac arloesol eu datblygu i ymateb i Covid-19. Yna, cafodd llawer o arolygon gwahanol eu rhannu i geisio cofnodi’r newidiadau a’r gwersi a ddysgwyd. Gofynnodd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’r Hwb gydlynu’r ceisiadau hyn am wybodaeth a chrynhoi’r newidiadau yng ngogledd Cymru. Cynaliasom ein harolwg ein hunain a choladu canfyddiadau arolygon eraill. Bu i ni weithio gyda thimau eraill a oedd yn cwblhau prosiectau tebyg yng ngogledd Cymru i rannu canfyddiadau ac i osgoi dyblygu, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r Hyb Gofal Sylfaenol a Chymunedol i ddatblygu dull ar y cyd a chyda Thîm Ymgysylltu BIPBC i ddysgu o ganfyddiadau eu prosiect ‘Sgyrsiau Covid’ gyda defnyddwyr gwasanaeth. Cynaliasom 25 cyfweliad ‘y newid mwyaf sylweddol’ i gasglu data ansoddol da am brofiadau pobl a oedd yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig yn defnyddio dull ‘adrodd stori’. Cynaliasom waith mapio achlysurol o’r cyfweliadau a rhoi ap Mapio Achlysurol newydd ar brawf gyda Phrifysgol Caerfaddon.

Cafodd y chwiliadau llenyddiaeth a gynhaliwyd gan ein Llyfrgellydd Arbenigol ar gyfer y prosiect eu rhannu gyda rhanbarthau eraill i hysbysu adolygiadau cyflym Covid-19.

Cafodd canfyddiadau o’r adroddiad eu rhannu gyda Grŵp Adferiad Iechyd a Gofal Gogledd Cymru, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Bwrdd Sefydlogi ac Ailadeiladu Gofal Cymdeithasol.

Darllen Adolygiad Cyflym Covid-19.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae cydlynu a rhannu gwybodaeth yn swyddogaeth allweddol i’r Hwb. Eleni rydym ni wedi bod yn sefydlu systemau Cymraeg a Saesneg i’n helpu ni rannu gwybodaeth gyda’r bobl sydd ei hangen.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Tudalennau gwe tîm newydd – hyd yma rydym ni wedi derbyn 935 o ymweliadau unigryw
  • Negeseuon blog
  • Rhestr bostio y mae modd i bobl gofrestru ar ei chyfer ar ein gwefan – Erbyn diwedd mis Mawrth roedd 130 o bobl wedi tanysgrifio
  • Cyfrif Twitter – erbyn diwedd mis Mawrth roedd gennym ni 170 o ddilynwyr a 23,000 o argraffiadau trydar
  • Newyddlenni rheolaidd am gyfleoedd ariannu, digwyddiadau a’r gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant diweddaraf yng ngogledd Cymru –cyhoeddwyd 9 newyddlen yn 2020-21
  • Cwrdd â phobl i gyflwyno gwaith yr Hwb, gwneud cysylltiadau a darganfod mwy am y syniadau da y gallwn ni eu hyrwyddo ar draws y rhanbarth

Eleni cynaliasom 75 o gyfarfodydd cyflwyno gyda phobl o 35 sefydliad gwahanol. Er enghraifft, cwrdd ag ymchwilwyr ynglŷn â’r prosiect Kidney BEAM a phrosiect hanes llafar Mencap i drafod syniadau a darparu cysylltiadau i helpu i rannu eu canfyddiadau gyda gwneuthurwyr polisi yng ngogledd Cymru, a chwrdd â Rheolwr Busnes Rhanbarthol Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru i drafod sut y mae modd i’r Hwb gefnogi arloesi mewn technoleg feddygol.

Neges Twitter boblogaidd. Hac Covid-19. Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn wahanol am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud. Eisiau cymryd rhan neu wylio? Cofrestrwch yma: m-sparc.com/cy/haciocovid
Neges Twitter boblogaidd. Gweithio gyda Chydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru? Gallwn ddod o hyd i enghreifftiau neu dystiolaeth i gefnogi eich gwelliannau. I wneud cais am ymchwil, cysylltwch â Rebecca.roylance@denbighshire.gov.uk

Hygyrchedd

Mae arnom ni eisiau i’n holl gyfathrebu ac adnoddau fod yn hygyrch i gymaint o bobl â phosibl . Yn ystod y flwyddyn rydym ni wedi darparu hyfforddiant i’r tîm cydweithio rhanbarthol ar sut i greu dogfennau hygyrch, wedi cynhyrchu templedi hygyrch a chynnal hyfforddiant ar isdeitlau fideos. Rydym ni hefyd wedi cofrestru ar gyfer Photosymbols er mwyn i ni greu dogfennau hawdd eu darllen i bobl gydag anableddau dysgu.

