• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Ystadegau ac ymchwil / Y Cyfrifiad / Cyfrifiad 2021: addysg

Cyfrifiad 2021: addysg

Lawrlwythwch crynodeb pwnc Cyfrifiad 2021 crynodeb pwnc: addysg

Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data crynodeb pynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer addysg. Cyhoeddwyd y data ar 10 Ionawr 2023 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.

Mae’n cynnwys amcangyfrifon o ganran y boblogaeth 16 oed ac yn hŷn sydd wedi cael cymwysterau academaidd, galwedigaethol, neu broffesiynol, yn ogystal a nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2011 a 2021 gwelodd pob ardal awdurdod unedol yng Ngogledd Cymru welliant sylweddol mewn lefelau cymwysterau, a gostyngiad cyfatebol yn nifer a chanran y bobl heb unrhyw gymwysterau. Caiff hyn ei adlewyrchu mewn ffynonellau data eraill sy’n monitro lefelau cymwysterau (er enghraifft yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth).
  • Ar draws Gogledd Cymru gyfan roedd cyfran y bobl a nododd eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch ar ddiwrnod cyfrifiad 2021 (er enghraifft Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig) yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Ar gyfer Gogledd Cymru roedd hyn yn 31.1% neu 176,740 o bobl, tra bod Cymru yn 31.5% a Chymru a Lloegr yn 33.8%. Roedd y gyfran uchaf yng Ngwynedd ar 34.5% ac isaf yn Wrecsam ar 29.1%.
  • Eglurir rhan o’r gwahaniaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru gan y gyfran o brentisiaethau sydd â’r lefel uchaf o gymwysterau yng Ngogledd Cymru. Roedd hyn yn uwch na’r cyfartaleddau cenedlaethol, sef 6.3% neu 35,791 o bobl o gymharu â 5.6% ledled Cymru a 5.3% ar gyfer Cymru a Lloegr.
  • Roedd gan Sir y Fflint ac Ynys Môn y gyfran fwyaf o bobl yng Nghymru a roddodd eu cymhwyster uchaf fel prentisiaeth (6.6%).
  • Nid oedd gan 18.7% (106,341) o breswylwyr arferol 16 oed neu hŷn unrhyw gymwysterau. Roedd hyn yn is na chyfartaledd Cymru. (Cymru = 19.9% a Chymru a Lloegr = 18.2%). Roedd y gyfran uchaf yn Wrecsam ar 20.9% ac isaf yng Ngwynedd ar 16.3%.
  • Yn 2021, roedd 121,157 o blant ysgol a myfyrwyr mewn addysg amser llawn (5 oed a throsodd) yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 18.5% o’r preswylwyr arferol 5 oed a throsodd. Y gyfran oedd 19.9% ar gyfer Cymru a 20.4% ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
  • Ledled Gogledd Cymru roedd cyfran y plant ysgol a’r myfyrwyr uchaf yng Ngwynedd (21.4%) ac isaf ym Mwrdeistref Sirol Conwy (16.6%). Effeithir ar gyfran y plant ysgol a’r myfyrwyr yn y boblogaeth gan lleoliad sefydliadau addysg uwch a strwythur oedran cyffredinol yr ardal (mae strwythur oedran hŷn/llai o bobl ifanc yn y boblogaeth yn debygol o olygu llai o fyfyrwyr).
Lawrlwythwch crynodeb pwnc Cyfrifiad 2021 crynodeb pwnc: addysg

Gweler hefyd

  • Cyfrifiad 2021: canlyniadau cyntaf
  • Cyfrifiad 2021: demograffeg a mudo
  • Cyfrifiad 2021: cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
  • Cyfrifiad 2021: grŵp ethnig
  • Cyfrifiad 2021: crefydd
  • Cyfrifiad 2021: prif iaith
  • Cyfrifiad 2021: cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd

Mae’r ONS hefyd wedi cyhoeddi Addysg: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.

Cysylltwch â ni

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru

Email: hcargc@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 712432

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Cronfa Seibiant Byr Amser

Tai – Problem Pawb … neb yn gyfrifol

  • Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol
  • Camu i’r Gwaith
  • Ffocws ar ofalwyr ifanc

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Co-production Network for Wales

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital