
Contents
- Crynodeb
- Y flwyddyn mewn ffigyrau
- Arloesedd ar waith
- Rhannu beth sy’n gweithio: gwerthuso er mwyn dysgu a gwella
- Gofal a chymorth – beth sy’n bwysig i chi
- Arloesi digidol, data a thechnoleg
- Beth rydym wedi ei ddysgu
- Cyfathrebu ac ymgysylltu
- Sut rydyn ni’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod
- Beth nesaf
- Cysylltwch â ni
Crynodeb
Mae Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cefnogi partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i brofi syniadau, dysgu o arfer a gwella gwasanaethau ar draws y rhanbarth. Yn ystod 2025/26, roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar gryfhau tystiolaeth, rhannu arloesedd a chefnogi pobl i weithio’n wahanol mewn systemau cymhleth.
Edefyn craidd o’n gwaith eleni fu helpu gwasanaethau i ddeall eu heffaith. Buom yn cefnogi 24 gweithdy Mapio Effeithiau Ymledol a chynnwys dulliau adrodd straeon fel Newid Mwyaf Arwyddocaol ar draws amrywiaeth eang o brosiectau a ariennir trwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Fe wnaeth hyn helpu timau i symud y tu hwnt i adrodd yn erbyn targedau tuag at ddysgu beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio, a pham. Mae rhannu’r dulliau hyn mewn digwyddiadau cenedlaethol ac wrth rannu dysgu yn rhanbarthol wedi helpu i rannu a llunio dulliau sy’n cefnogi myfyrio, gwelliant ac arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Fe wnaethom barhau i gefnogi arloesedd ar raddfa, gan gynnwys gwaith cynnar ar gartrefi mwy cynnes ac iechyd, sgrinio ar gyfer dementia i oedolion ag anableddau dysgu a gwerthuso modelau arloesol sy’n cefnogi plant a theuluoedd. Daeth ein dashfwrdd dementia arobryn â data at ei gilydd o bob cwr o ogledd Cymru i roi darlun mwy clir a rennir o sut mae pobl yn cael mynediad at y llwybr cymorth cof.
Roedd ein gwaith digidol, data a thechnoleg yn canolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn, yn ogystal â galluogi newid mwy. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi’r Rhaglen Cysylltu Gofal, peilota safleoedd SharePoint rhanbarthol, cyfrannu at raglenni dysgu digidol cenedlaethol a helpu partneriaid i rannu dysgu trwy ddigwyddiadau a rhwydweithiau.
Ochr yn ochr â hyn, fe wnaethom lunio bwletinau ymchwil, crynodebau tystiolaeth a mewnwelediadau poblogaeth i lywio cynllunio rhanbarthol, gan gynnwys gwaith tuag at yr Asesiad nesaf o Anghenion y Boblogaeth. Fe wnaethom hefyd flaenoriaethu cyfathrebu ac ymgysylltu, gan ddefnyddio blogiau, newyddlenni, digwyddiadau a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu dysgu a chynyddu arfer da.
Ar draws ein holl waith, buom yn canolbwyntio ar gydweithio, cynhwysiant a dysgu. Trwy gyfuno data, tystiolaeth, straeon a pherthnasoedd, rydym yn parhau i gefnogi partneriaid ar draws gogledd Cymru i wella gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.
Dilynwch ni ar Bluesky @nwrich.bsky.social, Twitter/X @_NW_RICH, cofrestrwch i dderbyn ein newyddlen ac ewch draw i dudalennau gwe hwb CARh i gael rhagor o wybodaeth.
Fel hwb arloesi, rydym wedi bod yn arbrofi gyda Deallusrwydd Artiffisial (DA). Bodau dynol sydd wedi ysgrifennu’r rhan fwyaf o fersiwn Saesneg yr adroddiad hwn, gyda rhywfaint o help gan DA i grynhoi a brawddegu. Rydym wedi gwirio’r cywirdeb ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb dros y cynnwys.
Y flwyddyn mewn ffigyrau

- 9 bwletin ymchwil
- 10 newyddlen
- 12 crynodeb tystiolaeth
- 24 proffil ardal
- 24 gweithdy Mapio Effeithiau Ymledol
- 61 o chwiliadau llenyddiaeth
- 132 neges ar Bluesky
- 135 o negeseuon Twitter
- 250 yn tanysgrifio i’r newyddlen
- 264 o ddilynwyr ar Bluesky
- 437 o ddilynwyr ar Twitter
Arloesedd ar waith
Cartrefi cynhesach, anadlu haws: cefnogaeth sy’n dod o hyd i’r bobl sydd ei hangen
Gall cadw’n gynnes yn y gaeaf ein helpu i aros yn iach, yn enwedig i bobl sy’n byw gyda chyflyrau fel asthma ac arthritis.
Mae dau Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol (CARh) wedi bod yn edrych ar sut gall data iechyd helpu i nodi pobl a fyddai’n elwa fwyaf o gymorth ychwanegol. Yng Nghwm Taf Morgannwg, bu’r tîm yn helpu preswylwyr i wneud cais am Gredyd Pensiwn, gan roi mwy o arian iddynt ar gyfer pethau hanfodol fel gwres. Yng Ngwent, roedd y canolbwynt ar wella inswleiddiad cartrefi. Golygodd y ddau ddull fod llai o bobl angen gofal ysbyty ar gyfer anawsterau anadlu dros y gaeaf.
Mae Llywodraeth Cymru am weld dulliau tebyg yn cael eu mabwysiadu ar draws Cymru bellach trwy eu Rhaglen Arloesedd ar Waith newydd. Yng ngogledd Cymru, mae Hwb CARh wedi bod yn cwrdd â phobl ar draws timau iechyd, tai a budd-daliadau er mwyn deall beth sydd eisoes yn gweithio yn y rhanbarth. Ac i edrych ar sut allai’r math hwn o gymorth wedi’i dargedu wneud gwahaniaeth i breswylwyr lleol.
Mae’r tîm yn edrych ar gysylltu data i weld lle byddai help wedi’i dargedu yn gwneud y mwyaf o wahaniaeth i bobl.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn y prosiect hwn, cysylltwch â ni ar nwrich@denbighshire.gov.uk.
Panel arloesi Iechyd a Mwy
Buom yn cymryd rhan yn y panel arloesi Iechyd a Mwy a drefnwyd gan MSparc a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 29 Mai 2025. Fe ddaeth â phanel o arbenigwyr at ei gilydd a allai ddarparu cyngor ar ddatblygu busnesau, delio â hawliau eiddo deallusol, caffael sector cyhoeddus ac yn fwy na hynny, darparu cyngor ac arweiniad am ddim i’r arloeswyr. Bu’r panel yn adolygu 14 syniad a darparu adborth a chefnogaeth.