Ond gwyddom fod rhagor i’w ddysgu er mwyn wella hygyrchedd ein gwaith felly, os oes gennych chi unrhyw syniad arall, cofiwch gysylltu â ni.

Gwneud cysylltiadau ar draws Cymru

Mae yna saith hwb ymchwil, arloesi a gwelliant rhanbarthol a thri arweinydd strategol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Roedd yn braf dod i adnabod arweinwyr yr hybiau eraill yn ystod y flwyddyn, gan rannu cynlluniau a syniadau a darganfod mwy am y gwaith ardderchog a wneir ar hyd a lled Cymru.

Rydym ni hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cenedlaethol, gan helpu i sicrhau bod pobl allweddol yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan ac yn codi proffil y rhanbarth.

Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar brosiect gyda’r James Lind Alliance i bennu blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal cymdeithasol ac ar brosiect gyda SCIE i edrych ar y defnydd o dystiolaeth o fewn gofal cymdeithasol
  • Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac SCIE i edrych ar y defnydd o dystiolaeth o fewn gofal cymdeithasol
  • Aelod o grŵp llywio Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth
  • Aelod o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru
  • Aelod o Fwrdd Sefydlogi ac Ailadeiladu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru
  • Trafod cynlluniau gwaith gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Gwledig Cymru i edrych ar gyfleodd i wneud cysylltiadau a chydweithio
  • Gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac arweinwyr cydlynu ymchwil, arloesi a gwelliant Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi prosiect presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer parafeddygon yng ngogledd Cymru. Helpodd yr Hwb i gysylltu’r prosiect â llyw-wyr presgripsiynu cymdeithasol/cymunedol yng ngogledd Cymru a chynnal chwiliad llenyddiaeth ar gyfer prosiectau tebyg er mwyn dysgu o wersi
  • Cefnogi Prosiect Archwiliadol Hyb Cymunedol Ar-lein a mynd i gyfarfodydd panel Gweithio gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i edrych ar gysylltiadau rhwng Asesiadau Lles ac Asesiadau Anghenion Poblogaeth ac i rannu gwybodaeth
  • Ymuno â chyfarfod y Grŵp Arloesi Cenedlaethol
  • Darparu adborth ar wefan rhagamcaniadau Daffodil
  • Ychwanegu mwy o ddata gofal cymdeithasol i gronfa ddata SAIL i gefnogi ymchwil

Cefnogi’r Rhaglen Drawsnewid

Sefydlwyr yr hybiau i helpu i sbarduno dulliau iechyd a gofal cymdeithasol newydd fel rhan o waith trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach Llywodraeth Cymru fel y noddir yn nogfen Cymru Iachach. Mae cefnogi rhaglen drawsnewid gogledd Cymru a phrosiectau’r Gronfa Gofal Integredig gydag ymchwil, arloesi a gwelliant yn flaenoriaeth i’r Hwb. Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r rhaglen gyda chwiliadau llenyddiaeth a darparu cyngor a chymorth i sefydlu arolygon ar-lein a dadansoddiadau data. Yn cynnwys arolwg iechyd emosiynol, casglu canlyniadau MST a data/ymchwil am gyflogaeth a phobl gydag anableddau dysgu.

Gwasanaethau Cymorth Cymunedol

Mae’r Hwb wedi creu arolwg ar-lein i helpu i nodi gofynion a mynediad pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol at dechnoleg ddigidol. Bydd hyn yn helpu i hysbysu cynlluniau i gefnogi’r gweithlu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn eu bywydau gwaith.

Buom yn gweithio gyda Rhaglen Drawsnewid Gwasanaethau Cymunedol i helpu i gydlynu prosiectau asesu anghenion lleol i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau.

Rhaglen Drawsnewid Plant a Phobl Ifanc

Mae’r Hwb yn cefnogi prosiect ‘Pum Ffordd at Les’ Iechyd a Lles Emosiynol. Nod y prosiect ydi datblygu casgliad o adnoddau ar-lein i gefnogi lles plant. Rydym ni wedi datblygu arolwg i ganiatáu i’r prosiect flaenoriaethu ffocws cychwynnol y ddarpariaeth newydd ac rydym ni’n cefnogi chwiliadau i wneud yn siŵr ei bod yn cynnwys adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Caiff y chwiliadau eu defnyddio i nodi adnoddau ar gyfer rhieni i gefnogi eu plant ac i benderfynu a oes unrhyw adnodd wedi’i werthuso.

