Crynodeb
Nod yr Hwb yw cydlynu gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwella iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
Yn 2022-23, aethom ati i werthuso syniadau arloesol megis prosiect meicro ofal y Catalyddion Cymunedol a dyfeisiau RITA i gefnogi gweithgareddau therapi hel atgofion, adsefydlu a rhyngweithiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Edrychwn ymlaen at gael rhannu effeithiau cadarnhaol y prosiectau hyn yn ystod y flwyddyn nesaf.
Er mwyn cefnogi’r Bwrdd Digidol, Data a Thechnoleg rhanbarthol newydd, bu i ni gynnal gweithdai a dechrau mapio’r prosiectau digidol arloesol sy’n cael eu cynnal yng ngogledd Cymru.
Buom yn cydweithio’n agos â’r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i wella ein dulliau o gasglu, trafod a defnyddio tystiolaeth ymchwil. Mae hyn yn cynnwys dulliau adrodd straeon o gasglu tystiolaeth a defnyddio dull a elwir yn Gymuned Ymholi i fyfyrio ar dystiolaeth a gasglwyd gennym i gefnogi gwaith Is-grŵp Plant y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
Bu i ni gefnogi rhaglenni rhanbarthol gyda chwiliadau i ganfod tystiolaeth ymchwil am bynciau y maent yn gweithio arnynt. Roedd hyn yn cynnwys chwiliadau am gynhwysiant digidol, plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol a gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl.
Wrth i ddata Cyfrifiad 2021 ddechrau cael ei gyhoeddi, rydym wedi cynhyrchu cyfres o adroddiadau am y canlyniadau cychwynnol ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys data am ddemograffeg a chydraddoldeb.
Gan gydweithio’n agos â hybiau rhanbarthol eraill a sefydliadau cenedlaethol, aethom ati i rannu, hyrwyddo a datblygu syniadau newydd, gan gynnwys aelodaeth o Rwydwaith Arloesi newydd ar gyfer Gogledd Cymru. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd nifer dilynwyr ein cyfrif Twitter wedi cynyddu i 400, gyda 170 o bobl wedi tanysgrifio i restr bostio’r hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh).
Dilynwch ni ar Twitter @_NW_RICH, cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen ac ewch draw i dudalennau gwe hwb CARh i gael rhagor o wybodaeth.
Yn 2002-23, ail-frandiwyd yr hwb fel Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (arferai gael ei adnabod fel Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant), sef rhan o Raglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau Llywodraeth Cymru.
Y flwyddyn mewn ffigyrau

Canfod beth sy’n gweithio
Gwerthuso syniadau arloesol
Bu i ni ddatblygu dull o gynnal gwerthusiad cyflym o syniadau arloesol. Er mwyn treialu’r dull, edrychom ar y prosiect Catalyddion Cymunedol sy’n ymwneud â modelau meicro ofal a dyfeisiau RITA i gefnogi gweithgareddau therapi hel atgofion, adsefydlu a rhyngweithiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Edrychwn ymlaen at gael rhannu effeithiau cadarnhaol y prosiectau hyn yn ystod y flwyddyn nesaf.
Cefnogi gwerthusiad y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Er mwyn helpu canfod arloesedd gyda’r potensial i gynyddu a lledaenu, mae’r hwb CARh wedi bod yn cefnogi gwerthusiad o raglen gwerth £44 miliwn Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Gogledd Cymru. Yn y flwyddyn gyntaf hon, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar sefydlu systemau i fesur y gwahaniaeth y mae prosiectau yn ei wneud i helpu canfod beth sy’n gweithio. Rydym yn defnyddio cymysgedd o gasglu niferoedd a chasglu straeon i wneud yn siŵr nad ydym yn methu unrhyw newidiadau pwysig am eu bod yn anodd eu cyfrif. Erbyn diwedd y flwyddyn, roeddem wedi dadansoddi 60 o astudiaethau achos i gael cipolwg ar y canlyniadau lles a gyflawnwyd ar gyfer pobl gan y rhaglen. Gweler Stori Graham isod am enghraifft.
