Contents
Uchafbwyntiau ar gyfer 2023-24
Casglu tystiolaeth a dod â phobl ynghyd i ddod o hyd i ddatrysiadau i broblemau cymhleth, gan gynnwys: Rhwydwaith Defnyddwyr RITA i drafod defnyddio technoleg hel atgofion ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia; ffyrdd o ddefnyddio technegau cyd-gynhyrchu ac adrodd straeon i wella gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth; a gwella cymorth i blant a phobl ifanc â chyflyrau niwroddatblygiadol.
Gwella mynediad at dystiolaeth drwy ddarparu mewnwelediad i ystadegau ac ymchwil ar gyfer sawl pwnc, yn amrywio o niwroamrywiaeth a dementia i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a wardiau rhithwir.
Dechrau’r gwaith ar gyfer y Bwrdd Digidol, Data a Thechnoleg o dan y themâu cael y pethau sylfaenol yn iawn, arloesi, cynhwysiant digidol a chofnodion iechyd a gofal integredig. Roedd hyn yn cynnwys nodi prosiectau digidol ar draws y rhanbarth a chynorthwyo i hwyluso cais SBRI llwyddiannus am £200,000 i brofi model darparu gofal cartref modern, newydd yn Nhorfaen, Gwynedd, a Sir Ddinbych, wedi’i danategu gan system TG pwrpasol.
Darparu cymorth ymchwil gan gynnwys sesiynau cyngor ac awgrymiadau astudiaethau achos a fframwaith caniatâd a moeseg ar gyfer y Gronfa Integreiddio Ranbarthol; dylunio dangosfwrdd i fesur cynnydd rhanbarthol yn erbyn Cod Ymarfer Awtistiaeth; a dadansoddi cannoedd o ymatebion meddylgar i Ymgyrch Gwrando ar Ddementia ar draws chwe thref yng Ngogledd Cymru.
Gan gydweithio’n agos â hybiau rhanbarthol eraill a sefydliadau cenedlaethol, aethom ati i rannu, hyrwyddo a datblygu syniadau newydd, gan gynnwys fel rhan o Rwydwaith Arloesi Gogledd Cymru. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd nifer dilynwyr ein cyfrif Twitter/X wedi cynyddu i 450, gyda dros 200 o bobl wedi tanysgrifio i restr bostio’r hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh).
Dilynwch ni ar Twitter/X @_NW_RICH, cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen ac ewch draw i dudalennau gwe hwb CARh i gael rhagor o wybodaeth.
Ym mis Ebrill 2022, ail-frandiwyd yr hwb fel Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (arferai gael ei adnabod fel Hwb Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwelliant), sef rhan o Raglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau Llywodraeth Cymru.
Y flwyddyn mewn ffigyrau

Dwyn pobl ynghyd i arloesi
Nid oes gan un person yr ateb o ran sut i ddatrys problemau cymhleth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Eleni mae’r hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh) wedi arbrofi gyda gwahanol ddulliau o ddwyn pobl ynghyd i ddysgu a chanfod ffyrdd newydd o weithio. Gan ategu at ein gwaith gyda’r prosiect Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), mae Mike Corcoran o Lab Cyd-gynhyrchu Cymru wedi bod yn gweithio gyda ni fel hwylusydd i ganfod datrysiadau creadigol i gael y gorau o’n cyfarfodydd.
Ystyriaethau radical gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gofynnwyd i ni archwilio syniadau radical a allai helpu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i fynd i’r afael â’r heriau y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu. Ar ôl gwylio llwyth o TED Talks, darllen llyfrau ac erthyglau llawn ysbrydoliaeth, daeth i’r amlwg mai’r lle gorau i ddechrau yw dwyn pobl ynghyd.
Dechreuodd y gweithdy cyntaf drwy ddiffinio ystyriaethau radical – mae’n ymwneud ag amharu, arloesi, cymryd risg, angerdd ac effaith. Bu i ni drafod nad yw bod yn ‘radical’ yn ddiben ynddo’i hun gan y gallai achosi niwed a buddion i bobl. I liniaru hyn, bu i ni lunio cyfres o egwyddorion arweiniol o ran sut a ble y gellir bod yn radical yn bwrpasol er gwell. Mae hyn yn cynnwys casglu straeon gan y rhai sydd â phrofiad bywyd er mwyn hysbysu dyluniad a darpariaeth gwasanaethau, trefnu sgyrsiau i gysylltu â’r holl bartneriaid sydd â diben a rennir yn yr heriau ar y cyd, archwilio ffyrdd newydd o wneud mwy gyda’r cyllid a’r adnoddau sydd ar gael, rhoi caniatâd i bobl weithredu, a rhannu cyfrifoldeb rhwng aelodau’r bwrdd.
Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc
Rydym wedi parhau i gefnogi Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Plant, drwy gyfuno ymchwil, ystadegau a straeon plant a theuluoedd ym mhob un o’u meysydd blaenoriaeth.Bu i ni hefyd gynorthwyo i gynllunio digwyddiad cyd-gynhyrchu er mwyn i’r bwrdd osod eu gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau.
Eleni bu i ni gyhoeddi canfyddiadau ein hymarfer canolbwyntio ar anabledd a salwch a chyflawni gwaith canolbwyntio ar niwroddatblygiad.
Digwyddiad Dweud Straeon
Fe wnaethom weithio gyda’r prosiect Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i drefnu digwyddiad ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym mis Tachwedd 2023 i ddysgu mwy am adrodd straeon a rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau.Ariannwyd y digwyddiad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rhannwyd amrywiaeth o straeon yn ystod y dydd, gan arddangos sut mae straeon yn datblygu ein dealltwriaeth o gymhlethdod pobl, a pha mor bwerus all straeon fod ar gyfer newid ffyrdd o feddwl, a chymell ac ysbrydoli ein hunain ac eraill.
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein blog am y digwyddiad adrodd straeon.
Canfod beth sy’n gweithio
Gwerthusiad
Er mwyn helpu i nodi arloesedd gyda’r potensial i gynyddu a lledaenu, mae hwb CARh wedi bod yn cefnogi gwerthusiad o raglen gwerth £44 miliwn Cronfa Integreiddio Ranbarthol Gogledd Cymru. Rydym yn defnyddio cymysgedd o ffigyrau a chasglu straeon i wneud yn siŵr nad ydym yn methu unrhyw newidiadau pwysig am eu bod yn anodd eu cyfrif. Eleni rydym wedi canolbwyntio ar ddylunio’r gwerthusiad a chefnogi prosiectau i wella ansawdd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu.
Rydym wedi hwyluso cyd-ddyluniad a chynllunio gwerthusiad o Fframwaith Gwydnwch Lles ac Iechyd Emosiynol ar gyfer unigolion 0- 25 oed gan ddefnyddio’r paneli dethol straeon Newid Mwyaf Arwyddocaol.
Rydym hefyd yn rhan o grŵp llywio prosiect 100 o straeon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Wrecsam, gan gefnogi i recriwtio unigolion gydag anableddau dysgu a chyflyrau niwroddatblygiadol i gyd-gynhyrchu prosiect i ddysgu o straeon pobl ifanc a’u teuluoedd o ran pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Chwiliadau llenyddiaeth
Mae ein llyfrgellydd arbenigol yn cynnal chwiliadau i ganfod pa waith ymchwil sydd eisoes wedi’i gyflawni ar y pwnc, neu enghreifftiau o arferion gorau. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 40 o chwiliadau llenyddiaeth a chynhyrchu 7 crynodeb o dystiolaeth gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain, moeseg / canllawiau Deallusrwydd Artiffisial, Deallusrwydd Artiffisial er mwyn gwneud penderfyniadau, Deallusrwydd Artiffisial i fonitro, wardiau rhithwir, cofnodion gofal integredig, cyd-gynhyrchu gyda phlant, ymyraethau cyn geni, ymyraethau ar gyfer plant gydag anghenion cymhleth, perthynas y teulu’n chwalu (cyfraddau ar gyfer rhieni plant gydag anghenion cymhleth, cefnogaeth, a mwy o ofal preswyl), awtistiaeth ac ADHD (rhestrau aros, diagnosis, cefnogaeth, demograffeg, bwlio, trawma a gwaharddiadau o’r ysgol), diffiniadau niwroamrywiaeth, modelau gofal cymdeithasol arloesol, pecyn gwaith ffioedd cartrefi gofal, a fframweithiau canlyniadau y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Cyhoeddwyd rhai o’r rhain fel rhan o waith canolbwyntio ar blant a phobl ifanc.
