Mae’r fforwm gwerth cymdeithasol yn cynnwys pobl o wasanaethau’r sectorau annibynnol a statudol a’r trydydd sector sy’n archwilio ffyrdd o hybu gwerth cymdeithasol mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Adnoddau Gwerth Cymdeithasol
Grwp Llywio Fforwm Gwerth Cymdeithasol Gogledd Cymru
Cefndir
Mae Rhan 2, Adran 16 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol, â phartneriaid Bwrdd Iechyd Lleol, i:
sefydlu fforymau rhanbarthol i gefnogi darparwyr sydd wedi’u seilio ar werthoedd cymdeithasol i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o’r agenda cyffredin, ac i rannu a datblygu arfer da. Nod y fforwm yw creu sector ffyniannus wedi’i seilio ar werthoedd cymdeithasol sy’n gallu manteisio ar gyfleoedd i gynnig gwasanaethau ac yn barod i wneud hynny
I grynhoi, mae’r Ddeddf yn ymofyn i Awdurdodau Lleol hyrwyddo:
- Datblygu mentrau cymdeithasol a sefydliadau cydweithredol yn eu maes i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol;
- Cynnwys y bobl y darperir gofal a chefnogaeth neu wasanaeth ataliol iddynt yn nyluniad a gweithrediad y ddarpariaeth honno;
- Yr argaeledd yn ei faes o ofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan sefydliadau trydydd sector (boed y sefydliadau yn fentrau cymdeithasol neu sefydliadau cydweithredol neu beidio)
Sefydlwyd Grŵp Llywio yng Ngogledd Cymru yn 2016 i gefnogi Awdurdodau Lleol a phartneriaid â darparu’r gofynion drwy:
- Hyrwyddo datblygiad sefydliadau nad ydynt ar gyfer elw preifat (yn cynnwys mentrau cymdeithasol, sefydliadau cydweithredol, trefniadau cydweithredol, gwasanaeth wedi’i arwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector) i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol i ofalwyr.
- Hyrwyddo cydweithrediad â nod o wella gwerthoedd cymdeithasol a chyd-gynhyrchu ar draws holl ddarparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a/neu wasanaethau lles yng Ngogledd Cymru.
- Hyrwyddo cyfleoedd partneriaeth a rhwydweithio ar draws y sectorau.
- Adnabod a rhannu arfer da; dylanwadu ar arfer datblygu a dulliau dyfeisgar â chomisiynwyr ac adrannau caffael i gomisiynu a sicrhau gwasanaethau a fydd yn darparu gwerthoedd cymdeithasol.
Llywodraethu ac atebolrwydd
Cytunwyd ar ddiffiniad gweithredol ar gyfer ‘Gwerthoedd Cymdeithasol’ i gefnogi datblygiad Fforwm lleol ar draws Gogledd Cymru
Cysylltwch â ni
Ebost: maria.bell@denbighshire.gov.uk / Kimberley.mason@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 706116