• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Sut rydym yn rhannu syniadau gwych

Sut rydym yn rhannu syniadau gwych

Yma yn yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol mae gennym genhadaeth i ddarganfod pa bethau gwych sydd yn digwydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru ac i rannu hynny ar draws y rhanbarth a’r tu hwnt. Dyma’n proses.

Casglu syniadau.

Os ydych yn gweithio ar rywbeth rydych yn falch iawn ohono, gadewch i ni wybod amdano os gwelwch yn dda! Rydym yn deall fod pawb yn brysur felly os nad oes gennych amser i ysgrifennu amdano, anfonwch bethau rydych eisoes wedi eu hysgrifennu atom, er enghraifft adroddiadau blynyddol, fel y gallwn ei grynhoi ar eich rhan. Neu os yw’n haws, rhowch ganiad i ni ac fe wnawn ni ysgrifennu blog yn seiliedig ar beth byddwch chi’n ei ddweud. Fe wnawn ni bob amser ei wirio gyda chi cyn i ni ei gyhoeddi.

Os ydych yn ysgrifennu blog, rydym yn argymell y strwythur syml ganlynol:

  • Her: Disgrifio’r her neu’r broblem oeddech chi’n ei wynebu
  • Ymyrraeth: Beth wnaethoch chi i ddatrys yr her neu’r broblem?
  • Canlyniad: Beth oedd y canlyniad? Os yw’n rhy gynnar i ddweud beth fydd yr effaith hirdymor, gallech gynnwys pa newidiadau rydych chi’n gobeithio eu gweld.

Rydym hefyd yn brysur yn chwilio ac yn gwrando am syniadau da lle nad yw pobl eto wedi sylweddoli eu bod mor arloesol ag ydynt. Efallai ei fod yn rhywbeth rydych yn ei wneud gan ei fod yn gweithio ond byddai o wir gymorth i bobl eraill glywed amdano.

Storio a threfnu

Rydym yn storio ac yn trefnu syniadau ar ein blog. Mae hyn yn golygu y gallwn gategoreiddio a threfnu ein casgliad o syniadau da wrth iddo dyfu, ac y gall pobl chwilio am yr hyn sydd ei angen arnynt. Gall y blog hefyd storio fideos a phodlediadau a ffyrdd gwahanol o gyflwyno gwybodaeth.

Rhannu a lledaenu 

Mae rhai o’r ffyrdd rydym yn hyrwyddo yn cynnwys:

  • Rhannu drwy’n rhestr bostio, cyfrif Twitter a’n blog  Gweler ein casgliad o syniadau da.
  • Darparu astudiaethau achos ac enghreifftiau ymysg pobl sy’n chwilio am syniadau da.
  • Trefnu digwyddiadau lle gall pobl rannu arfer orau.

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

YN EISIAU: CYNRYCHIOLYDD TRYDYDD SECTOR CENEDLAETHOL

Cynhwysiant Digidol

Trigolion DINBYCH – rydym eich angen chi!

  • Ffocws ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Rhagflas i Ofal
  • Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

@CoproNetWales Member logo

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital