Lawrlwythiadau
Mae’r pecyn wedi cael ei lunio er mwyn hwyluso trafodaethau gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru ynglŷn â chydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Hydref 2022.
Gwybodaeth allweddol o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
- Mae yna fwy o berygl i ofalwyr ifanc ddioddef problemau iechyd meddwl a lles. Dywedodd 40% o ofalwyr ifanc a 59% o ofalwyr sy’n oedolion ifanc bod eu hiechyd meddwl yn waeth ers y pandemig (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, 2020).
- Mae yna nifer o ffactorau all olygu bod materion diogelu’n codi mewn perthynas â gofalwyr ifanc. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn anodd eu hadnabod ac mae hyn yn golygu mai dim ond os bydd yna argyfwng y daw eu hanghenion i’r amlwg. Gall faint o gyfrifoldebau gofal sydd gan y plentyn a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu datblygiad fod yn bryder diogelu ynddo’i hun. Dyma pam ei bod yn hanfodol bod y gwasanaethau’n canfod eu hanghenion yn gyflym ac yn cynnal asesiad llawn ohonynt, er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir yn ei le ar yr adeg gywir.
- Mae angen mwy o gymorth eirioli ar ofalwyr ifanc er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed.
- Ym mis Mawrth 2021, daeth pob un o’r 6 cyngor, BIPBC a’r darparwyr a gomisiynwyd ar gyfer gofalwyr ifanc at ei gilydd i lansio Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru fel cynllun ar y cyd, i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn yr un cymorth gan weithwyr proffesiynol ledled Gogledd Cymru. Fodd bynnag, mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth a mynd ati i adnabod mwy o ofalwyr ifanc o hyd.
- Mae angen mwy o ofal seibiant ar ofalwyr ifanc. Adlewyrchir ac ategir y pwyntiau hyn gan y chwiliad llenyddiaeth a ddarperir isod.
Lawrlwythiadau
Tudalennau cysylltiedig
Post blog am y sesiwn ‘canolbwyntio ar…’
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432