Ystyriwyd amrywiaeth eang o gyflwyniadau cryf, ac rydym am ddiolch i’r bobl a wirfoddolodd i gyflwyno eu syniadau i’r panel. Ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol, hoffem ymestyn yr amser a dreulir â phobl a fyddai’n elwa fwyaf o’r gefnogaeth. Dysg arall o’r diwrnod oedd bod angen cysylltu syniadau ar gyfer meddalwedd TG newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol â rhaglenni cenedlaethol a’r farchnad bresennol wrth ofalu nad yw arloesedd yn cael ei rwystro. Mae angen i ni fod â gwell dealltwriaeth o risgiau a buddion Deallusrwydd Artiffisial hefyd er mwyn asesu arloesedd sy’n seiliedig ar DA.
Gwerthuso dulliau gweithredu arloesol
Gofynnodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant i ni werthuso prosiect a gynlluniwyd i gefnogi plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol i ddychwelyd adref at eu teuluoedd. Roeddent am wybod a oedd y prosiect yn gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc, a oedd yn gost effeithiol ac a oedd unrhyw argymhellion ar gyfer gwelliant. Mae’r adroddiad terfynol yn cael ei gymeradwyo ar hyn o bryd, felly ni allwn ddweud llawer am y canlyniadau ar hyn o bryd. Ond credwn fod hwn yn ddull y byddwn ni’n gallu ei ddefnyddio’r flwyddyn nesaf i helpu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth am pa brosiectau i’w cefnogi a rhannu dysg ar draws y rhanbarth am ddulliau gweithredu arloesol.
Brighter days: dashfwrdd dementia sydd wedi ennill gwobrau

Nid yw’n hawdd cydweithio ar draws ardal mor fawr â gogledd Cymru. Cawsom ein herio gan rai sy’n cynllunio gwasanaethau dementia i ddod â data at ei gilydd o bob rhan o’r llwybr cymorth cof rhanbarthol. Roedd angen i ni ganfod ffordd o drefnu a chyflwyno’r data ydym ni’n ei gasglu gan chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd sydd wedi’i rannu’n dair ardal a phedwar gwahanol sefydliad trydydd sector. Mae pobl y mae dementia’n effeithio arnynt yn cael gwahanol gymorth ar wahanol adegau a gan wahanol sefydliadau. Mae rhai Cynghorau’n darparu cymorth yn uniongyrchol, mae rhai yn comisiynu sefydliadau’r sector gwirfoddol i ddarparu cymorth ar eu rhan.
Roedd angen dashfwrdd arnom a oedd yn dod â’r holl ddata gwahanol hwn at ei gilydd i helpu i gynllunio gwasanaethau sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr gyda’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw, lle bynnag maen nhw’n byw a thrwy gydol eu taith.
Dechreuodd ein gwaith ar hyn y llynedd a chrewyd dashfwrdd sylfaenol yn Excel. Roedd yn gweithio ond roedd yn statig ac anodd i’w ddiweddaru. Roeddem yn gwybod bod angen help arnom, felly fe wnaethom gyflwyno cais i fod yn rhan o Raglen Ddysgu Dadansoddeg Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Trwy’r rhaglen hon, cawsom tua wyth diwrnod o hyfforddiant a oedd yn cynnwys sgiliau o chwilfrydedd a gwrando gweithredol i ddelweddu data ac adrodd storïau, yn ogystal â sgiliau technegol o ran SQL, Python a PowerBI. Ond yn bwysicaf, cafodd y dashfwrdd dementia ei dderbyn fel pwnc ar gyfer prosiect dysgu cydweithredol. Golygodd hyn ein bod wedi cael gweithio gyda grŵp gwych o ddadansoddwyr data o bob cwr o Gymru am bum mis dros yr haf. Fe wnaethant greu dashfwrdd PowerBI rhyngweithiol gyda ni sy’n gweithio’n well o lawer na’n hen fersiwn ar daenlen.
Roedd y canlyniad terfynol cystal fel bod y tîm wedi ennill y wobr am y prosiect cyffredinol gorau!

Cam dau: gwella sgrinio dementia ar gyfer pobl ag anableddau dysgu
Y llynedd, fe wnaethom adrodd am ein gwaith i gefnogi tîm o nyrsys anableddau dysgu yn Sir Ddinbych i ddatblygu dull o sgrinio pobl ar gyfer dementia. Roedd y cynllun peilot yn llwyddiant, ac ar gyfer cam dau, rydym yn cyflwyno’r broses ar draws gogledd Cymru. Y brif her oedd fod gwahanol Gynghorau yn defnyddio gwahanol fersiynau o Microsoft Office a thaenlen a oedd yn gweithio ar y fersiynau mwyaf diweddar yn unig. Mae hynny wedi’i ddatrys yn raddol wrth i Gynghorau symud ymlaen at y diweddariadau meddalwedd diweddaraf.
Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn – roedd pobl o’r farn fod y daenlen yn hawdd i’w defnyddio ac roeddent yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae’n dangos pan fydd hi’n bryd i bobl gael eu sgrinio. Maen nhw wedi mwynhau cwrdd â phobl i gwblhau’r gwiriadau lles gwybyddol gyda nhw, ac wedyn gallu llenwi’r daenlen i gadw golwg ar y data. Bydd y templed yn helpu awdurdodau lleol i nodi pobl sydd â syndrom Down sy’n datblygu dementia’n gynharach, er mwyn gallu darparu cymorth gwell.
Rhannu beth sy’n gweithio: gwerthuso er mwyn dysgu a gwella
Buddsoddodd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol tua £3.2 miliwn eleni i mewn i’r prosiectau hyn, felly mae’n bwysig deall yr effaith maen nhw’n ei chael. Eleni, fe wnaethom hwyluso 24 gweithdy Mapio Effeithiau Ymledol gyda 15 gwahanol brosiect.
Mae ein gwerthusiad yn llywio’r gwaith ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a chynllunio rhanbarthol.
Beth yw Mapio Effeithiau Ymledol?
Dull gwerthuso cyfranogol yw Mapio Effeithiau Ymledol. Mae’n cofnodi’n weledol sut mae prosiectau a gwasanaethau yn creu effaith fwriedig ac anfwriedig. Fel crychau pan gaiff carreg ei gollwng mewn dŵr, mae camau a gymerir gan unigolion a gwasanaethau yn creu effaith ar draws pobl, cymunedau a systemau. Mae Mapio Effeithiau Ymledol yn darparu ffordd strwythuredig i staff, partneriaid a budd-ddeiliaid fyfyrio ar lwyddiannau a heriau, gan eu helpu i ddeall sut mae eu gwaith yn dylanwadu ar unigolion, cymunedau a gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector rhyng-gysylltiedig.
Beth yw Newid Mwyaf Arwyddocaol?
Mae’r dull Newid Mwyaf Arwyddocaol yn golygu creu a dadansoddi hanesion personol o newid a phenderfynu pa un yw’r mwyaf arwyddocaol – a pham. Nid dim ond casglu ac adrodd am straeon yw Newid Mwyaf Arwyddocaol. Mae’n golygu bod â phrosesau i ddysgu ohonynt – yn benodol, dysgu am y tebygrwydd a’r gwahaniaeth o ran beth mae gwahanol grwpiau ac unigolion yn rhoi gwerth arno.
