Lansiwyd Is-grŵp Plant y Bartneriaeth Ranbarthol ym mis Mawrth 2022 i edrych yn benodol ar faterion sy’n effeithio ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac i’n cyfarfodydd wella’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu yn wirioneddol.
Rydym yn gyfrifol am ystod eang o faterion sy’n wynebu gwahanol grwpiau oedran, o fabanod i oedolion ifanc. Mae’n blaenoriaethau’n cynnwys iechyd meddwl plant, plant anabl, pobl ifanc sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol ac atal trais yn erbyn plant. I fynd i’r afael â’r rhain, gallwn dynnu ar ystod o brofiadau gan fod ein grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg a’r heddlu.
Mae gwaith traddodiadol grŵp fel hwn yn cynnwys sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen i wneud darnau o waith; derbyn adroddiadau cynnydd a diweddariadau; a chlywed cyflwyniadau am gyfreithiau, polisi neu wasanaethau newydd. Yn ogystal â hyn, roedd y grŵp eisiau ffordd i ganolbwyntio ar rai o’r meysydd blaenoriaeth, dysgu o brofiadau a safbwyntiau plant a rhannu syniadau da.
Cytunwyd y byddem yn clirio’r agenda bob dau neu dri chyfarfod er mwyn canolbwyntio’n fanwl ar un o’n blaenoriaethau. Y pwnc cyntaf oedd gofalwyr ifanc. Casglodd ein tîm lawer o wybodaeth gan gynnwys ystadegau a data, adborth gan ofalwyr ifanc ac enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio’n dda mewn meysydd eraill. Paratowyd pecyn o’r holl wybodaeth hyn ar gyfer y grŵp.
Er mwyn hwyluso’r cyfarfod, gwnaethom ofyn i Nick Andrews, o’r prosiect Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP – Developing Evidence Enriched Practice) am gymorth. Cyflwynodd Nick ddull o’r enw Cymuned Ymholi. Mae’n ddull lle mae grŵp o bobl yn dod at eu gilydd i fyfyrio ar dystiolaeth a chynhyrchu cwestiynau gyda’i gilydd am yr hyn y maent wedi’i ddysgu, ac wedyn yn ei drafod fel grŵp. Roedd y rhain yn gwestiynau cysyniadol, sy’n golygu cwestiynau a oedd yn :
- Gyffredin (perthnasol i bawb yn y grŵp)
- Ganolog (pwysig a gwerth ei drafod)
- Gysylltiedig (rhywbeth y gall pobl gysylltu eu profiad ag ef)
- Gystadleuol (bydd gan bobl safbwyntiau gwahanol)
Dechreuon ni gyda chyflwyniad am y dystiolaeth roedden ni wedi’i chanfod, a rannwyd mewn ffurf fideos a oedd yn adlewyrchu’r prif negeseuon.
Roedd y dull yn ffordd wych o gael pawb i siarad a rhannu syniadau am sut y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn cefnogi gofalwyr ifanc. Rydym yn edrych ymlaen at roi cynnig ar y dull hwn gyda’r blaenoriaethau eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffocws ar ofalwyr ifanc, gan gynnwys copi o’r pecyn i’w lawrlwytho, dolenni i’r fideos a chanlyniad y gymuned ymholi, gweler ein tudalen wê ffocws ar ofalwyr ifanc.
Y sesiynau ffocws nesaf fydd:
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches ym mis Rhagfyr 2022
- Anabledd a salwch ym mis Mawrth 2023
- Blynyddoedd cynnar Mai 2023
Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei rannu i lywio’r sesiynau hynny, cysylltwch â Hyb Cydlynu Arloesedd Rhanbarthol Gogledd Cymru nwrich@sirddinbych.gov.uk sy’n dwyn yr ymchwil gefndir ynghyd.