Lead Organisation: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae rhaglen driniaeth gyflym a ddarperir gan staff y GIG yn cael effaith sy’n ‘newid bywyd’ ar bobl ddigartref yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n byw gyda firws hepatitis C.
Dywed y rhai sydd wedi elwa o raglen driniaeth newydd arloesol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei bod wedi eu helpu i adennill mynediad at eu plant, cofleidio aelodau’r teulu eto, ac ailymuno â byd gwaith.
Mae hepatitis C yn firws a gludir yn y gwaed, ac os na chaiff ei drin, gall achosi sirosis a chanser yr iau.Fodd bynnag, mae datblygiadau mewn meddygaeth wedi sicrhau y gellir ei drin yn llwyddiannus gyda chwrs tabledi 8 i 12 wythnos.
Mae’r firws yn effeithio’n anghymesur ar y gymuned ddigartref. Oherwydd eu bod yn aml yn ei chael hi’n anodd cyrchu triniaeth ac ymgysylltu â hynny, gall y rhai sy’n dal hepatitis C fod mewn perygl o gael cymhlethdodau tymor hir, gan gynnwys canser yr iau.
Yn benderfynol o newid hyn, mae staff o wasanaethau Fferyllfa, Pwynt Gofal, Lleihau Niwed Cam-drin Sylweddau a Hepatoleg BIPBC wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynnig triniaeth, sef y cyntaf o’i bath yng Nghymru.
Trwy fynd â’u gwasanaethau at bobl ddigartref, mae’r tîm wedi lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i wneud diagnosis a dechrau triniaeth o dros chwe mis i ddim ond pythefnos.
Mae profion cyflym, rheolaidd yn cael eu cynnig, gyda chanlyniadau ar gael mewn llai nag awr, diolch i’r defnydd o offer arbenigol, sy’n defnyddio technoleg newydd. Yna darperir triniaeth yn ddi-oed, a darperir cefnogaeth gorfforol a seicolegol ddwys drwyddi draw.
Yn ogystal â helpu pobl i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn, mae disgwyl i ymdrechion y tîm sicrhau arbedion sylweddol i’r GIG, gan fod cost darparu triniaeth gynnar yn sylweddol is na chost trin ei gymhlethdodau tymor hwy.
Enillodd y gwasanaeth Wobr Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru am ‘Wella canlyniadau iechyd cyhoeddus’ ac mae bellach wedi’i gyflwyno ledled Gogledd Cymru.
Rhagor o wybodaeth yma:
Prosiect arloesol Hepatitis C helpu rhagor o bobl sy’n agored i niwed i gael eu profi a’u trin