• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar
  • Skip to footer

North Wales Collaborative

North Wales Social Care and Well-being Improvement Collaborative

  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Blaenoriaethau
    • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
    • Cymryd rhan
    • Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
      • Anableddau dysgu
      • Iechyd meddwl
      • Plant a phobl ifanc
    • Gofalwyr
    • Dementia
    • Comisiynu
    • Gweithlu
    • Asesiad poblogaeth a’r cynllun rhanbarthol
    • Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol
  • Blog
  • Cymryd rhan
  • Cysylltu
Rydych chi yma: Hafan / Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol / Ystadegau ac ymchwil / Y Cyfrifiad / Cyfrifiad 2021: grŵp ethnig

Cyfrifiad 2021: grŵp ethnig

Lawrlwythwch crynodeb pwnc Cyfrifiad 2021: grŵp ethnig

Mae’r bwletin hwn yn edrych ar y data cryno ar bynciau o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, a chrefydd unigolion ac aelwydydd a gyhoeddwyd ar 29 Tachwedd 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Mae’n darparu amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd heb eu talgrynnu ar lefel Gogledd Cymru ac awdurdod unedol.

Ers 1991, mae cyfrifiad Cymru a Lloegr wedi cynnwys cwestiwn am grŵp ethnig.

Prif bwyntiau

  • Mae poblogaeth Gogledd Cymru yn llawer llai amrywiol o ran ethnigrwydd nag ar draws Cymru a Lloegr yn gyffredinol. Ni fu llawer o newid yn y degawd diwethaf yn y cyfrannau cyffredinol o fewn pob grŵp ethnig lefel uchel.
  • Nododd 96.8% o’r boblogaeth (665,147 o bobl) fel “Gwyn” yn y Cyfrifiad 2021. Mae’r gyfran hon yn uchel o gymharu â ffigurau cenedlaethol (Cymru a Lloegr = 81.7% a Chymru = 93.8%). Roedd y gyfran uchaf yn Ynys Môn ar 98.1% ac isaf yn Wrecsam ar 96.0%.
  • O fewn y categori “Gwyn”, dewisodd 93.3% o boblogaeth gyfan “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig”. (Cymru yn 2021 = 90.6% a Chymru a Lloegr = 74.4%). Roedd y gyfran uchaf yn Ynys Môn ar 96.3% ac isaf yn Wrecsam ar 90.7%.
  • Er bod cyfran gyffredinol y bobl yng Ngogledd Cymru a nododd eu bod yn Wyn wedi gostwng ychydig rhwng 2011 (97.5%) a 2021 (96.8%) cynyddodd cyfran y bobl a uniaethodd â’r is-gategori “Unrhyw gefndir Gwyn arall” o 1.9% yn 2011 i 2.9% neu 19,802 o bobl yn 2021. Mae hyn yn debygol o fod yn adlewyrchiad o’r cynnydd yn y degawd diwethaf yn nifer y bobl yng Ngogledd Cymru a aned yn y gwledydd a ymunodd â’r UE rhwng Ebrill 2001 a Mawrth 2011 (yn enwedig Gwlad Pwyl a Rwmania). Gwnaethon ni adrodd ar hyn yn ein hadroddiad pwnc Cyfrifiad 2021 ar ddemograffeg a mudo.
  • Yng Ngogledd Cymru, roedd y cyfrannau uchaf o bobl o “Unrhyw gefndir Gwyn arall” yn 2021 yn Wrecsam (4.8%) a Sir y Fflint (3.9%).
  • Ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd yr ail gategori grŵp ethnig lefel uchel mwyaf yn 2021 (9,400 o bobl, 1.4% o’r holl drigolion arferol). Hwn hefyd oedd yr ail gategori lefel uchel mwyaf cyffredin ar gyfer holl ardaloedd awdurdodau unedol Gogledd Cymru ac eithrio Ynys Môn, lle’r oedd yn “Grwpiau ethnig cymysg neu amlethnig”. Mae 1.4% o boblogaeth Gogledd Cymru yn y grŵp hwn yn cymharu â 2.9% ar gyfer Cymru a 9.3% ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol.
  • Er bod nifer a chyfran y bobl ym mhob categori grŵp ethnig lefel uchel ac eithrio “Gwyn” wedi gweld cynnydd yng Ngogledd Cymru rhwng 2011 a 2021, roedd y cynnydd yn fach iawn, (pob un rhwng 0.1% a 0.3%). Gwelodd rhai grwpiau ostyngiadau bach ar gyfer rhai ardaloedd awdurdodau unedol, ond roedd y gyfradd newid ar y lefel fwy lleol hon hefyd yn isel iawn, yn amrywio o isafswm -0.2% i uchafswm +0.4% dros y degawd.
Lawrlwythwch crynodeb pwnc Cyfrifiad 2021: grŵp ethnig

Gweler hefyd

  • Cyfrifiad 2021: canlyniadau cyntaf
  • Cyfrifiad 2021: demograffeg a mudo
  • Cyfrifiad 2021: cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
  • Cyfrifiad 2021: crefydd
  • Cyfrifiad 2021: prif iaith
  • Cyfrifiad 2021: addysg
  • Cyfrifiad 2021: cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd

Mae’r ONS hefyd wedi cyhoeddi Grŵp ethnig: Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr sydd yn cynnwys data hyd at ardal gynnyrch.

Cysylltwch â ni

Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru

Email: hcargc@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 712432

Primary Sidebar

Chwilio

Negeseuon Diweddar

Gofalwyr – Rydym eisiau clywed gennych!

Cronfa Seibiant Byr Amser

Tai – Problem Pawb … neb yn gyfrifol

  • Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol
  • Camu i’r Gwaith
  • Ffocws ar ofalwyr ifanc

Footer

Partneriaid

Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Gwynedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion Cyswyllt

Cysylltwch â ni


Datganiad hygyrchedd

Cyfrif

Nid ydych wedi mewngofnodi.
Mewngofnodi

Chwilio

Co-production Network for Wales

Copyright © 2023 NWSCWIC · Site by DarkStarDigital