Rydym ni hefyd wedi darparu cefnogaeth gyda chasglu canlyniadau o’r prosiect Therapi Aml-Systemig (MST).

Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu

Mae’r Hwb wedi cefnogi’r rhaglen drwy gynnal chwiliadau llenyddiaeth a darparu cymorth i nodi data am gyfleodd cyflogaeth i bobl ifanc gydag anableddau dysgu.

Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda’r tîm i ddatblygu digwyddiad Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol, lle hyrwyddodd y tîm y Strategaeth Anableddau Dysgu Digidol wych.

Rhaglen Drawsnewid Iechyd Meddwl

Buom yn gweithio gyda thîm ICAN i gasglu straeon am y ffyrdd y mae gwasanaethau wedi enwid yn ystod y pandemig, yn defnyddio methodoleg y Newid Mwyaf Sylweddol.

Y Gronfa Gofal Integredig

Rydym ni’n gweithio gyda saith prosiect wedi’u hariannu gan y Gronfa Gofal Integredig i ystyried themâu graddfa, arferion da ac arloesi. Rydym ni wedi ymgynghori â rhwydwaith o ymchwilwyr prifysgol i gyflwyno’r methodolegau a’r technegau gwerthuso diweddaraf a gydnabyddir yn rhyngwladol i ymarferwyr ar y rheng flaen.

Chwiliadau llenyddiaeth

Dyma enghreifftiau o’r chwiliadau rydym ni wedi’u cynnal yn ystod y flwyddyn:

  • Data cyrchfan a chyflogaeth ôl-addysg lle ceir cefnogaeth a chymorth sgiliau byw i bobl gydag anableddau dysgu
  • Gwasanaethau breuder ar gyfer ardaloedd gwledig
  • Gagendor digidol a hygyrchedd
  • Cydgynhyrchu yn cymryd amser i’w gyflawni
  • Enghreifftiau o gydweithfeydd llwyddiannus
  • Unigrwydd yn ystod Covid-19
  • Mentrau cymunedol i geisio mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ystod Covid
  • Rhwystrau i hyfforddiant digidol ar gyfer staff cartref gofal a gofal cartref
  • Meddygfeydd yng ngogledd Cymru
  • Defnyddio Alexa a dyfeisiau eraill i gefnogi pobl hŷn
  • Pam bod pobl yn camddefnyddio’r gwasanaethau brys?
  • Mentrau i leihau’r camddefnydd o’r gwasanaethau brys

Dyma’n union oedd yn mynd trwy ein meddyliau, mae’n ddefnyddiol iawn ac yn gryno. Mae cynnwys y data hefyd yn gynorthwyol.

Dim ond gair o ddiolch am yr wybodaeth a anfonwyd heddiw – mae wedi bod yn help mawr gan fod adroddiad Warrington yn enghraifft wych o’r math o weithgaredd ac adborth y gallwn ni ei wneud yn gyflym, ac mae gwefan Swydd Rydychen yn wych hefyd. Mae’n glir iawn ac yn hawdd ei defnyddio. Mae’n ddefnyddiol iawn, diolch yn fawr iawn i chi.

Labordai Byw

Buom yn gweithio gyda’r Asiantaeth Arloesi i ddatblygu cyfres o weithdai i archwilio’r cysyniad o gael Labordy Byw yng ngogledd Cymru. Nod y gweithdai oedd datblygu partneriaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, cael iaith a dealltwriaeth a rennir i hysbysu strategaeth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwelliant i adeiladu ar a chydgysylltu gyda strategaeth ymchwil ac arloesi BIPBC. Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021 cynaliasom 6 gweithdy.

Labordy Byw sut ydych chi’n ysgogi eraill? Effaith pelen eira. Cronfa ddata i rannu gwybodaeth. Mae derbyn gwybodaeth yn gallu bod yn ddigon o ysgogiad i adeiladu ar y rhwydwaith. Mae cychod gwenyn wedi’u dylunio i wneud mêl! Blodau agosaf. Canfod asedau nad ydym ni fel rheol yn gweithio â nhw. Sut fedrwn ni ganfod a mapio syniadau a phrosiectau newydd. Genedigaeth, aeddfedrwydd, twf, dinistr creadigol. Cylch-eco. Cymunedau ymarfer – sut ydym ni’n adeiladu a chefnogi twf hyn?

Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol

Buom yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu Labordai Arloesi Gofal Cymdeithasol i ddod ag ymarferwyr ac ymchwilwyr at ei gilydd i ystyried testunau gwahanol.

Roedd yr un cyntaf ar 16 Mawrth 2021 yn canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol, mewn partneriaeth ag M‑Sparc a Phrifysgol Bangor. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ar y Strategaeth Technoleg Anableddau Dysgu, yr ymchwil diweddaraf o ran y dechnoleg bresennol ac i’r dyfodol i gefnogi gofal a chymorth yn y cartref, gwersi o Gymuned Ymarfer Technoleg Bersonol Cymru Gyfan, a sgwrs gan Technoleg Iechyd Cymru ynglŷn â chefnogi technoleg ddigidol yn y maes gofal. Mynychodd 33 o bobl a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau academaidd, ymarferol a pholisi ac aelodau o’r cyhoedd a oedd â diddordeb. Roedd gormod o bobl wedi tanysgrifio i’r digwyddiad felly cafodd ei recordio a’i rannu gyda phobl na gafodd fynychu.

Yn ystod y trafodaethau rhannodd y cyfranogwyr ddolenni defnyddiol, gan gynnwys:

  • Mae’r ap Insight yn rhannu gwybodaeth am lawer o weithgareddau ar-lein sydd ar gael i bobl gydag anableddau dysgu. Mae’n cael ei hyrwyddo ar draws gogledd Cymru a chafodd ei argymell gan y cyflwynwyr yn y digwyddiad. I dderbyn mwy o wybodaeth: gallwch wylio fideo yn dangos sut mae’n gweithio, darllen erthygl sy’n cynnwys fideo YouTube neu gysylltu â Paul.Mazurek@flintshire.gov.uk
  • Cymuned Ymarfer Technoleg Bersonol Cymru Gyfan. Anfonwch neges at karen.warner@ldw.org.uk os hoffech chi ymuno.
  • Mae Lorna Tuersley yn ymchwilydd sy’n edrych ar ddefnydd gwasanaethau cadeiriau olwyn o dechnoleg ddigidol, gyda llawer o’r defnyddwyr gydag anableddau dysgu. Os ydych chi’n fodlon siarad am eich profiadau neu’ch barn am y dechnegol ddigidol a ddefnyddir anfonwch neges ati i l.tuersley@bangor.ac.uk Hefyd, os oes gennych chi brofiad o ddatblygu dulliau i lenwi ffurflenni ar-lein yn defnyddio ffonau clyfar.
  • Cafodd y digwyddiad ei drydaru’n fyw gan Beccy Roylance, dilynwch @NW_RIICH i ddysgu mwy.

Beth nesaf

Yn 2021/22 mae arnom ni eisiau adeiladu ar y perthnasoedd a’r strwythurau yr ydym ni wedi’u gwneud hyd yma i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael effaith ac yn arwain at welliannau i iechyd a lles pobl ar hyd a lled gogledd Cymru.

Byddwn yn mapio gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant ar draws gogledd Cymru ac asesu i ba raddau y maen nhw’n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Byddwn yn datblygu strategaeth ymchwil, arloesi a gwelliant i ddatblygu blaenoriaethau a rennir ar gyfer gofal cymdeithasol ac ymchwil iechyd.

Byddwn yn parhau i gefnogi’r rhaglen drawsnewid ac yn cynorthwyo partneriaid eraill i ddatblygu eu gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys mwy o weithdai Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol i ddod â phobl o sectorau amrywiol at ei gilydd i rannu syniadau. Bydd hefyd yn cynnwys gwaith cefnogi o ran asesiad o anghenion y boblogaeth ac adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar hyd a lled Cymru ar brosiectau a rennir, megis dulliau masnacheiddio arloesi.

Byddwn yn datblygu ein gwefan fel lle y mae modd i bobl ddod o hyd i’r adnoddau sydd arnyn nhw eu hangen ac enghreifftiau o arferion da o’r rhanbarth. Byddwn hefyd yn archwilio dulliau gwell i rannu canfyddiadau o weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn iddyn nhw gael mwy o effaith. Byddwn yn hyrwyddo’r gwaith yma drwy ein newyddlenni rheolaidd a’n cyfrif Twitter, a byddwn yn ceisio cynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym ni.

Cysylltwch â ni

Rhif ffôn: 01824 712432
E-bost: nwriich@denbighshire.gov.uk
Twitter: @NW_RIICH_
Gwefan: Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant

Lawrlwytho’r fersiwn PDF

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch

Adroddiad Blynyddol 2020-21
Yn ôl i frig y dudalen.

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital