- Crynodeb
- Amser ailfrandio!
- Y flwyddyn mewn ffigyrau
- Beth wnaethom ei ddarganfod eleni
- Casgliad o syniadau da
- Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu
- Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022
- Mapio ymchwil, arloesi a gweithgareddau gwella
- Sgiliau ymchwil
- Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Beth nesaf
- Cysylltwch â ni
- Lawrlwytho’r fersiwn PDF
Crynodeb
Nod y ganolfan yw cydlynu gwaith ymchwil, arloesi a gwella yng Ngogledd Cymru i fod yn sail ar gyfer dulliau integredig newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o’r ymrwymiad a wnaed yn y cynllun Cymru Iachach.
Yn 2021-22 lansiwyd y casgliad o syniadau da a chronfa ddata ymgysylltu ar ein gwefan. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu i rannu arferion da a gwella cydlyniant gweithgareddau ar draws Gogledd Cymru.
Roeddem wedi cefnogi rhaglenni rhanbarthol gyda dyluniad arolwg, gwerthusiadau, chwiliadau data a llenyddiaeth i’w helpu i ddeall beth sy’n gweithio a thargedu adnoddau yn fwy effeithiol. Roedd hyn yn cynnwys cynnal arolygon o’r hyn mae rhieni ei angen a chwiliadau cynhwysfawr o adnodda i blant a phobl ifanc i gefnogi fframwaith newydd i gefnogi iechyd a lles emosiynol. Yn ogystal â diweddaru Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.
Roeddem wedi cynnal cyfweliadau, arolygon a mapio adnoddau i ganfod beth sydd angen digwydd i gefnogi ymchwil ac arloesi a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y gwaith hwn yn datblygu sut mae’r ganolfan yn datblygu dros y flwyddyn nesaf.
Roeddem wedi gweithio’n agos gyda chanolfannau rhanbarthol eraill a sefydliadau cenedlaethol i rannu, hybu a datblygu syniadau newydd. Erbyn diwedd y flwyddyn roeddem wedi cynyddu dilynwyr ein cyfrif Twitter i 300 a 150 o bobl wedi tanysgrifio i restr bostio’r Ganolfan Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella.
Amser ailfrandio!
O Ebrill 2022 byddwn yn dechrau ailfrandio fel Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol. Bydd y ganolfan yn cadw ei gweledigaeth wreiddiol fel y nodwyd yn Cymru Iachach i gydlynu ymchwil ac arloesiad a chymell ffyrdd newydd o weithio i wella gofal a chefnogaeth. Ond mae’r enw newydd yn adlewyrchu ein rôl yn well yn Rhaglen Arloesi newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Dilynwch ni ar Twitter @_NW_RICH_ a chofrestrwch i dderbyn ein newyddlen am fwy o wybodaeth.
Y flwyddyn mewn ffigyrau
Beth wnaethom ei ddarganfod eleni
Mae’r ganolfan wedi bod yn helpu i ddylunio, cynnal a dadansoddi arolygon i ganfod sut y gallwn wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Dyma gipolwg sydyn ar rai o’r pethau rydym wedi eu darganfod.
- Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio’n eang i wneud gwasanaethau yn well i bobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yng Ngogledd Cymru. Yr her fwyaf oedd sicrhau mynediad cyfartal i staff i dechnoleg. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o staff gofal cymdeithasol yn defnyddio eu dyfeisiau digidol eu hunain ar gyfer hyfforddiant ac mae hwn yn tueddu i fod yn ffôn clyfar. Mwy o wybodaeth: Sgiliau digidol a mynediad i staff gofal cymdeithasol.
- Mae yna enghreifftiau o wasanaethau gofal a chefnogaeth yn gweithio’n dda ar draws Gogledd Cymru ond mae gwasanaethau angen mwy o staff, cyllid gwell a gweithio’n well gyda’i gilydd. Mwy o wybodaeth: Adroddiad arolwg ymgynghoriad asesiad o anghenion y boblogaeth.
- Mae angen cefnogaeth, cyllid ac arweinyddiaeth i hybu ymchwil, arloesi a gweithgareddau gwella o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mwy o wybodaeth: Gwella iechyd a gofal cymdeithasol: beth sydd angen digwydd
Canfod beth sy’n gweithio: chwilio llenyddiaeth
Eleni roedd 106 o chwiliadau llenyddiaeth wedi eu cwblhau yn cynnwys chwilio amryfal i gefnogi prosiect ‘pump awgrym llesol’ iechyd a lles emosiynol ac ar gyfer asesiad o anghenion y boblogaeth. Roedd testunau yn cynnwys plant, pobl hŷn, iechyd meddwl, anableddau synhwyraidd, awtistiaeth, anableddau dysgu, anableddau corfforol a gofalwyr. Roedd chwiliadau eraill yn cynnwys; dementia a chlyw, dementia a siaradwyr Cymraeg, dementia a materion gwledig, dementia ac anableddau dysgu, ystadegau dementia, ystadegau’r boblogaeth, cryfder cymunedol a menter gymdeithasol.
Canfod beth sy’n gweithio: Iechyd a gofal cymdeithasol ataliol
Fel rhan o’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio map o’r dystiolaeth ar gael ar gyfer rhestr o wasanaethau ataliol a ddefnyddir ar draws y rhanbarth.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i hybu’r canfyddiadau hyn ac annog cydweithwyr i gael golwg ar y dystiolaeth sydd ar gael wrth ddatblygu gwasanaethau ataliol. Mae yna hefyd ddigon y gallwn ddysgu o’r adolygiad am y math o dystiolaeth yr ydym angen ei chasglu i ganfod a yw ffyrdd newydd o weithio yn cael yr effaith yr ydym yn ei ddymuno.
Mwy o wybodaeth: Beth sydd a beth sydd ddim yn gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol ataliol.
Canfod beth sy’n gweithio: Y Gronfa Gofal Integredig
Roeddem wedi cwblhau saith adolygiad manwl a 76 adolygiad bwrdd gwaith o brosiectau’r Gronfa Gofal Integredig i nodi prosiectau sydd â’r potensial ar gyfer cynyddu. Roedd hyn wedi cynhyrchu llawer o wybodaeth ddefnyddiol i helpu i benderfynu pa brosiectau i’w ehangu, cadw neu newid. Roedd hefyd yn ein dysgu lawer pa mor ddefnyddiol oedd y gwahanol ffyrdd o fesur effaith prosiectau wrth wneud y penderfyniadau hyn. Roeddem yn defnyddio hyn fel sail ar gyfer gweithdy a gynhaliwyd gydag arweinyddion CGI am fesur deilliannau. Byddwn hefyd yn defnyddio’r dysgu hwn wrth sefydlu systemau i fonitro’r prosiectau Cronfa Integreiddio Rhanbarthol newydd fel bod gennym wybodaeth eglur am beth sy’n gweithio’n dda a ble rydym angen gwella.
Canfod beth sy’n gweithio: Iechyd a lles emosiynol plant a phobl ifanc
Mae’r Ganolfan yn cefnogi’r prosiect ‘Pum Awgrym Llesol’ Iechyd a Lles Emosiynol, datblygu casgliad ar-lein o adnoddau i gefnogi lles plant. Cafodd arolygon eu cynnal ar gyfer rhieni plant 0 i 3, 4 i 7, 12 i 15 ac 16 i 18 oed ynglŷn â lles eu plant (roedd yr arolwg peilot a gwblhawyd y llynedd ar gyfer rhieni plant 8 i 11 oed). Roedd adroddiadau arolwg wedi eu creu i gyflwyno’r data a phrif ganfyddiadau ar gyfer y prosiect ‘pump awgrym llesol’. Cafodd y canfyddiadau eu defnyddio i gefnogi datblygiad yr ap lles ar gyfer plant 8 i 11 oed a defnyddir ar gyfer datblygu’r ap i’r ystod oedran arall. Roedd ein Llyfrgellydd Arbenigol hefyd yn rhan o’r grŵp prosiect yn gweithio gyda datblygwyr i helpu i greu’r ap ar gyfer plant 8 i 11 oed, eu rhieni neu oedolion y gellir ymddiried ynddynt a gweithwyr proffesiynol.
