Oeddech chi’n gwybod bod dros 10,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru?
Beth yw dementia? Mae’r term dementia yn disgrifio symptomau a allai gynnwys colli cof ac anawsterau gyda meddwl, datrys problemau neu iaith. Mae yna lawer o wahanol fathau o ddementia. Y mwyaf cyffredin yw clefyd Alzheimer ond mae yna lawer o achosion eraill hefyd.
Ein nod ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yw gwella iechyd a lles pawb ledled Gogledd Cymru. Rydym am sicrhau bod gan bawb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae gan ein Strategaeth Dementia saith blaenoriaeth i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia sef;
- I leihau’r risg o ddementia a’i oedi
- I godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
- I bobl gydnabod a nodi dementia yn well
- I wella asesiad a diagnosis
- I gefnogi pobl â dementia i fyw cystal â phosib
- I gynyddu’r gefnogaeth
- I gefnogi gofalwyr
Gall dementia effeithio ar unrhyw un, o unrhyw gefndir neu ddiwylliant, ond mae’n effeithio ar bobl hŷn yn bennaf.
Mae Wythnos Gweithredu Dementia, a fydd yn digwydd ar 17-23 Mai, yn ddigwyddiad cenedlaethol sy’n gweld pobl Gogledd Cymru a’r DU yn gweithredu i wella bywydau pobl yr effeithir arnynt gan ddementia.
Yn ystod yr wythnos trwy ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol; byddwn yn rhannu straeon gan bobl sy’n byw gyda Dementia a sut mae gofalwyr yn cael eu heffeithio.
Bydd rhannu gwybodaeth yn eich cynghori am y gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal ynghyd â llawer o uchafbwyntiau eraill.
Mae’r wythnos yn agored i bawb, o unigolion, gweithleoedd i gymunedau. O arddangos posteri i wisgo “Denim for Dementia” a dod yn “Ffrind Dementia”, mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan.
Gan edrych i’r dyfodol, bydd un o bob tri ohonom a anwyd yng Ngogledd Cymru heddiw yn mynd ymlaen i ddatblygu Dementia yn ystod ein hoes.
Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wneud Gogledd Cymru yn le “Dementia gyfeillgar” i fyw ynddo a dyna fwriad Wythnos Gweithredu Dementia.
- Am wybodaeth bellach:
- Luke Pickering-Jones, Rheolwr Prosiect Dementia
- E-bost: Luke.Pickering-Jones@sirddinbych.gov.uk