Stori Graham
Mae Graham yn ei 50au ac yn dweud ei fod yn ddyn balch. Cafodd ei atgyfeirio at Lywiwr Cymunedol gan fentor cyflogaeth gan ei fod yn ddi-waith yn dilyn strôc ddwy flynedd ynghynt. Ers hynny, mae wedi cael trafferth gyda gofynion corfforol gwaith, sydd wedi achosi caledi ariannol difrifol iddo.
Pan siaradodd â’r llywiwr cymunedol gyntaf, dywedodd fod ei ferch yn galw heibio’r rhan fwyaf o ddiwrnodau i ddod â phryd bwyd poeth iddo. Cyfaddefodd nad oedd wedi gweld ei Feddyg Teulu ers peth amser a’i fod wedi’i ryddhau ei hun o’r ysbyty yn dilyn ei strôc, gan ei fod yn meddwl y gallai ymdopi yn annibynnol.
Ar ei ail ymweliad â’r llywiwr cymunedol, cyfaddefodd Graham nad oedd ei ferch yn galw draw mor aml ag y dywedodd ei bod yn y cyfarfod cyntaf. Aeth yn eithaf emosiynol wrth ddisgrifio teimlo’n hynod ynysig a llwglyd. Roedd ei holl arian yn mynd ar rent ac roedd yn cael trafferth paratoi prydau bwyd oherwydd ei wendid corfforol yn dilyn y strôc. Dywedodd fod ganddo amryw o gyflyrau iechyd a’i fod angen rheolydd calon, ond ei fod wedi methu’r asesiad cyn llawdriniaeth sawl gwaith. Roedd yn teimlo’n isel iawn.
Gweithiodd y llywiwr cymunedol gyda Graham, gan gynnig cymorth emosiynol, atgyfeiriadau a’i gyfeirio at sawl sefydliad, gan gynnwys:
- Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych – cyngor am fudd-daliadau
- Cynllun rhannu bwyd lleol
- Grwpiau cymdeithasol
- Y Gymdeithas Strôc
- Meddygfa Deulu
- Ymarferydd Gofal Cymdeithasol
Beth newidiodd?
Cyn cyfarfod y llywiwr cymunedol, roedd Graham yn disgrifio ei deimladau o gywilydd am nad oedd yn gallu gweithio na’i gynnal ei hun yn ariannol mwyach. Roedd ei iechyd corfforol wedi effeithio ar ei iechyd a’i les meddyliol. Dywedodd ei fod yn teimlo’n ynysig ac yn cael trafferth derbyn ei sefyllfa.
Pan ddechreuodd drafod a myfyrio ar bethau a derbyn cymorth gan y Llywiwr Cymunedol, bu iddo fagu hyder. Arweiniodd hyn at:
- Fynychu grwpiau cymdeithasol a theimlo’n llai ynysig
- Cynnydd yn ei bwysau a’i iechyd, a arweiniodd at i Graham basio’r asesiad cyn llawdriniaeth i gael gosod rheolydd calon.
- Mwy o fudd-daliadau a gwell sefyllfa ariannol.
Disgrifiodd Graham sut yr oedd y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth a gafodd wedi gwella ei hwyliau a’i iechyd. Ar ôl ei lawdriniaeth, cyrhaeddodd adref i weld llythyr yn disgwyl amdano yn dweud bod ei gais am fudd-dal wedi cael ei gymeradwyo, ac fe gafodd ôl-daliad. Galluogodd hyn iddo dalu ei ddyledion a ‘chychwyn o’r newydd’. Dywedodd fod cerdded i mewn i’r llyfrgell y diwrnod hwnnw wedi achub ei fywyd.
Chwiliadau llenyddiaeth
Mae ein llyfrgellydd arbenigol yn cynnal chwiliadau i ganfod pa waith ymchwil sydd eisoes wedi’i gyflawni ar y pwnc, neu enghreifftiau o arfer gorau. Yn ystod y flwyddyn, bu i ni gyflawni 29 o chwiliadau llenyddiaeth, gan gynnwys cyllidebau cyfun; adroddiadau’r arolygaeth gofal; ymgysylltiad strategol gydag anghenion plant a gofalwyr ifanc; cynnwys plant yn y broses o wneud penderfyniadau; gofal brys i unigolion sy’n byw gyda dementia; ymgysylltu â grwpiau diamddiffyn; ymyriadau seicolegol ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu; model cymdeithasol ac anableddau dysgu; anghenion a pholisïau gofalwyr ifanc; ceiswyr lloches ifanc; fframweithiau canlyniadau plant a theuluoedd; strategaethau cyfathrebu ar gyfer plant ac ymgysylltu a phlant; y tirlun polisïau ar gyfer plant ag anabledd neu salwch; anghenion/cefnogaeth i geiswyr lloches ifanc; cynhwysiant digidol; gofalwyr ifanc a thwymyn y chwarennau; a chyd-gynhyrchu, gan gynnwys newid systemau, newidiadau digidol, pobl hŷn ag anableddau dysgu.
Rydym wedi dechrau cyhoeddi ein chwiliadau fel negeseuon blog er mwyn ei gwneud yn haws i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc gael gafael arnynt. Dyma’r diweddaraf:
- cynhwysiant digidol
- gofalwyr ifanc sy’n gofalu am oedolion â phroblemau iechyd meddwl
- plant nad ydyn nhw’n mynd i’r ysgol
Os ydych chi’n gweithio gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Ngogledd Cymru, ac yr hoffech chi wneud cais am chwiliad, cysylltwch â Beccy Roylance.
Rhannu gwybodaeth am anghenion iechyd a gofal
Ar ôl cwblhau’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ym mis Mawrth 2022, aethom ati i rannu’r negeseuon allweddol gyda’r bobl hynny sy’n gwneud y penderfyniadau yng Ngogledd Cymru, er mwyn helpu gosod blaenoriaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth ar gyfer gwaith rhanbarthol.
Bu i ni gyflwyno amrediad o adroddiadau data pwrpasol i’n partneriaid ar bynciau fel anghenion pobl hŷn, awtistiaeth ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Rydym wedi cynhyrchu proffiliau ystadegol ar gyfer gogledd Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr amgylchedd cymdeithasol a ffisegol ehangach all effeithio ar iechyd a lles yn ardaloedd y cyngor lleol, ardaloedd y bwrdd iechyd ac ardaloedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn adolygu pynciau fel rhan o’n gwaith ffocws ar blant a phobl ifanc
Bu i ni hefyd ddarparu data a thystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad rhanbarthol ar Sefydlogrwydd y Farchnad, a oedd yn edrych ar y gofal a’r cymorth sydd ar gael i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.
Yn ystod 2022-23, dechreuwyd rhyddhau gwybodaeth o Gyfrifiad 2021. I helpu ein partneriaid gynllunio a chynnal gwasanaethau iechyd a gofal, rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau am y canlyniadau cychwynnol ar gyfer gogledd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys adroddiadau am y canlyniadau cychwynnol, demograffeg a mudo, cyn-filwyr, grwpiau ethnig, crefydd, iaith, addysg, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
Ewch i weld y tudalennau ystadegau ac ymchwil ar wefan y Gydweithredfa Ranbarthol.
Manylion gogledd Cymru: Canlyniadau Cyfrifiad 2021
Mae strwythur poblogaeth gogledd Cymru yn sylweddol hŷn na’r cyfartaledd cenedlaethol, gyda’r oedran canolrifol yn 46 yn 2021 o’i gymharu â 42 yng Nghymru a 40 yn Lloegr. Mae oedran canolrifol gogledd Cymru wedi cynyddu o 43 yn 2011. Gan Fwrdeistref Sirol Conwy y mae’r oedran canolrifol hynaf (49), a gan Wrecsam mae’r ieuengaf (42).
Mae yna dros 81,650 o aelwydydd pensiynwyr yn unig yng ngogledd Cymru, sef tua 27% o’r holl aelwydydd, sy’n uchel o’i gymharu â’r ffigurau cenedlaethol (25% yng Nghymru a 22% yn Lloegr). Pensiynwyr yn byw ar eu pennau eu hunain yw mwyafrif yr aelwydydd hyn (16% neu 47,700 o aelwydydd). Mae’r cyfraddau yn arbennig o uchel yng Nghonwy (31% o’r holl aelwydydd). Mae’r niferoedd a’r cyfraddau wedi cynyddu ers 2011, er gwaethaf y newid yn y diffiniad o bensiynwr i gyd-fynd â’r newidiadau i oedran ymddeol y wladwriaeth.
Mae tua 66,650 o bobl yn darparu gofal di-dâl yng ngogledd Cymru, sef tua 10% o’r boblogaeth. Mae hyn yn debyg i ffigwr Cymru gyfan, ond ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru a Lloegr. Ar y cyfan, mae hyn yn rhywfaint o ostyngiad ers 2011. Fodd bynnag, mae nifer a chyfran y bobl sy’n darparu 20 awr neu fwy o ofal yr wythnos wedi cynyddu (i fyny o 32,750 yn 2011 i 36,600 yn 2021). Gan Sir Ddinbych y mae’r gyfran uchaf o ofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru.
Dengys data Cyfrifiad 2021 fod 21% o drigolion gogledd Cymru yn eu hystyried eu hunain yn anabl (yn ôl diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb). Mae hyn yn uchel o’i gymharu â Chymru a Lloegr (18%) ond ychydig yn is na chyfartaledd Cymru (22%). Mae’r cyfraddau uchaf i’w gweld yn Sir Ddinbych (23.3%) a Chonwy (22.6%), efallai oherwydd strwythur oedran hŷn y boblogaeth yn yr ardaloedd hyn. Dywedodd 6.2% o drigolion gogledd Cymru eu bod mewn iechyd gwael o’i gymharu â 7.6% yng Nghymru a 5.6% yng Nghymru a Lloegr ar y cyd.
Er bod gogledd Cymru’n cynnwys y ddau awdurdod lleol gyda’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg – mae 64% o boblogaeth Gwynedd a 56% o boblogaeth Ynys Môn sy’n 3 oed neu’n hŷn yn gallu siarad Cymraeg – mae hefyd yn cynnwys Sir y Fflint, lle mae’r ffigwr yn is na 12%. Ar gyfer gogledd Cymru gyfan, mae’r gyfran o siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth wedi gostwng o 31% yn 2011 i 29% yn 2021 (18% yng Nghymru yn 2021).
Mae poblogaeth gogledd Cymru yn llawer llai amrywiol o ran ethnigrwydd na Chymru a Lloegr ar y cyd. Ychydig o newid sydd wedi bod yn y ddegawd ddiwethaf yng nghyfrannau cyffredinol pob grŵp ethnig lefel uchel. Roedd 97% o’r boblogaeth gyfan yn eu hystyried eu hunain yn “Wyn” (94% yng Nghymru ac 82% yng Nghymru a Lloegr), gyda’r gyfran uchaf yn Ynys Môn (98%) a’r isaf yn Wrecsam (96%).
Mae poblogaeth gogledd Cymru hefyd yn llai amrywiol o ran crefydd na’r cyfartaleddau cenedlaethol. Roedd cyfanswm o 12,350 o bobl, neu 1.8% o’r boblogaeth, yn dilyn crefydd ar wahân i Gristnogaeth. Mae hyn yn cymharu â 3.6% yng Nghymru a 10.6% yng Nghymru a Lloegr ar y cyd. Roedd ychydig llai na hanner y boblogaeth (49.8%) yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion (i lawr o 64% yn 2011) a dywedodd 42% nad oedden nhw’n dilyn unrhyw grefydd (i fyny o 27%).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe Cyfrifiad 2021.
Arloesi: defnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau
Dechreuodd Is-grŵp Plant newydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyda her. Mae’r grŵp yn gyfrifol am faterion sy’n wynebu plant a phobl ifanc ar draws yr ystod oedran, o fabanod i oedolion ifanc. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys iechyd meddwl plant, plant anabl, pobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol ac atal trais yn erbyn plant. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o blith gofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a’r heddlu.
Gyda phortffolio mor amrywiol o gyfrifoldebau, roedd angen iddynt ddod o hyd i ffordd o ganolbwyntio ar rai o’r meysydd blaenoriaeth, dysgu o brofiadau a safbwyntiau plant a rhannu syniadau da.