Os ydych chi’n gweithio gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Ngogledd Cymru, ac yr hoffech chi wneud cais am chwiliad, cysylltwch â’n Llyfrgellydd Arbenigol.
Ein heffaith
Rydym yn aml yn gweithio gyda phrosiectau yn y camau cynnar i helpu i weithredu syniadau arloesol. Gall hyn gynnwys gwneud cysylltiadau rhwng gwahanol brosiectau, cynnal rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol i gynorthwyo i ddeall problem yn well neu nodi beth sy’n gweithio’n dda mewn ardaloedd eraill. I ddysgu mwy am effaith y gwaith, anfonwyd arolwg at ddetholiad o bobl a gefnogwyd gyda darnau sylweddol o waith i ddarganfod beth sydd wedi digwydd ers hynny. Roedd y gyfradd ymateb i arolwg o’r fath yn galonogol gyda dros 65% yn ymateb. Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd o’u hamser i roi adborth i ni. Mae Siart 1 yn crynhoi buddion mwyaf cyffredin o’n cefnogaeth gan gynnwys gwella ansawdd, arbed amser, a nodi a chymell syniadau neu arloesi. Dros yr ychydig dudalennau nesaf rydym wedi cynnwys sylwadau sy’n dangos y math o effaith y mae ein gwaith yn ei gael.

Dyma ddetholiad o ddyfyniadau o’r arolwg am yr effaith a gawsom eleni.
Cefnogaeth i werthuso
“Rwyf wedi derbyn cefnogaeth ac arweiniad gwerthfawr gan Hwb CARh wrth sefydlu rhaglen Arloesi CAMHS, nawr bod y rhaglen ar waith mae’r Swyddog Gwerthuso yn darparu cefnogaeth ac arweiniad arbenigol i’r timau prosiect i’w galluogi i gael mynediad at, a gwneud defnydd da o’r teclynnau gwella.”
“Bydd y gefnogaeth yn fy ngalluogi i werthuso’r gwaith rwyf yn ei wneud. Mae hyn yn allweddol gan y bydd (gobeithio) yn dangos yr angen ac yn ei dro ariannu parhaus. Bydd yr elfen o adlewyrchu yn sicrhau bod datblygiad parhaus gyda’r gallu i addasu i gyflawni’n canlyniad gorau posibl… Mae’r help rwyf wedi’i dderbyn wedi sicrhau fy mod yn cofnodi’r hyn sydd ei angen, yn arbed amser ac yn darparu canolbwynt.”
Hyrwyddo syniadau arloesol
“Mae hyrwyddo’r gwaith drwy’r cyfryngau cymdeithasol wedi’n galluogi i ledaenu newyddion am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud ar hyd y rhanbarth…Arwain y blaen wrth fynd â’n partneriaid ac aelodau o wahanol fyrddau gyda ni ar daith yn dangos pa mor bwerus yw adrodd straeon wrth wneud penderfyniadau sy’n trawsnewid bywydau unigolion ar hyd Gogledd Cymru.”
“Mae’r blog a’r gwaith Cysylltiadau Cyhoeddus gan Hwb CARh yn gymorth i gynyddu’r ymwybyddiaeth a’r mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr a phobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u gofalwyr.”
