Fel rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Plant Integredig Rhanbarthol, crëwyd Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol. Cafodd ei ddatblygu er mwyn canolbwyntio’n fawr ar ‘beth’ allwn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc, gan adael ‘sut’ y gallwn ei gyflawni i’r unigolyn, oedolyn dibynadwy neu wasanaethau cymorth perthnasol. Cafwyd proses ddylunio fanwl, gan ymgysylltu gyda chydweithwyr addysg, gwasanaethau plant a gwasanaethau iechyd, yn ogystal â phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a chynrychiolwyr o’r trydydd sector.
Yn ogystal, cwblhawyd proses adolygu gadarn ac annibynnol i herio cymheiriaid gyda defnyddwyr gwasanaeth a budd-ddeiliaid ehangach, er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol, hygyrch a defnyddiol. Cafodd y fframwaith ei ddylunio’n wreiddiol er mwyn helpu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc 0 – 18 oed a hyrwyddo gwaith amlasiantaethol/budd-ddeiliaid, er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd emosiynol plant a phobl ifanc yn cael eu diwallu’n gyson, waeth pa wasanaeth mae’r unigolyn yn dewis ymgysylltu â nhw am gymorth.
Defnyddiwyd themâu allweddol y Pum Awgrym Llesol (Bod yn Fywiog, Parhau i Ddysgu, Cysylltu, Cymryd Sylw, Rhoi) i grwpio elfennau’r fframwaith er mwyn dangos y gwaith meddwl a thrafod sydd wedi datblygu strwythur y fframwaith. Cafodd ei rannu’n ôl yr ystodau oedran canlynol, er mwyn dangos sut mae modd i’r plentyn neu berson ifanc ddatblygu eu gwytnwch dros amser:
0 – 3 oed
4 – 7 oed
8 – 11 oed
12 – 15 oed
16 – 18 oed
Mae’r fframwaith yn cynnwys themâu allweddol, a gefnogir gan ‘ddatganiadau dwi’n gallu’ addas o ran oedran i blant a phobl ifanc, ynghyd â datganiadau gwasanaethau cymorth ac oedolion dibynadwy. Wedi’u cyfuno, mae’r rhain yn creu adnodd holistaidd y gellir ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad gwasanaeth a chyflenwi mewn modd aml-asiantaethol. Wrth symud ymlaen, y gobaith yw y bydd y Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol yn darparu dulliau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc o ran eu datblygiad a darparu’r adnoddau a’r syniadau sydd eu hangen ar y rhai sy’n eu cefnogi i ddiwallu eu hanghenion. Gobeithiwn ei fod yn adnodd defnyddiol i’ch helpu i ddiwallu anghenion iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
Prosiect Peilot – Datgan Diddordeb – Cyfran 1
Mae’r gyfran gyntaf o ddatganiadau o ddiddordeb i wneud cais am gyllid i ddatblygu darpariaeth arloesol trwy ddefnyddio’r Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol i’w gweld isod. Mae’r rownd ymgeisio gyntaf yn cau ar *dyddiad* a dylid anfon datganiadau at Lesley.Bassett@Denbighshire.gov.uk. Ar ôl eu derbyn bydd y Grŵp Llywio yn adolygu a rhoi sgôr i’r ceisiadau ym mis Ionawr a bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu’n fuan wedyn.
Prosiect Peilot – Gwerthuso templedi effaith
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau a rhannu adroddiadau am gynnydd ac effaith eu gwaith. Bydd templedi’r ffurflenni adrodd yn dilyn.