Dysgu o’r gwerthusiadau
Mae’n fraint i ni weithio gyda phobl sy’n darparu gofal a chymorth er mwyn eu helpu i werthuso, dysgu a gwella. Dyma rai o’r pethau wnaeth ein taro o werthusiadau yn ystod y flwyddyn, yr oeddem yn credu y dylid eu rhannu’n fwy eang.
- Gwell dealltwriaeth o blant a theuluoedd sy’n profi niwrowahaniaeth, eu profiadau yn y system iechyd a gofal cymdeithasol ac effaith ymledol eang methu â rheoli emosiynau arnyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, staff yn yr ysgol a’r gymuned. Mae hyn yn atgyfnerthu’r angen am lwybr niwrowahaniaeth sy’n dechrau yn y blynyddoedd cynnar, gan wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth a niwrowahaniaeth er mwyn atal dwysáu.
- Y ffactorau llwyddiant critigol a oedd yn rhan o lwyddo i gynnwys Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol mewn lleoliad ysgol oedd fod y prosiect wedi’i alinio â gwerthoedd sefydliadol a bod yr hyfforddiant yn cynnwys tasgau a oedd i gael eu gweithredu ar bob lefel yn yr ysgol, a arweiniodd at newid ffyrdd o feddwl a chynnwys pethau ymhellach.
- Mae amseriad penderfyniadau ariannu yn golygu bod rhai ymyriadau a ffyrdd newydd o weithio sydd wedi bod yn effeithiol yn cael eu hatal, a hyd yn oed os bydd cyllid ar gael, ni ellir eu hailgychwyn yn rhwydd oherwydd bod gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau wedi’u colli.
Crychau o’n gwaith – o brofi i wella
Er mwyn adlewyrchu ein taith ein hunain wrth gefnogi gwasanaethau i ddefnyddio Mapio Effeithiau Ymledol, fe wnaethom ddatblygu Map Effeithiau Ymledol ar gyfer ein harfer.
Gwelsom mai’r ffactorau sy’n gritigol wrth ledaenu’r dull ar draws gogledd Cymru oedd:
- Paratoi’r sylfaen – meithrin perthnasoedd a chreu dealltwriaeth a rennir o wasanaethau.
- Mae angen lleoedd diogel a dewr ar bobl er mwyn myfyrio a gwneud synnwyr o arfer.
- Mae’n cymryd amser i staff fod yn hyderus i newid y ffordd maen nhw’n adrodd o ‘brofi i wella’.
Isod, mae stori sy’n dangos sut wnaeth un tîm symud o brofi i wella dros gyfnod o 12 mis, gan ddefnyddio Mapio Effeithiau Ymledol.
Buom yn cefnogi tîm i fapio effeithiau ymledol prosiect rhanbarthol a oedd yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu cymhleth i gael cyflogaeth â thâl.
Fel rhan o’r mapio, roedden am glywed am yr heriau yr oedd y tîm wedi’u hwynebu ac nid dim ond y pethau a oedd wedi bod yn llwyddiant. Fel prosiect llwyddiannus a oedd am ganolbwyntio ar y newyddion da, roedd hyn yn peri pryder! Roeddem yn gallu dangos bod y mapiau yn amlygu’r effaith gadarnhaol yr oeddent wedi’i chael, ond ein bod yn ceisio symud oddi wrth adrodd sy’n profi bod prosiect yn gweithio’n dda, i adrodd sy’n ein helpu i wella, ac ar gyfer hynny, mae angen i ni ganolbwyntio ar yr heriau hefyd.
Wedyn, buom yn gwrando ar sesiwn arall, lle cafwyd trafodaeth am un o’r heriau. Rhannodd hyfforddwr swyddi stori a oedd yn sôn am sefyllfa lle nad ddaeth yr unigolyn yr oedd wedi bod yn ei gefnogi o hyd i swydd, er gwaethaf eu hymdrechion gorau. Daethpwyd o hyd i swydd wirfoddol, felly ni chyrhaeddwyd y targed ar gyfer y prosiect.
Ond disgrifiodd rheolwr a oedd wedi bod yn gwrando ar y stori y sefyllfa mewn ffordd wahanol – ‘ond mae’r unigolyn hwn mewn lleoliad gwirfoddol bellach, mae ganddo ymdeimlad o bwrpas, mae’n hapusach nag a fu erioed yn ei fywyd. Nid yw’n defnyddio gwasanaethau dydd bellach, felly mae’r Cyngor yn gwneud arbedion, ac mae’n cysylltu â’i weithiwr cymdeithasol yn llai aml, felly mae llai o alw yno. Dywedasoch fod ei aelwyd gyfan yn fwy tawel.’ Er bod y targed wedi’i fethu, bu gwelliant mawr i fywyd rhywun trwy ddarparu cymorth a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, hyd yn oed heb gael cyflogaeth â thâl i rhywun.
Dyna oedd y foment arbennig – trwy fapio canlyniad bwriedig ac anfwriedig y prosiect, y da a’r drwg, roeddem yn gallu dangos buddion y prosiect y tu hwnt i’r hyn yr oedd wedi’i greu i’w gyflawni’n wreiddiol. Symud o brofi i wella.
Sut ydym ni wedi rhannu’r dull gweithredu
Fe wnaethom rannu dysg o’n taith Mapio Effeithiau Ymledol yng nghynhadledd MediWales ym mis Mehefin 2025, ynghyd â Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Hwb Gwyddorau Bywyd.
Fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad cyfnewid dysgu Newid Mwyaf Arwyddocaol / Mapio Effeithiau Ymledol ar 29 Medi 2025, mewn partneriaeth â’r tîm Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth o Gofal Cymdeithasol Cymru. Cyflwynodd ein tîm ein dull o ran gwaith Mapio Effeithiau Ymledol yn sesiwn y prynhawn.
Adborth am ddulliau gwerthuso trwy adrodd storïau
- Roedd pobl o’r farn bod y digwyddiad yn ysbrydoli a phrocio’r meddwl, a gadawsant gydag adnoddau ymarferol y byddan nhw’n eu defnyddio go iawn.
- Roedd y digwyddiad yn helpu pobl i ailfeddwl sut beth yw ‘tystiolaeth dda’. Roedd pwyslais cryf ar bŵer storïau, profiadau personol a mewnwelediad ansoddol, ynghyd â niferoedd.
- Symud o ‘brofi’ i wella. Rhywbeth cyson a ddysgwyd oedd y syniad y dylai gwerthuso helpu gwasanaethau i ddysgu a gwella, nid dim ond adrodd yn erbyn targedau. Soniodd bobl am gymhlethdod, ansicrwydd a’r angen i ganolbwyntio ar berthnasoedd ac arfer yn y byd go iawn.