Cytunwyd y byddem yn clirio’r rhaglen bob dau neu dri chyfarfod er mwyn canolbwyntio’n fanwl ar un o’r blaenoriaethau. Ar gyfer pob blaenoriaeth, casglodd hwb CARh lawer o wybodaeth, gan gynnwys ystadegau a data, adborth gan blant a phobl ifanc ac enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio’n dda mewn meysydd eraill.
Er mwyn hwyluso’r cyfarfod cyntaf, bu i ni ofyn i Nick Andrews o’r prosiect Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) am gymorth. Cyflwynodd Nick ddull o’r enw Cymuned Ymholi. Mae’n ddull lle mae grŵp o bobl yn dod ynghyd i fyfyrio ar dystiolaeth a chynhyrchu cwestiynau gyda’i gilydd am yr hyn y maent wedi’i ddysgu, ac wedyn yn ei drafod fel grŵp. Dechreuom gyda chyflwyniad am y dystiolaeth yr oeddem wedi ei chanfod, fel arfer ar ffurf fideos a oedd yn adlewyrchu’r prif negeseuon.
Roedd y dull yn ffordd wych o gael pawb i siarad a rhannu syniadau am sut y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn helpu plant a phobl ifanc ledled y rhanbarth.
Mwy o wybodaeth am ein ffocws ar blant a phobl ifanc.
Arloesi: Digidol, data a thechnoleg
Er mwyn helpu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gael gwell trosolwg ar arloesedd a datblygiadau digidol ar draws y rhanbarth, aethom ati i lunio rhestr o brosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hon wedi llywio’r gweithdai y gwnaethom eu hwyluso gyda’r bwrdd newydd, a fydd yn cynnwys edrych ar gynhwysiant ac arloesedd digidol a chael yr hanfodion yn gywir er mwyn rhoi mynediad diogel a di-dor i’r ymarferwyr at systemau a gwybodaeth yn ôl yr angen.

Cyfathrebu ac ymgysylltu
Yn 2022-23 gwnaethom barhau i gwrdd â llawer o bobl a chreu cysylltiadau er mwyn helpu rhannu syniadau newydd ac arferion da ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Roedd hyn yn cynnwys cyfle i gyflwyno ein gwaith yn niwrnod rhwydweithio cenedlaethol hwb CARh, y Gynhadledd DEEP a siarad gyda myfyrwyr ar gwrs Polisi Gofal Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Gwnaethom barhau i gryfhau’n cysylltiadau â Thîm Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), gydag aelod o hwb CARh yn treulio diwrnod yr wythnos gyda’r tîm yn helpu gyda phrosiectau arloesi.
Rhwydwaith ymgysylltu
Buom yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i lansio cyfarfod rhwydwaith ymgysylltu rhanbarthol. Mae’r rhwydwaith yn dod â chydweithwyr o’r meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a sectorau eraill ynghyd i ddysgu gan y naill a’r llall a chydlynu’r gwaith a wnawn yn well. Mae’r cyfeiriadur ymgysylltu a sefydlom y llynedd yn helpu’r grŵp i rannu’r gwersi a ddysgwyd o weithgareddau ymgysylltu.
Rhwydwaith arloesi gogledd Cymru
Rydym yn aelodau sefydlu Rhwydwaith Arloesi newydd yng ngogledd Cymru, sy’n dod â hwb CARh, Tîm Ymchwil ac Arloesi BIPBC, Agor IP, M-Sparc a’r Ganolfan Gwyddorau Bywyd ynghyd.
Gwefan
Gwnaethom barhau i ddatblygu ein tudalennau gwe gan gynnwys adran ystadegau ac ymchwil newydd, casglu syniadau da a chronfa ddata ymgysylltu. Ar ôl y dudalen hafan, tudalen Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru yw’r un yr ymwelir â hi amlaf ar wefan y Gydweithredfa Ranbarthol, gyda 2,200 o bobl wedi ymweld â’r dudalen yn 2022-23. Mae tudalen hafan Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol hefyd ymysg y 5 tudalen yr ymwelir â hwy amlaf ar y safle, gyda 680 o bobl wedi ymweld â’r dudalen, sef cynnydd o 43% ar y flwyddyn flaenorol.
