Datrys heriau o ran recriwtio, cadw a hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd Gogledd Cymru.
Cefndir
Derbyniodd Tîm Cydweithio Gogledd Cymru gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect. Comisiynwyd Practice Solutions mewn partneriaeth ag Imogen Blood & Associates i gyflawni’r prosiect rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Goruchwyliwyd y prosiect gan Fwrdd Gweithlu Gogledd Cymru a chafodd ei adrodd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Y prif amcanion oedd deall a datblygu atebion amgen i heriau recriwtio a chadw yn well o fewn gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol y rhanbarth.
Sut y datblygwyd y model?
Yn y llifsiart ganlynol, gwelir y broses ar gyfer datblygu’r model dros gyfnod y prosiect.

Y Model – Busnes cyflogaeth nid-er-elw
Busnes cyflogaeth nid-er-elw a lywodraethir gan nifer o randdeiliaid, sy’n cyflenwi staff a gwasanaethau eraill er mwyn ychwanegu gwerth at y sector gofal cymdeithasol ac iechyd yng Ngogledd Cymru. Trwy wneud hynny, mae’n cynnig dwy elfen:
- Mwy o gysondeb, ansawdd, goruchwyliaeth a llywodraethiant na’r farchnad ddarniog o asiantaethau cyflenwi staff masnachol a welir ar hyn o bryd; a
Mae’n gweithio law yn llaw gyda mentrau sydd eisoes yn bodoli, er mwyn tyfu gweithlu’r rhanbarth. Mae’n gwneud hynny trwy gyfateb gweithwyr newydd sy’n dod i mewn i’r sector i ddarparwyr lleol, mewn ffordd sy’n cadw cymaint o weithwyr â phosibl, a chreu llwybrau dilyniant gyrfa i mewn i ofal ac iechyd.

Strwythur Ardal Leol
Thema a gododd dro ar ôl tro wrth ymgysylltu, a hynny trwy gydol y prosiect, oedd yr angen am fodel sy’n gallu bod yn hyblyg i anghenion ac asedau lleol, ac sy’n gallu helpu recriwtio a chadw staff yn yr ardal leol ar yr un pryd – gweithwyr sy’n deall y diwylliant ac yn siarad Cymraeg. Mae’r tîm lleol felly yn allweddol i’r model arfaethedig.
Strwythur arfaethedig y tîm lleol
Byddai’r tîm craidd yn staff cyflogedig parhaol sy’n darparu gwasanaeth ar draws ystod o leoliadau gofal a gofal iechyd yn yr ardal, gan godi cyfradd deg ond masnachol ar ei gwsmeriaid am y gwasanaeth hwn. Mae gwerth am arian yn uchel, gan eu bod yn weithwyr profiadol, sy’n meddu ar nifer o sgiliau, sy’n dod i adnabod sefydliadau yn yr ardal; ac yna maent mewn sefyllfa dda i gynorthwyo gyda pharu a chyflwyno newydd-ddyfodiaid i’r sector mewn swyddi gwag, trwy’r banc.

Mae staff y banc yn darparu gwasanaeth i gyflogwyr sector annibynnol a statudol, naill ai lle nad yw’r tîm craidd yn gallu a / neu at ddibenion profi cydnawsedd / cyflwyno staff newydd mewn lleoliadau gofal.
Camau nesaf:
- Bydd adroddiad ac Achos Busnes yn cael eu hanfon i Lywodraeth Cymru, yn amlinellu’r gwaith dan sylw a’r model arfaethedig.
- Yn lleol, bydd ymgysylltiad ag ystod o ddarparwyr i sefydlu hyfywedd y model sy’n ymwneud â’u gwasanaethau.
- Nodi ardaloedd i dreialu’r model gyda diddordeb wedi cael ei ddangos gan Wrecsam a Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:
Carol Dale, Rheolwr Prosiect y Gweithlu, Cydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru Carol.dale@denbighshire.gov.uk