Lawrlwythiadau
Mae’r pecyn wedi cael ei lunio er mwyn hwyluso trafodaethau gyda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant Gogledd Cymru ynglŷn â chydweithio i wella’r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Rhagfyr 2022.
Gwybodaeth allweddol o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
- Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cynrychioli tua 0.5% o’r boblogaeth yng Nghymru.
- Rhwng 2017 a 2021, mae 241 o geiswyr lloches (gan gynnwys oedolion a phlant) wedi eu hadsefydlu ar draws awdurdodau lleol Gogledd Cymru.
- Mae Wrecsam a Chonwy yn ardaloedd gwasgaru ffoaduriaid.
- O ganlyniad i’r niferoedd bychan, mae’r ystadegau a gyhoeddwyd ar gyfer plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches yn gyfyngedig ar gyfer Gogledd Cymru (gweler isod am yr ystadegau diweddaraf). Fe fydd angen gwasanaethau i gefnogi eu hanghenion. Maent yn aml yn cyrraedd ac ychydig o wybodaeth sydd am eu hanghenion o ran iechyd a lles.
- Caiff ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru eu cefnogi’n uniongyrchol gan wasanaethau.
- Y prif fater a gaiff ei godi ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yw’r angen am well cefnogaeth o ran iechyd meddwl.
Lawrlwythiadau
Tudalennau cysylltiedig
Asesiad Anghenion y Boblogaeth Gogledd Cymru
Post blog am y sesiwn ‘canolbwyntio ar…’
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant
Cysyllwtwch a ni
Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru
Ebost: hcargc@sirddinbych.gov.uk
Ffôn: 01824 712432