- Cysylltiadau cryf a dysg a rennir. Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl arafu, siarad a chysylltu. Roedd llawer o bobl yn gwerthfawrogi cyfle i gwrdd â phobl eraill sy’n gweithio mewn ffyrdd tebyg a dywedasant eu bod yn bwriadu cysylltu â chysylltiadau newydd i rannu dysg neu gydweithio.
- Canolbwynt clir ar bobl. Amlygodd gyfranogwyr sawl tro bwysigrwydd creu lleoedd diogel i bobl rannu profiadau a dysgu gan ei gilydd. Gadawodd nifer yn teimlo’n ysbrydoledig i roi profiad personol a pherthnasoedd wrth wraidd eu gwaith yn fwy cadarn.
“Gall fod yn anodd mesur a yw’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yn helpu, yn enwedig pan ydym ni’n gweithio mewn sefyllfaoedd cymhleth. Yr hyn a ddysgais o’r diwrnod oedd pwysigrwydd ymyriadau bach ar lefel ddynol, fel treulio amser yn cefnogi rhywun neu fod yn hyblyg o ran eich dull gweithredu. Gall dulliau gwerthuso fel MSC ac REM ein helpu i ddeall y pethau bach sy’n wirioneddol bwysig i bobl. Dysgais lawer gan y cyflwynwyr a phawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a gadawais wedi dysgu llawer ac wedi fy ysbrydoli!”
Adrodd storïau a chymorth ymddygiad cadarnhaol
Ffordd arall yr ydym ni wedi bod yn rhannu dulliau adrodd storïau yw trwy gefnogi gwerthusiad rhanbarthol Strategaeth Gweithredu Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd. Buom yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu a chynnwys y dull adrodd storïau Newid Mwyaf Arwyddocaol. Fe wnaethom gynllunio a darparu gweithdy yn nigwyddiad Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ar 29 Ionawr 2025, gan archwilio’r cysylltiadau rhwng y dulliau a phwysleisio pwysigrwydd profiad personol a lleisiau pobl mewn gwerthusiadau.
Ar ôl y digwyddiad, cawsom adborth hyfryd, yn enwedig o ran y sgyrsiau y buom yn eu harwain am sicrhau bod adrodd storïau yn wirioneddol gynhwysol ar gyfer pobl sy’n cyfathrebu’n wahanol.
Ers y gweithdy, rydym wedi parhau i weithio gyda gwasanaethau ar draws y rhanbarth i feithrin eu hyder a’u gallu wrth gasglu storïau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran Newid Mwyaf Arwyddocaol. Mae hyn wedi cynnwys cynghori timau ar ddulliau moesegol a hygyrch o gasglu storïau, eu cefnogi i ddeall y gwahaniaeth rhwng adrodd storïau am brofiad personol ac astudiaethau achos traddodiadol, a hybu dulliau sy’n gynhwysol o ran cyfathrebu ar gyfer pobl nad ydynt yn defnyddio geiriau i gyfathrebu.
Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cyfrannu at ddatblygu dull cyson, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer cofnodi dysg a deall effaith y Strategaeth Gweithredu Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol ar draws gogledd Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol ar gael ar wefan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.
Gofal a chymorth – beth sy’n bwysig i chi
Bob pum mlynedd, rydym yn cyhoeddi asesiad am y gwahanol fathau o ofal a chymorth sydd eu hangen ar draws gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn defnyddio’r asesiad i gynllunio’r gwasanaethau y mae eu hangen i ddiwallu anghenion pobl. Bydd y nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2027 felly roedd ein canolbwynt eleni ar y pethau canlynol.
- Creu bwletinau ymchwil sy’n darparu nifer y bobl sydd angen gwahanol fathau o ofal a chymorth.
- Crynhoi’r dystiolaeth ymchwil am y gwahanol anghenion sydd gan bobl o ran gofal a chymorth.
- Casglu straeon pobl o weithgareddau ymgysylltu ar draws gogledd Cymru.
- Rhannu arolwg i ganfod beth sy’n bwysig i bobl sydd angen gofal a chymorth.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan grŵp llywio sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r chwe Chyngor a’r Bwrdd Iechyd sy’n ein cysylltu â’u gweithgareddau casglu data ac ymgysylltu lleol.
Ein cynllun yw creu asesiad mwy syml o lawer eleni sy’n crynhoi’r prif negeseuon o’r holl dystiolaeth yr ydym wedi’i chasglu. Bydd hyn yn ogystal â’r papurau ymchwil cefndir sydd ar gael ar ein gwefan ar gyfer unrhyw un sydd angen y manylion. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer pob math o bethau o brosiectau ysgol i geisiadau am gyllid.
Mae’r dystiolaeth gefndir hon yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru felly mae’r data mwyaf cyfredol bob amser ar gael i’n helpu i wneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau – nid oes angen i ni ddibynnu ar gylch pum mlynedd yr asesiad statudol o anghenion yn unig er mwyn ffurfio ein rhaglen waith, a gallwn ymateb yn gyflym i geisiadau am ymchwil a gwybodaeth gan bartneriaid a budd-ddeiliaid eraill.
Fel bob amser, rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr sy’n ysgrifennu’r asesiad cyffredinol o les y boblogaeth ar gyfer y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel ein bod yn cydweithio’n effeithlon a chwblhau gwaith unwaith ar gyfer gogledd Cymru, lle bynnag bo’n bosibl. Rydym wedi cyflwyno astudiaeth achos arfer da am ein dull gweithredu i Lywodraeth Cymru i lywio’r canllawiau newydd am asesiadau. Rydym am ddefnyddio adnoddau ymchwil yn y ffordd fwyaf effeithlon, a’n nod yw rhannu’r un negeseuon allweddol o’r dystiolaeth.
Rydym yn ateb ymholiadau ar ran pobl hefyd. Cysylltwch â ni ar nwrich@denbighshire.gov.uk os oes angen help arnoch i gefnogi gwaith iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng ngogledd Cymru.
Diweddariadau a gyhoeddwyd yn 2025/26
- Proffil poblogaeth ar gyfer gogledd Cymru
- Cyflyrau niwroddatblygiadol mewn plant a phobl ifanc.
- Cyflyrau niwroddatblygiadol mewn oedolion oedran gweithio.
- Plant ag anableddau.
- Dangosyddion allweddol iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc.
- Amcangyfrif o ba mor gyffredin yw dementia yng Ngogledd Cymru.
- Ffocws ar ddementia yng ngogledd Cymru
- Gofalwyr di-dâl
- Tai a digartrefedd
Rydym wedi defnyddio dull newydd ar gyfer ein diweddariadau eleni, gan gynnwys y neges allweddol o bob paragraff yn y pennawd ei hun. Felly os edrychwch chi ar dudalen cynnwys yr adroddiad, gallwch gael trosolwg sydyn o’r prif negeseuon. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi hefyd. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw adborth.