Casgliad o syniadau da
Rydym wedi casglu llawer o syniadau da ar gyfer gwella gofal cymdeithasol ac iechyd ar draws Gogledd Cymru ac wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan. Gellir chwilio neu hidlo’r gronfa ddata newydd yn ôl y testunau sydd o ddiddordeb i chi. Os ydych chi eisiau darganfod beth sy’n digwydd, cael ysbrydoliaeth am brosiect newydd neu eisiau pori, ewch i gael golwg yma: Casgliad o syniadau da
Os oes gennych syniad da yr hoffech ei rannu, rhowch wybod i ni NWRICH@denbighshire.gov.uk
Cydlynu gweithgareddau ymgysylltu
Mae yna lawer o wybodaeth yn cael ei chasglu bob blwyddyn am brofiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal ond mae llawer o hyn yn cael ei ddefnyddio at un diben ac yna’n cael ei waredu. Mae hyn yn golygu y gofynnir cwestiynau ailadroddus i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau at ddibenion ychydig yn wahanol, sy’n wastraff amser ac ewyllys da pawb. Mae hefyd yn golygu ein bod yn colli allan ar bob math o syniadau da i arloesi a gwella gwasanaethau. Rydym eisiau gwella hyn.
- Cam 1. Roeddem wedi casglu cymaint o wybodaeth â phosibl am ganlyniadau gweithgareddau ymgysylltu diweddar yn ymwneud â gofal a gwasanaethau cefnogi yng Ngogledd Cymru.
- Cam 2. Roeddem wedi creu cronfa ddata ar-lein ble roeddem wedi cyhoeddi crynodebau o’r holl ganlyniadau. Gall unrhyw un chwilio, hidlo neu bori drwy’r gronfa ddata i ganfod yr hyn a ofynnwyd ac atebwyd yn barod.
- Cam 3. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o awdurdodau lleol, y bwrdd iechyd a phartneriaid eraill i ddatblygu rhwydwaith strategol ble gallwn gydlynu a gwella’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â’n cymunedau.
Os oes gennych wybodaeth yr hoffech ei hychwanegu at y gronfa ddata, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Pori drwy’r cyfeiriadur ymgysylltu
Sylw ar ymgysylltu dementia
Rydym yn adolygu gweithgareddau ymgysylltu dementia i nodi unrhyw fylchau a meysydd ble gallwn wella. Roedd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth gan gysylltiadau mewn cynghorau lleol, gwasanaethau iechyd a’r sector gwirfoddol. Mae gwybodaeth a gasglwyd hyd yma yn dangos ystod o ymgysylltu uniongyrchol gyda grwpiau sefydledig yn ogystal â gweithgaredd arolwg ehangach yn lleol ac yn genedlaethol. Mae dangosyddion cynnar yn dangos bod ymgysylltu yn bennaf gyda phobl sy’n fodlon ymgysylltu ac sydd eisoes yn cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae’r rhain yn grwpiau sy’n ymgysylltu’n hawdd ac yn fodlon yn bennaf i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu o’r fath. Mae yna rai themâu yn codi fel cyrraedd pobl nad ydynt yn ymgysylltu neu mor weithgar mewn cymunedau am amrywiol resymau, cydgynhyrchu yn cynnwys dysgu o arferion da, y Gymraeg a dementia cynnar
Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022
Roeddem wedi llwyddo i gwblhau asesiad llawn o Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru mewn partneriaeth gydag arweinwyr awdurdod lleol a bwrdd iechyd, a gefnogwyd gan gydweithwyr yn y Tîm Cydweithio Rhanbarthol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Er mwyn paratoi’r adroddiad, casglwyd gwybodaeth a data, edrychwyd ar ystadegau, siaradwyd gyda’n cymunedau a gwnaed defnydd o ystod eang o wybodaeth a gasglwyd gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau.
Mae’r adroddiad yn ein helpu i ddatblygu ein blaenoriaethau rhanbarthol a chynllunio a gwella gwasanaethau ar draws y rhanbarth.
Gweld yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar y wefan cydweithio rhanbarthol.
Mapio ymchwil, arloesi a gweithgareddau gwella
Bwriad cyntaf y ganolfan oedd mapio holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gweithgareddau gwella ac arloesi ar draws Gogledd Cymru. Er mwyn cyflawni’r dasg enfawr hon, gwnaethom dderbyn cymorth gan gydweithwyr o’r Ganolfan Technoleg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe oedd wedi cynnal ymarfer tebyg mewn rhanbarthau eraill. Mae hyn yn golygu y gallwn gymharu’r canfyddiadau ar draws Cymru i weld ein cryfderau a gwendidau yn ogystal â chyfleoedd i weithio’n well gyda’n gilydd.