Gwella cyfathrebu a chyfranogiad
“Mae’r dulliau ansoddol ac ysgrifennu straeon wedi helpu pobl sy’n byw gyda dementia i adrodd eu stori gyda sgript penodol, er mwyn ei ddefnyddio fel cymorth cof wrth ddarparu cyflwyniadau.”
“Mae derbyn cefnogaeth Hwb CARh…. wedi cael effaith sylweddol ar y dogfennau sy’n cael eu cynhyrchu, gan sicrhau bod pob dogfen yn hygyrch. Cyflwynwyd y dogfennau terfynol mewn fformat hawdd ei lywio ac roedd edrychiad terfynol y ddogfen yn fwy apelgar i’r darllenydd.”
Effaith data ac ystadegau
“Mae’r wybodaeth a ddarparwyd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu dogfennau strategol allweddol.Bydd gwasanaethau’n cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Er enghraifft, gall y wybodaeth o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth hysbysu cyfran gymesur o gyllid ar draws y mathau o gleientiaid… Yn syml, mae eich adroddiadau’n darparu gwybodaeth sy’n hynod ddefnyddiol i ni. Diolch yn fawr.”
“Mae casglu data a chreu dangosfwrdd gan Hwb CARh o ran safonau dementia a Chod Ymarfer Awtistiaeth wedi’n galluogi i sefydlu gwaelodlin, ychwanegu data i greu darlun llawn a monitro cynnydd yn erbyn y safonau a’r codau ar draws yr holl bartneriaid ar sail ranbarthol.”
‘Gwnewch y pethau bychain’: arloesi ar raddfa fechan
Fel tîm gyda phrofiad o ymchwil, arloesi a gwella, rydym wedi datblygu sgiliau defnyddiol dros y blynyddoedd ac yn aml gofynnir i ni gynorthwyo i ddatrys problemau ar raddfa fechan wrth iddynt godi mewn gwaith rhanbarthol. Ni fydd y rhain yn newid y byd ar eu pennau eu hunain, ond maent yn ein cynorthwyo i weithio’n fwy effeithlon er mwyn treulio mwy o amser ar y pethau pwysig. Mae’r rhain oll ar gael fel templed ar gyfer rhanbarthau eraill hefyd.
Pwysigrwydd y niferoedd
Rydym yn cynhyrchu diweddariadau rheolaidd i’r asesiad o anghenion y boblogaeth, sy’n nodi faint o bobl sydd angen gwahanol fathau o ofal a chefnogaeth.
Y wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd
- Proffiliau ardal newydd ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol.
- Diweddaru proffiliau ardal ar gyfer ardaloedd awdurdodau unedol ac ardaloedd iechyd lleol.
- Ystadegau am ddangosyddion allweddol iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru.
- Amcangyfrif o ba mor gyffredin yw dementia yng Ngogledd Cymru.
- Ystadegau am gyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc.
- Crynodebau o nodweddion gwarchodedig o Gyfrifiad 2021, i gefnogi asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a gwaith gwerthuso arall.
Ewch i weld y tudalennau ystadegau ac ymchwil ar wefan y Gydweithredfa Ranbarthol.
Arloesi: Digidol, data a thechnoleg
Ein cyflawniadau eleni drwy Fwrdd Digidol, Data a Thechnoleg Gogledd Cymru.
Blaenoriaeth 1: Cael y pethau sylfaenol yn iawn – mynediad llyfn a diogel at systemau a gwybodaeth ar unrhyw adeg, o unrhyw le.
Blaenoriaeth 2: Arloesi. Dull gweithredu cysylltiedig o ran arloesi digidol. Gwneud y defnydd gorau o arian.
Blaenoriaeth 3: Cynhwysiant Digidol – Dull gweithredu cysylltiedig o ran cysylltedd cymunedol, galluogi a chofrestru.
Blaenoriaeth 4: Cofnodion ac atgyfeiriadau iechyd a gofal a data integredig – staff iechyd a gofal yn gallu edrych ar gyfuniad o gofnod iechyd a gofal unigolyn. Dull gweithredu ar y cyd o ran data.
