Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol i ddod â gofalu i’r agored – gan gydnabod y cyfraniad y mae gofalwyr yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled Gogledd Cymru a’r DU.
Pwy sy’n ofalwr di-dâl?
Gofalwr yw unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth ymdopi heb eu cefnogaeth. Gall gofalu am rywun gymryd ychydig oriau bob wythnos, neu gall gofalwr fod yn gofalu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae rhai gofalwyr yn byw gyda, neu’n agos at, y person y maent yn gofalu amdano, tra bod eraill yn darparu mwy o gymorth o bell. Mae rhai yn gofalu am fwy nag un person.
Mae’r cymorth a ddarperir gan ofalwyr di-dâl yn amrywiol a gallai gynnwys:
- Helpu rhywun i ymolchi a gwisgo ei hun a chyda gofal personol arall;
- Gwaith tŷ, siopa bwyd a chasglu a rhoi meddyginiaeth;
- Mynd â rhywun i’r ysbyty ac apwyntiadau meddyg teulu;
- Darparu cwmni a chefnogaeth emosiynol.
Mae 6.5 miliwn o bobl yn y DU yn ofalwyr. Maen nhw’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddynt dyfu’n hŷn. Mae gofalu yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd, o berthnasoedd ac iechyd i arian a gwaith. Wrth i ofalwyr barhau i wynebu amgylchiadau heriol eleni, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn eu cysylltu â’r cymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Mae gofalwyr ledled y wlad wedi wynebu heriau enfawr o ganlyniad i bandemig Covid. Mae llawer wedi gorfod darparu mwy o ofal tra’n delio â phwysau ariannol a lefelau uwch o ynysu.
Y llynedd, fe wnaethom godi proffil gofalwyr di-dâl gyda’n thema Gwneud Gofalu’n Weladwy a’i Werthfawrogi. Eleni rydym yn adeiladu ar y thema honno a byddwn yn canolbwyntio ar gydnabod gofalwyr yn ein cymunedau, gan eu gwerthfawrogi am y cyfraniad hanfodol y maent yn ei wneud bob dydd a dod o hyd i ffyrdd o helpu i’w cefnogi pan fo angen mwyaf.
Dyma pam mai ein thema ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2022 yw gwneud gofalu yn Weladwy, yn cael ei Werthfawrogi ac ei Gefnogi.
Mae gan bob un ohonom ni, ble bynnag rydyn ni’n byw, beth bynnag rydyn ni’n ei wneud, ran i’w chwarae.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod yn ofalwr di-dâl, mae cymorth ar gael yn rhwydd yma yng Ngogledd Cymru gan unigolion, grwpiau a sefydliadau i gyrraedd gofalwyr, ac nid yw llawer ohonynt yn gwybod bod cymorth ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
neu drwy eich Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.