Roedd yr adolygiad yn canfod llawer o gryfderau mewn gweithgaredd ymchwil, arloesi a gwella o fewn iechyd a gofal cymdeithasol ar draws ystod eang o bartneriaid gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, sector gwirfoddol a phrifysgolion. Meysydd blaenoriaeth a nodwyd oedd angen mwy o weithgaredd ymchwil, arloesi a gwella oedd:
- Gwasanaethau iechyd meddwl a chefnogaeth ehangach:
- Gofalwyr sy’n derbyn tâl a’r di-dâl
- Cartrefi gofal
- Plant a phobl ifanc
- Integreiddio arloesi drwy iechyd a gofal cymdeithasol
Mewn arolwg am beth yr oedd staff yn feddwl oedd angen digwydd i gefnogi ymchwil ac arloesi, roedd llawer o gyfranogwyr yn rhannu enghreifftiau o beth oedd yn gweithio’n dda nawr:
- Cefnogaeth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwelliant
- Cyfranogiad a chyfathrebu
- Amser dynodedig i wneud gwaith ymchwil a gwerthusiadau gyda chefnogaeth gan yr uwch dîm rheoli.
- Cyllid i roi prosiectau newydd ar waith a darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i staff a myfyrwyr.
- Diwylliant a strwythurau sefydliadol sy’n helpu i hwyluso gwelliant.
- Ymgysylltu a chydgynhyrchu
Roedd digon o le i wella ym mhob un o’r meysydd hyn hefyd.
Gwefan gymorth Ymchwil ac Arloesedd
Roeddem hefyd yn gweithio gyda’r Asiantaeth Arloesi i archwilio strategaethau ar gyfer hybu gweithgareddau ymchwil, arloesi a gwella o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Fel rhan o’r Labordai Byw roedd cyfranogwyr gwaith wedi mapio’r holl asedau y gallent feddwl amdanynt i gefnogi gweithgaredd ymchwil, arloesi a gwella yng Ngogledd Cymru. Roeddem wedi llunio’r map isod, tra’n anodd i’w ddarllen heb chwyddwydr, mae’n amlygu’r amgylchedd cymhleth ar gyfer byw ynddo!
Labordai Byw: Gweithdy camau nesaf
Er mwyn helpu pobl i lywio’r wefan cefnogaeth rydym wedi datblygu cyfres o lwybrau ymchwil, arloesi a gwella ar ein gwefan.
Roedd yr Asiantaeth Arloesi wedi cynnal cyfres o gyfweliadau, grŵp ffocws a gweithdai i helpu i ddatblygu gweledigaeth a siarter. Roedd y canfyddiadau o’r gweithdy terfynol wedi eu cofnodi yn y cofnodion rhithiol isod.
Roedd y gwaith mapio hwn yn amlygu’r rôl bwysig sydd gan y ganolfan i gydlynu a helpu pobl i lywio’r wefan gymhleth o sefydliadau, adnoddau a rhwydweithiau. Roedd yn ein helpu i ddatblygu gwerthoedd a rennir a dull ble rydym yn dod â bobl at ei gilydd ynglŷn â thestun o ddiddordeb, defnyddio ymchwil ac arloesi fel adnodd i’n helpu i weithio gyda’n gilydd i wella lles pobl a chymunedau yng Ngogledd Cymru.
Sgiliau ymchwil
Darn arall o waith mapio a wnaed gennym oedd edrych ar pa sgiliau ymchwil sydd eu hangen o fewn cynghorau lleol yng Ngogledd Cymru i gynnal a defnyddio tystiolaeth ymchwil i fynd i’r afael ag achosion cymdeithasol o iechyd gwael a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid academaidd i weld sut gall prifysgolion lleol gefnogi’r gweithgaredd hwn. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu â’r Academi ALPHA ym Mhrifysgol Bangor, rhan o rwydwaith a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru o Academïau Dysgu Dwys a gyda Phartneriaeth Ymchwil a Chipolwg Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Yr ysgogwr ar gyfer y gwaith hwn oedd cyfle cyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal i ddatblygu Cydfenter Ymchwil Penderfynyddion Iechyd o fewn cyngor lleol. Yn anffodus, roedd ein cais yn aflwyddiannus, ond roedd y broses o’i baratoi yn ddefnyddiol iawn ar gyfer creu cysylltiadau newydd ac egluro ein cryfderau a chyfleoedd ar gyfer gwelliannau fel rhanbarth.
Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Yn 2021-22 roeddem wedi parhau i gwrdd â llawer o bobl a chreu cysylltiadau i helpu i rannu syniadau newydd ac arferion da ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Roedd hyn yn cynnwys cyfle i gyflwyno ein gwaith yng Nghynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru a siarad gyda myfyrwyr ar gwrs Polisi Gofal Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Rydym hefyd yn darparu cyngor ar ganllawiau Defnyddio tystiolaeth i lywio gwelliant a baratowyd fel rhan o’r fframwaith perfformiad a gwella newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.
Gwefan
Roeddem wedi parhau i ddatblygu ein tudalennau gwe gan gynnwys llwybrau ymchwil, arloesi a gwella, casglu syniadau da a chronfa ddata ymgysylltu. Eleni, roedd yna 475 o ymweliadau â thudalen hafan y ganolfan ac roedd 1,600 o ymweliadau â thudalen unigryw gwaith Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.
Newyddlenni
Roeddem wedi rhannu 6 newyddlen yn ystod y flwyddyn yn llawn gwybodaeth am weithgareddau ymchwil, arloesi a gwelliant ac roedd nifer y tanysgrifwyr wedi cynyddu i 150.
Diweddariad am sbwriel
Yn ystod y flwyddyn, roedd dilynwyr ar ein cyfrifon Twitter wedi cynyddu 122, roedd argraffiadau wedi cynyddu dros 36,000, clicio ar ddolen wedi cynyddu 104, aildrydar 161 a hoffi wedi cynyddu 135. Mae’r cyfrifon Twitter wedi eu defnyddio i rannu syniadau da, prosiectau parhaus, arloesi ar draws y DU, digwyddiadau perthnasol a negeseuon trydar byw o gynadleddau. Maent hefyd wedi eu defnyddio i hybu’r gefnogaeth y gall ein tîm a sefydliadau eraill ei chynnig, i helpu gyda phrosiectau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.
Roedd ein cynnydd mwyaf mewn dilynwyr yn ystod Mai 2021 ble roedd yna lawer o ymgysylltu gyda’r straeon a rannwyd fel rhan o wythnos dementia. Ym mis Mai 2021 roeddem hefyd yn rhan o feddiannu’r cyfryngau cymdeithasol gan Mencap i rannu’r canfyddiadau o’u prosiect hanes llafar ‘Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol’ am bobl ag anableddau dysgu a’u cyfeillgarwch a pherthynas rhamantaidd.
Beth nesaf
Yn 2022-23 byddwn yn:
- Gwella sut yr ydym yn defnyddio data, cipolwg a gwybodaeth ar draws y rhanbarth i nodi ble mae angen newid. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o’r Asesiad o Anghenion Poblogaeth a gwella systemau ar gyfer casglu, dadansoddi a chyflwyno data am anghenion, deilliannau a phrofiadau pobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth.
- Gwella sut yr ydym yn cydlynu ymgysylltu drwy ddatblygu rhwydwaith strategol rhanbarthol a gefnogir gan ein cronfa ddata ymgysylltu ar-lein. Nod y rhwydwaith hwn fydd gwella sut yr ydym yn casglu, dadansoddi a defnyddio canfyddiadau o weithgareddau ymgysylltu fel bod y gwaith yn cael mwy o effaith.
- Gwella mynediad i dystiolaeth drwy waith y Llyfrgellydd Arbenigol a chydweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a’r rhaglen Datblygu Ymarferion sy’n cael eu gwella gan Dystiolaeth.
- Galluogi arloesi drwy weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a datblygu cysylltiadau gyda chyrff cenedlaethol fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Gwella Cymru, Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach, Comisiwn Bevan a Thechnoleg Iechyd Cymru.
- Darparu cefnogaeth a dylunio, comisiynu a chynnal gwerthusiadau cadarn i nodi beth sy’n gweithio. Bydd yr haen hon yn gweithio’n agos gyda’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i sicrhau bod prif ganfyddiadau yn cael eu nodi, rhannu a’u graddio fel bo’n briodol.
- Hybu beth sy’n gweithio drwy ychwanegu at y ‘casgliad o syniadau da’ ar-lein fel adnodd i rannu beth sy’n gweithio’n dda ar draws Gogledd Cymru a hybu drwy ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a rhestr bostio.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 01978 297358
E-bost: nwrich@denbighshire.gov.uk
Twitter: @NW_RICH_
Gwefan: www.cydweithredfagogleddcymru.cymru/hwb-cydlynu-ymchwil-arloesi-a-gwelliant/
Lawrlwytho’r fersiwn PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch
Yn ôl i frig y dudalen.