Yn gyffredinol
Mae Data a Thechnoleg Ddigidol yn cael eu hystyried fel rhan o’r Cynllun Cyfalaf 10 mlynedd i ddylanwadu a chyfeirio dyraniadau cyllid Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Y wefan
Rydym wedi parhau i rannu gwybodaeth drwy ein tudalennau gwe gan gynnwys casglu syniadau da a chronfa ddata ymgysylltu. Dyma’r uchafbwyntiau:
- Bws Dementia – gofalwyr yn gweld y goleuni
- Cathod a chŵn robot ar gyfer Dementia
- Ymgyrch Gwrando ar Ddementia.
- Prosiect profi a thrin cyflym Hepatitis C
- Asesiad iechyd blynyddol ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu
- Cynllun Cymunedau sy’n Deall Dementia Newydd i Ogledd Cymru
Mae tudalen Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru a hafan ein tîm ymysg y 5 o’r tudalennau yr eir arnynt amlaf ar wefan y gydweithredfa ranbarthol. Eleni bu cynnydd o 11% i 760 o ymwelwyr i hafan yr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol.
Newyddlenni
Bu i ni rannu 10 newyddlen yn ystod y flwyddyn, yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant, a chynyddodd nifer y tanysgrifwyr o 35 o unigolion ychwanegol, gan roi cyfanswm o 205.
Y diweddaraf am Twitter
Dros y flwyddyn bu i ni dderbyn 50 o ddilynwyr ychwanegol ar eich cyfrifon Twitter / X gan roi cyfanswm o 450. Defnyddiwyd y cyfrifon Twitter i rannu syniadau da, prosiectau sy’n mynd rhagddynt, arloesedd ar draws y DU, digwyddiadau perthnasol a negeseuon trydar byw o gynadleddau. Maent hefyd wedi eu defnyddio i hybu’r gefnogaeth y gall ein tîm a sefydliadau eraill ei chynnig, i helpu gyda phrosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
Beth nesaf
Yn 2024-24 byddwn yn
- Dysgu beth sy’n gweithio’n dda: Cynnal gwerthusiadau a gwella sut yr ydym yn casglu data a straeon am beth sydd wedi newid. Canfod ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth yn eglur i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r gwerthusiadau eleni’n cynnwys dau brosiect preswyl arloesol ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o fod angen gofal neu o fod yn y ddalfa yn sgil eu hymddygiad, tîm Therapi Aml-system yn Sir y Fflint a Wrecsam a gwasanaeth preswyl Bwthyn y Ddôl yn Sir Ddinbych a Chonwy. Hefyd, rydym am dreialu ffyrdd o ddefnyddio straeon i’n cynorthwyo i ddysgu a gwella model gofal iechyd a lles emosiynol.
- Cyflwyno’r ffyrdd gorau o gefnogi pobl gydag anghenion iechyd a gofal. Gweithio gydag ambell hwb CARh arall i nodi a rhannu syniadau da ar draws Gogledd Cymru a rhanbarthau eraill. Parhau i arbrofi gyda dulliau arloesol o uno pobl i ddatrys problemau cymhleth.
- Archwilio dewisiadau ar gyfer cynhadledd arloesi digidol mewn gofal cymdeithasol i roi cyfle i weithwyr gofal cymdeithasol a’r cyhoedd weld beth sy’n bosibl a rhoi cynnig ar dechnolegau newydd.
- Darparu data, dealltwriaeth a gwybodaeth i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a BPRh Plant, gan gynnwys gwella systemau, dadansoddiad o Gyfrifiad 2021 ac adroddiadau pwnc rheolaidd.
- Gwella mynediad at dystiolaeth drwy hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael gan y Llyfrgellydd Arbenigol i gael gafael ar dystiolaeth am beth sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol, a gweithio’n agos gyda rhaglenni Gofal Cymdeithasol Cymru a Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP) i gefnogi’r defnydd o dystiolaeth o fewn gofal cymdeithasol.
Lawrlwytho’r fersiwn PDF
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01824 712432
E-bost: nwrich@sirddinbych.gov.uk