Newyddlenni
Bu i ni rannu 9 newyddlen yn ystod y flwyddyn, yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant, a chynyddodd nifer y tanysgrifwyr i 170.
Y diweddaraf am Twitter
Dros y flwyddyn, mae dilynwyr ein cyfrifon Twitter wedi cynyddu draean i 400. Defnyddiwyd y cyfrifon Twitter i rannu syniadau da, prosiectau sy’n mynd rhagddynt, arloesedd ar draws y DU, digwyddiadau perthnasol a negeseuon trydar byw o gynadleddau. Defnyddiwyd nhw hefyd i hybu’r cymorth y gall ein tîm a sefydliadau eraill ei gynnig i helpu gyda phrosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru.
Adborth gan bartneriaid
Yn ddiweddar, aethom ati i gasglu gwybodaeth gan ein partneriaid am effaith ein gwaith, yn ogystal ag unrhyw ganmoliaeth a gafwyd. Byddwn yn aml yn cynnig cymorth ar gamau cynnar prosiect, felly byddwn yn ail-gysylltu ychydig fisoedd yn ddiweddarach i gael gwybod pa wahaniaeth a wnaethom ni a sut y gallwn wella. Roedd yr ymatebion cychwynnol i’r arolwg yn dweud ein bod wedi helpu arbed amser ac arian, gwella ansawdd, lleihau dyblygu gwaith, nodi/ysgogi arloesedd a gwella cydlyniad.
“Dyma’n union oedd yn mynd trwy ein meddyliau ni, mae’n ddefnyddiol iawn ac yn gryno. Mae cynnwys y data hefyd o fudd mawr.”
“Dim ond gair o ddiolch am y wybodaeth a anfonwyd heddiw – mae eisoes wedi bod yn help mawr gan fod yr adroddiad gan Warrington yn enghraifft wych o’r math o weithgaredd ac adborth y gallem ni ei wneud yn gyflym, ac mae gwefan Swydd Rydychen yn wych hefyd. Mor glir a hawdd ei defnyddio. Mae’n ddefnyddiol iawn, diolch yn fawr iawn i chi.”
Beth nesaf
Yn 2023-24 byddwn yn:
- Datblygu ar ein peilot ffocws ar blant a phobl ifanc llwyddiannus drwy gefnogi cynlluniau gweithredu ar y pynciau sydd wedi’u cwblhau, a chanfod blaenoriaethau pellach allai elwa ar y dull hwn. Bydd y nesaf a gynllunnir yn edrych ar y blynyddoedd cynnar.
- Cefnogi Bwrdd Digidol, Data a Thechnoleg Gogledd Cymru, gan gynnwys canfod heriau, mapio prosiectau digidol, data a thechnoleg ar draws y rhanbarth a chanfod prosiectau y gellir eu cynyddu a’u lledaenu.
- Rhannu canfyddiadau’r gwerthusiadau yr ydym wedi’u cwblhau a defnyddio’r dull yr ydym wedi’i ddatblygu i asesu prosiectau’n gyflym, er mwyn gallu hyrwyddo modelau llwyddiannus. Archwilio ffyrdd o ddefnyddio casglu straeon a dysgu o’r pethau sy’n gweithio, a’u rhannu, i wella iechyd a gofal cymdeithasol.
- Parhau i alluogi arloesi a hyrwyddo’r hyn sy’n gweithio, gan gynnwys cymryd rhan yn Rhwydwaith Arloesi Gogledd Cymru ac ychwanegu at ein casgliad ar-lein o syniadau da.
- Darparu data, dealltwriaeth a gwybodaeth i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac Is-grŵp Plant y BPRh, gan gynnwys gwella systemau, dadansoddiad o Gyfrifiad 2021 ac adroddiadau pwnc rheolaidd.
- Gwella mynediad at dystiolaeth drwy hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan y Llyfrgellydd Arbenigol i gael gafael ar dystiolaeth am beth sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gweithio’n agos gyda rhaglenni Gofal Cymdeithasol Cymru a Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth o fewn gofal cymdeithasol.
Lawrlwytho’r fersiwn PDF
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01824 712432
E-bost:nwrich@sirddinbych.gov.uk