Ewch i weld y tudalennau ystadegau ac ymchwil ar wefan y Gydweithredfa Ranbarthol.
Chwiliadau llenyddiaeth a chrynodebau tystiolaeth
Mae ein llyfrgellydd arbenigol yn cynnal chwiliadau i ganfod pa waith ymchwil sydd eisoes wedi’i gyflawni ar y pwnc, neu enghreifftiau o arferion gorau. Yn ystod y flwyddyn, llwyddom i gynnal 61 o chwiliadau llenyddiaeth a chynhyrchu 12 o grynodebau tystiolaeth.
Crynodebau tystiolaeth a gyhoeddwyd eleni
- Heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl
- Heriau sy’n wynebu gofalwyr ifanc
- Plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth
- Iechyd Meddwl Plant
- Gofal cartref
- Digartrefedd
- Anableddau dysgu
- Niwrowahaniaeth
- Pobl eraill a dementia
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Cyn-filwyr
- Trais yn erbyn Menywod
Os ydych chi’n gweithio gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar brosiectau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Ngogledd Cymru, ac yr hoffech chi wneud cais am chwiliad, cysylltwch â’n Llyfrgellydd Arbenigol..
Diwrnod Hawliau Gofalwyr: beth mae’r niferoedd yn ei ddweud a ddim yn ei ddweud am ofal di-dâl
I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddigwyddiad ar gyfer gofalwyr di-dâl a sefydliadau sy’n eu cefnogi yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam.
Aeth ein tîm hwb CARh draw ac roedd yn fraint o’r mwyaf clywed gofalwyr o bob oed yn trafod eu profiadau. Roedd y straeon a glywsom yn amlygu gwerth gwaith gofalwyr di-dâl a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Gofynnwyd i ni drafod ystadegau am ofalwyr di-dâl. Cawsom ein synnu gan y ffigyrau, er enghraifft, bod llai o ofalwyr di-dâl o’i gymharu â 10 mlynedd ynghynt (mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i’r cyfyngiadau Covid a oedd ar waith pan gasglwyd y data ar gyfer Cyfrifiad 2021) a’r £2.3 biliwn y byddai’n ei gostio i ogledd Cymru ddisodli gofal di-dâl â gofal â thâl. Fodd bynnag, roedd rhai o’r ffigyrau i’w disgwyl, er enghraifft, bod pobl yn darparu llawer mwy o oriau o ofal di-dâl ar y cyfan, ac effaith hyn ar iechyd a lles gofalwyr.
Rhannom ein ‘Cwis Paru Ystadegau’r Cyfrifiad â’r Sir yng Ngogledd Cymru’ Gofynnwyd i’r gynulleidfa godi eu dwylo neu wiglo os oeddent yn credu eu bod wedi clywed yr ateb cywir, ac roeddent yn wych am hyn! Roedd y cwis yn ystyried y gwahaniaethau ar draws gogledd Cymru, megis bod cyfran is o ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd (a’r rheswm dros hyn, mae’n debyg, yw bod myfyrwyr yn y brifysgol yn llai tebygol o fod yn ofalwyr) a Chonwy oedd â’r gyfran uchaf ond un o bobl hŷn mewn unrhyw sir yng Nghymru.
Rydym yn deall nad yw ystadegau bob amser yn rhoi’r darlun llawn, felly gofynnom i bobl roi gwybod i ni os nad oedd yr ystadegau’n cyd-fynd â’u profiadau nhw fel gofalwyr di-dâl.
Mae’r holl wybodaeth a drafodwyd (a mwy) ar gael ar ein gwefan ar ystadegau am ofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru.
Cynhadledd iechyd merched
Aethom i Gynhadledd Iechyd Merched ym Mangor ar 4 Mawrth 2026, a oedd yn dod â merched ynghyd i rannu profiadau a gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â gwella cefnogaeth ar draws gwahanol gamau o fywyd. Un thema a gododd dro ar ôl tro oedd yr angen i sicrhau fod gwasanaethau’n seiliedig ar brofiadau merched, fel bod y gefnogaeth yn adlewyrchu’r hyn y mae ar bobl wir ei angen.
Ar ein stondin, roeddem yn ceisio amlygu’r pethau yr ydym wedi’u dysgu am ferched ac iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys bod:
- y mwyafrif o ofalwyr di-dâl yn ferched, sy’n cefnogi aelodau teulu drwy salwch, anabledd a henaint. Mae 39,200 o’r gofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru’n ferched, o’i gymharu â 27,650 o ddynion.
- merched yn byw yn hirach, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o brofi salwch yn gysylltiedig â henaint, megis dementia, ac felly angen cefnogaeth yn hwyrach mewn bywyd. Mae dau draean o bobl 85 oed neu hŷn yn ferched.
- diffyg diagnosis o gyflyrau megis niwrowahaniaeth a chlefyd y galon yn fwy cyffredin mewn merched a genethod. Nid yw hyn oherwydd bod y symptomau’n anghyffredin, ond gan nad yw ymchwil bob amser wedi cynnwys merched neu wedi ystyried eu profiadau.
- merched yn fwy tebygol o brofi caledi ariannol, yn enwedig fel gofalwyr, drwy anabledd neu salwch, neu yn hwyrach mewn bywyd.
- trais yn erbyn merched a genethod yn parhau i fod yn broblem mewn cymdeithas.

Fe helpodd y gath a’r ci animatronaidd i ddenu pobl i’r stondin. Darparodd tîm y BPRh y rhain i bobl sy’n byw â dementia ar draws gogledd Cymru a fyddai’n debygol o werthfawrogi eu cwmni. Rydym yn y broses o gasglu adborth am eu heffaith ar hyn o bryd.
Ein prif nod am y diwrnod oedd hyrwyddo’r arolwg ar gyfer ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth, ac fe lwyddom i sefydlu cysylltiadau gwych gyda phobl sydd wedi rhannu’r arolwg yn eang i ni.
Arloesi digidol, data a thechnoleg
Ein cyflawniadau eleni drwy Fwrdd Partneriaeth Digidol, Data a Thechnoleg Gogledd Cymru.
Cytunodd y bwrdd i fabwysiadu fframwaith Digidol ym Maes Gofal Cymdeithasol (DiSC) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a oedd wedi’i alinio’n dda â’n blaenoriaethau.
Newid mawr
Mae’r Rhaglen Cysylltu Gofal genedlaethol yn cynnwys caffael a gweithredu systemau rheoli achosion newydd ar gyfer gofal cymdeithasol, iechyd meddwl ac iechyd cymunedol a datblygu cofnodion gofal a rennir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Camodd y tîm hwb CARh i mewn i hwyluso’r rhaglen yng ngogledd Cymru tan i’r rheolwr rhaglen newydd ddechrau ym mis Hydref 2025. Roedd ein cefnogaeth yn golygu bod y cynlluniau caffael a gweithredu cychwynnol ar gyfer y system gofal cymdeithasol newydd wedi’u hintegreiddio’n rhanbarthol a chenedlaethol. Rydym wedi rhannu’r gwersi a ddysgwyd drwy’r broses gaffael gyda thîm y fframwaith DiSC i helpu i rannu arferion da.
Mae datblygiadau bellach ar y gweill i weithredu’r system rheoli achosion gofal cymdeithasol newydd ar draws gogledd Cymru.
Syniadau Gwych
Mae’r Digwyddiad Arddangosfa Ddigidol y llynedd wedi parhau i gefnogi arferion arloesol ymhell ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. Mae’r digwyddiad wedi arwain at geisiadau i’r panel cefnogi arloesedd Iechyd a Mwy a Chontractau ar gyfer cyllid Arloesi. Arweiniodd hefyd at gyfranogiad cwmni technoleg yn y fframwaith DiSC. Rydym wedi nodi’r gwersi a ddysgwyd o’r broses ac mae’r rhain ar gael ar ein gwefan ar gyfer unrhyw un sy’n cynllunio digwyddiad tebyg: Arddangosfa ddigidol: yr hyn a ddysgwyd gennym.
Roedd aelod o’n tîm yn feirniad yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer defnydd digidol a thechnoleg. Roedd yn gyfle gwych i fynd allan i weld syniadau arloesol ar waith ledled Cymru a chasglu syniadau a allai fod yn ddefnyddiol yma. I gael rhagor o wybodaeth, gweler: Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2025
Rydym wedi parhau i ddiweddaru ein rhestrau o brosiectau arloesol ac wedi rhannu’r rhain â CLlLC i gefnogi’r rhaglen waith ‘syniadau gwych’ genedlaethol. Rydym hefyd wedi parhau i gwrdd fel rhan o rwydwaith arloesi gogledd Cymru, fodd bynnag, nid ydym wedi gallu gwneud hyn mor aml ag yr hoffem ni yn sgil newidiadau mewn staff a blaenoriaethau sy’n gwrthdaro. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gobeithio ei adfywio y flwyddyn nesaf fel ffordd o rannu syniadau a gwersi a ddysgwyd o fewn yr ecosystem arloesi iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru.
Y Pethau Pwysig
Y llynedd, bu i ni adrodd ar yr heriau a gawsom mewn perthynas â chyflwyno safleoedd SharePoint rhanbarthol. Felly eleni, mae’n bleser gennym roi gwybod fod gennym ni bellach dri safle SharePoint rhanbarthol peilot!
Fel tîm rhanbarthol, rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r chwe Chyngor lleol yng ngogledd Cymru, y bwrdd iechyd ac eraill. Awgrymwyd sawl gwaith er mwyn cael y pethau sylfaenol yn iawn y dylid darparu ateb syml i helpu i rannu dogfennau a chydweithrediad ar gyfer prosiectau rhanbarthol. Ystyriwyd sawl opsiwn gwahanol a phenderfynwyd mai SharePoint oedd yr opsiwn gorau gan ei fod yn cyd-fynd â’r cynnyrch Microsoft Office a ddefnyddir eisoes gan ein sefydliadau partner.
Gweler safle rhannu dogfennau Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru isod lle gall partneriaid uwchlwytho dogfennau cefndirol i lywio’r asesiad a chyflwyno sylwadau a diwygio fersiynau drafft o’r adroddiad.

Un elfen sylfaenol arall a roddwyd ar waith yw sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol bellach yn gallu gweithio gyda’i gilydd ar Microsoft Teams. Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn wella prosesau rhannu calendrau ar gyfer timau integredig.
Gofal iechyd ar-lein ar gyfer cymunedau gwledig
Llwyddom i sicrhau cefnogaeth gan y Bwrdd Data Digidol a Thechnoleg ac arweinwyr BIPBC y llynedd i weithio gydag Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Hwb CARh Powys a Hwb CARh Gorllewin Cymru ar ffyrdd i wella gofal iechyd ar-lein ar gyfer cymunedau gwledig. Rydym bellach yn y broses o ymgeisio am gyllid ar gyfer y prosiect hwn, felly cadwch lygad allan!
Casglu gwybodaeth
Mae’r elfen hon o’r fframwaith DiSC yn ymwneud â nodi, gwerthuso a rhannu arferion, cynlluniau peilot a phrosiectau presennol. Rydym yn gobeithio gwella’r elfen hon o waith y bwrdd y flwyddyn nesaf, gan ddechrau â datblygu strategaeth ddigidol ar gyfer gogledd Cymru.
Rydym wedi gweithio gyda Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol eleni i ddarparu adborth er mwyn helpu i wella llwyfannau rhannu data.
Themâu trawsbynciol
Mae’r rhain yn cynnwys seibr, isadeiledd, cynhwysiant, caffael ac arweinyddiaeth. Mae cynhwysiant digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol yng ngogledd Cymru ac rydym yn gweithio’n agos gyda Chynhwysiant Digidol Cymru ar hyn. Rydym hefyd yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i wella isadeiledd ar gyfer technoleg ddigidol megis WiFi a rhwydweithiau 4G.
A yw diffyg WiFi neu signal ffôn symudol yn eich atal chi rhag darparu iechyd a gofal cymdeithasol da yng ngogledd Cymru? Os felly, cysylltwch â’r tîm yn nwrich@denbighshire.gov.uk er mwyn i ni fedru datys hyn.
Beth rydym wedi ei ddysgu
Gan ddwyn ysbrydoliaeth gan y dull Systemau Dysgu Dynol sy’n nodi mai’r allwedd i reoli systemau cymhleth yw arbrofi a dysgu, dyma rai o’r pethau yr ydym wedi’u dysgu eleni:
- Y pwysigrwydd o adolygu tystiolaeth yn rheolaidd wrth wneud hawliadau dan bolisïau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Sut i ddefnyddio PowerBI i greu dangosfyrddau a phwysigrwydd ansawdd data ar gyfer cynhyrchu mewnbwn a dangosfyrddau ystyrlon.
- Pwysigrwydd dulliau gwerthuso sy’n canolbwyntio ar wella yn hytrach na phrofi.
- Rydym wedi bod yn arbrofi â thechnoleg Deallusrwydd Artiffisial yn y tîm. Hyd yma, credwn ei fod yn gwneud gwaith cystal â ni, os nad gwell, o ran ysgrifennu penawdau a chrynodebau, ac fe allai hefyd arbed llawer o amser i ni drwy gymryd nodiadau mewn cyfarfodydd. Fodd bynnag, nid yw ei waith darganfod, dadansoddi a chyflwyno data cystal. Daeth i’r amlwg ei fod yn fwyaf effeithiol mewn sefyllfaoedd lle mae safonau clir eisoes wedi’u sefydlu – fel adnodd defnyddiol i hybu arbenigwyr, nid eu disodli.
Dysgu ac ymgysylltu
- Gwneud y defnydd gorau o amser pobl. Fel partneriaeth, mae ein partneriaid yn aml yn gofyn yr un cwestiynau i’r un bobl. Rydym wedi sefydlu Cronfa Ddata Ymgysylltu i annog pobl i ddefnyddio gwaith pobl eraill er mwyn i ni fedru ategu at sgyrsiau gyda’r cyhoedd yn hytrach na’u hailadrodd. Rydym yn annog pobl i rannu canfyddiadau â ni yn barod at Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2027.
- Gofyn y cwestiynau cywir i’r bobl gywir. Nodi safbwynt rhywun sy’n siarad. Er enghraifft, rhywun sy’n siarad am eu profiad personol nhw, profiad rhywun y maent yn eu cefnogi neu am bobl eraill. Yn yr ymarfer gwrando ar ddementia, cawsom gannoedd o ymatebion yn ymwneud â chynnwys pobl sy’n byw â dementia yn eu cymuned leol, ac ymateb gan rywun sy’n byw â dementia a ddywedodd mai ymgysylltu â’r gymuned oedd y peth olaf yr oedd arnynt ei eisiau. Byddai wedi bod yn hawdd methu’r ymateb hwnnw, ond mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ystyried y rhain er mwyn cynllunio gwasanaethau sy’n darparu’r pethau sy’n bwysig i bobl.
- Dadansoddi’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym yn fanwl. O ganlyniad i’r erthygl hon: Rethinking Barriers and Enablers in Qualitative Health Research: Limitations, Alternatives, and Enhancements. Gan geisio gwneud hyn yn ein gwaith Mapio Effeithiau Ymledol, rydym wedi cynnwys amser i fyfyrio ar y broses er mwyn dysgu a gwella’r ffordd y rydym yn gofyn cwestiynau ac yn dadansoddi’r mapiau gydag o leiaf un unigolyn arall, er mwyn iddynt fedru herio tybiaethau ei gilydd.
Weithiau, y ffordd orau i ddysgu gwersi yw pan mae pethau’n mynd o chwith – dyma rai enghreifftiau.
Mynd dros ben llestri gyda’r cynllun peilot SharePoint
Wrth i ni aros am ein safleoedd SharePoint newydd, dechreuom arbrofi gyda rhai o’r opsiynau a fyddai ar gael, megis Microsoft Lists. Roedd hyn yn ymddangos fel ateb perffaith i’r holl daenlenni yr oeddem yn eu defnyddio i geisio cadw llygad ar ein prosiectau a’n rhaglenni. Fe wnaethom sefydlu cynllun peilot ar gyfer y tîm sy’n goruchwylio ein prosiectau cyfalaf, ac fe weithiodd yn wych (i ddechrau) – roedd modd iddynt ddiweddaru’r un ddogfen yn syml iawn, a defnyddio eu dulliau eu hunain ar y gronfa ddata i olrhain a diweddaru eu prosiectau eu hunain, gydag adroddiadau drwy Microsoft PowerBI.
Fodd bynnag, nid oeddem wedi sylwi nad oedd ffordd syml o drosglwyddo Microsoft List o un safle SharePoint i’r llall. Mae wedi bod yn anodd iawn ceisio ail-greu ein rhestr arbrofol a’r system PowerBI yn y safle newydd. Pe baem yn gwneud hyn eto, fe fyddem wedi aros i SharePoint fod yn barod cyn i ni ddechrau mynd dros ben llestri.
Deallusrwydd Artiffisial yn ein syfrdanu
Mae hyn yn codi rhywfaint o gywilydd arnom fel tîm arloesi, ond fedrwn ni ddim dysgu o’n camgymeriadau os nad ydym ni’n gallu bod yn onest amdanynt. Nid oeddem wedi rhagweld y byddai adnodd cymryd cofnodion Deallusrwydd Artiffisial ar gael eleni. Gall technoleg Deallusrwydd Artiffisial gymryd cofnodion am sgwrs rhwng gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol a’r unigolyn y maent yn eu cefnogi. Gall hyn arbed llawer o amser a gwella ansawdd sgyrsiau er mwyn i bobl fedru canolbwyntio mwy ar wrando a chyfathrebu yn hytrach na chymryd cofnodion.
Roeddem wedi darllen y canllawiau a’r elfennau moesegol mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial ym maes iechyd a gofal yn ôl ym mis Chwefror 2025 er mwyn ceisio paratoi, ond fe ddatblygodd pethau’n gynt na’r disgwyl.
Mae sawl prosiect peilot yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, gan gynnwys yng ngogledd Cymru, a dim ond megis dechrau dod i’w deall ydym ni. Mae llawer o gwestiynau ynghylch p’un a ddylai sefydliadau fuddsoddi ynddynt, a pha rai? A fyddant yn ein helpu i gefnogi pobl yn well a sut mae pobl yn teimlo am hyn?
Mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu ei ystyried yn y flwyddyn nesaf fel rhan o’n strategaeth gofal cymdeithasol ddigidol. Mae’r strategaeth hefyd yn rhan o’n cynllun i geisio bod ar flaen y gad mewn perthynas â’r datblygiadau hyn drwy gael syniad clir o beth yw’r problemau yn y maes gofal cymdeithasol a allai elwa o ddatrysiadau digidol yn y dyfodol.
Pan nad yw pethau’n taro deuddeg
Drwy adolygu’r data ar gyfer yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth, rydym wedi nodi nifer o newidiadau yn y math o ddata a gesglir a’r ffordd y caiff ei rannu, sydd wedi gwneud pethau ychydig yn anoddach i ni. Mae rhai o’r problemau hyn yn eithaf sylfaenol – mae sefydliadau megis y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn aml yn dibynnu ar arolygon i gynhyrchu ystadegau, ond mae’n anodd dod o hyd i bobl i gwblhau’r arolygon. Heb sampl cynrychiadol o bobl i gymryd rhan, ni ellir dibynnu ar ddata’r arolwg.
Rydym wedi rhannu’r problemau hyn a nodwyd gennym gyda phobl ar lefel genedlaethol a all helpu, ac rydym yn cymryd rhan mewn rhwydwaith IMPACT, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru i ystyried y ffordd yr ydym yn defnyddio data i wella gwasanaethau.
Yn y cyfamser, rydym yn datblygu ystadegau a dulliau amgen y gallwn eu defnyddio i lenwi’r bylchau. Mae hyn yn cynnwys y gwaith yr ydym wedi’i wneud o ran adrodd straeon ac ymgysylltu a chanolbwyntio mwy ar beth sy’n bwysig i’r bobl yr ydym yn eu cefnogi. Rydym hefyd yn ceisio egluro manteision a chyfyngiadau’r ffynonellau data gwahanol yr ydym yn eu defnyddio yn ein bwletinau ymchwil, er mwyn i bobl fedru penderfynu pa mor gadarn yw’r data ar gyfer eu hanghenion ymchwil a gwybodaeth eu hunain.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Beth sy’n newydd ar ein gwefan
Rydym wedi bod yn cefnogi’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i rannu straeon newyddion da am y gwaith y maent yn ei wneud i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Eleni, rydym wedi rhannu’r datganiadau canlynol i’r wasg ar draws gogledd Cymru:
- Mehefin a Gorffennaf 2025 Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Her Cerdded a Seiclo Wythnos Anableddau Dysgu
- Tachwedd 2025 Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Y Gwasanaeth Cyflogaeth â Chymorth Rhanbarthol
- Ionawr 2026 Gofal a chymorth yng ngogledd Cymru – rhowch wybod i ni beth sy’n bwysig
- Yn dod yn fuan: mwy o wybodaeth am y prosiectau cyfalaf.
Mae hyn yn ychwanegol i’r negeseuon blog rheolaidd yr ydym yn eu rhannu am waith sy’n mynd rhagddo ar draws gogledd Cymru. Ein negeseuon mwyaf poblogaidd yn ystod y flwyddyn oedd Lansiad Eisteddfod ar gyfer adnoddau newydd i gynorthwyo plant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru, neges ynghylch Treffynnon sy’n Gyfeillgar i Oedran a Dementia a’r wybodaeth ddiweddaraf am Arddangosfa Gofal Cymdeithasol Digidol Gogledd Cymru 2025.
Mae ein tudalen Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn parhau i fod ymhlith y tudalennau mwyaf poblogaidd ar y wefan, sef:
- Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (2,900 o ymwelwyr)
- Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru (2,500 o ymwelwyr)
- Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru (1,400 o ymwelwyr)
- Canolfannau Dementia Gogledd Cymru (1,300 o ymwelwyr)
- Fframwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (730 o ymwelwyr)
Newyddlenni
Bu i ni rannu 10 newyddlen yn ystod y flwyddyn, yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant, a chynyddodd nifer y tanysgrifwyr o 26 o unigolion ychwanegol, gan roi cyfanswm o 250.
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym wedi ymuno â Bluesky ym mis Rhagfyr 2024 ac mae gennym dros hanner gymaint o ddilynwyr yno ag sydd gennym ni ar X (Twitter). Ymunwch â ni ar @nwrich.bsky.social.
Mae nifer ein dilynwyr X (Twitter) wedi bod yn oddeutu 437 eleni, ac mae ein dilynwyr Bluesky wedi cynyddu i 264.
Defnyddiwyd y cyfryngau cymdeithasol i rannu syniadau da, prosiectau sy’n mynd rhagddynt, arloesedd ar draws y DU, digwyddiadau perthnasol a negeseuon trydar byw o gynadleddau. Fe’u defnyddiwyd hefyd i hybu’r gefnogaeth y gall ein tîm a sefydliadau eraill ei chynnig, i helpu gyda phrosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.

Sut rydyn ni’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod
Mae dau brif sbardun ar gyfer ein rhaglen waith – y blaenoriaethau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith Hwb RIC i weithio arnynt gyda’i gilydd (y Rhaglen Arloesi Gweithio ar Raddfa) a’r blaenoriaethau gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid i lunio ein rhaglen
O fewn y blaenoriaethau arfaethedig hyn, mae ein rhaglen waith yn cael ei siapio trwy ymgysylltu parhaus â phartneriaid ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae llawer o’n gwaith ymchwil ac arloesi yn dod i’r amlwg o ymarfer, lle mae byrddau, rhaglenni a thimau yn nodi heriau neu gyfleoedd a fyddai’n elwa o dystiolaeth ychwanegol, gwerthuso neu gymorth arloesi.
Yn ystod y flwyddyn rydym yn derbyn ceisiadau a syniadau gan ystod eang o bartneriaid sy’n gweithio tuag at flaenoriaethau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys cais gan Benaethiaid Gwasanaethau Oedolion Gogledd Cymru (NWASH) am gymorth i ddatblygu strategaeth ddigidol a cheisiadau gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Plant am werthuso prosiectau.
Rydym yn cymryd agwedd ymatebol ond ffocws at y gwaith hwn. Er na ellir cynllunio pob gweithgaredd ymlaen llaw, rydym yn cymhwyso meini prawf clir wrth gytuno ar ddarnau newydd o waith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- aliniad â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol
- potensial i gefnogi dysgu, gwella neu fabwysiadu arloesi
- budd i fwy nag un sefydliad neu ran o’r system
- parodrwydd a gallu (ein hunain a phartneriaid) i wneud y gwaith yn dda
Mae’r dull hwn yn caniatáu inni gynllunio’n fwriadol ar gyfer y flwyddyn i ddod ac aros yn agored i gyfleoedd partneriaeth wrth iddynt godi. Mae’n adlewyrchu realiti gweithio ym maes ymchwil ac arloesi, lle mae ymateb i gwestiynau sy’n dod i’r amlwg yn hanfodol i gynhyrchu tystiolaeth berthnasol, cefnogi gwelliant a sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod wedi’i seilio ar yr hyn sy’n bwysig i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Yn ystod 2026/27 byddwn yn olrhain sut mae ceisiadau partneriaeth yn cyd-fynd â’n meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ac yn defnyddio hyn i fyfyrio ar ble mae cefnogaeth y tîm wedi cael yr effaith fwyaf a ble y dylid canolbwyntio ar gapasiti yn y dyfodol.
Beth nesaf
- Hyrwyddo’r pethau sy’n gweithio’n dda a draws gogledd Cymru a thu hwnt – gweithio gyda’r Hwb CARh cenedlaethol i nodi, profi a chyflwyno ymyraethau llwyddiannus, gan gynnwys y prosiect cartrefi cynnes a syniadau eraill yn barod i’w mabwysiadu’n ehangach.
- Cryfhau gwerthuso a dysgu – parhau i gefnogi partneriaid â dulliau gwerthuso ymarferol yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd (gan gynnwys Mapio Effeithiau Ymledol a Newid Mwyaf Arwyddocaol) i ddeall beth sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, pa ddulliau sydd fwyaf cost effeithiol ac yn helpu prosiectau effeithiol i barhau.
- Gwella mynediad at dystiolaeth, data a mewnbwn – ymestyn y mynediad at ymchwil, adolygiadau tystiolaeth a gwybodaeth ranbarthol, a darparu Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2027 i gefnogi cynlluniau, cydlyniant a phenderfyniadau gwell ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cefnogi trawsnewid digidol, data a thechnoleg – drwy weithio gyda Bwrdd Digidol, Data a Thechnoleg Gogledd Cymru er mwyn gwella sylfeini digidol, hyrwyddo cynhwysiant digidol a nodi dulliau yn seiliedig ar dechnoleg i gefnogi gofal mwy esmwyth ac integredig.
Cysylltwch â ni
Rhif ffôn: 01824 712432
E-bost: nwrich@sirddinbych.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol:
- BlueSky: @hcargc.bsky.social / @nwrich.bsky.social
- X (Twitter): @NW_RICH_ / @_NW_RICH